Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel
Cyswllt: Sulafa Thomas, x6227
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad |
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. |
|
Datganiadau o fuddiant Cofnodion: Ni chafwyd datganiadau o
fuddiant. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cofnodion: Cytunwyd bod cofnodion 4
Mawrth yn gofnod cywir. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am Urddas a Pharch Cofnodion: Cafodd y Comisiynwyr y
wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o ran gweithredu argymhellion
adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, 'Creu'r Diwylliant Cywir'. Nododd y Comisiynwyr hefyd y bydd yr Arolwg Urddas a Pharch blynyddol
nesaf yn cael ei anfon at Aelodau'r Cynulliad, eu staff a staff y Comisiwn ar
ôl toriad y Pasg. Trafododd y Comisiynwyr
sut yr oeddent am ymateb i argymhelliad y Pwyllgor Safonau i ganiatáu i bobl
roi gwybod am ddigwyddiadau’n ddienw.
Cytunwyd y byddent yn ailystyried y mater yn dilyn yr arolwg Urddas a
Pharch sydd ar y gweill. Trafodwyd hefyd
ganlyniadau'r ymarfer ‘siopa dirgel’ a gynhaliwyd ddiwedd 2018, a nodwyd y
wybodaeth a ddaeth i law. Cytunodd y Comisiynwyr i
ymateb i'r Pwyllgor yn nodi'r penderfyniad i ailystyried yr argymhelliad i
ganiatáu i bobl roi gwybod am ddigwyddiadau’n ddienw, a rhannu'r tabl diweddaru
a'r adroddiad ar yr ymarfer siopa dirgel, gan ddisgwyl y bydd yr ymateb hwn yn
cael ei gyhoeddi. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am Ddiwygio’r Cynulliad Cofnodion: Cafodd y Comisiynwyr y
wybodaeth ddiweddaraf am hynt y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru). Tynnodd y Llywydd sylw at sesiwn dystiolaeth
y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y bu’n bresennol ynddi, a
soniodd wrth y Comisiynwyr am y trafodaethau sy’n mynd rhagddynt mewn perthynas
â chydweithio â Llywodraeth Cymru i godi ymwybyddiaeth am addysg
dinasyddiaeth. Trafododd y Comisiynwyr y
wybodaeth gan nodi bod trafodaethau'n mynd rhagddynt yng Nghyfnod 2 ynglŷn
â'r dull o ariannu’r Comisiwn Etholiadol a’i atebolrwydd. |
|
Cyllideb Atodol Comisiwn y Cynulliad Cofnodion: Cyflwynwyd papur i'r
Comisiynwyr yn egluro sut y bydd y cynnydd yng nghyfraniadau pensiwn y
cyflogwr, a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2019, yn effeithio ar Gynllun Pensiwn y
Gwasanaeth Sifil. Cadarnhaodd y papur fod
gwybodaeth wedi dod i law gan Swyddfa'r Cabinet yn nodi y bydd cyfraniadau
pensiwn y cyflogwr i Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil yn codi o 21 y cant i
28 y cant ar gyfartaledd. Nododd y Comisiynwyr y
datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd. Trafodwyd yr angen i baratoi cyllideb atodol
i ddiwallu'r angen hwn a chytunwyd ar y cam o gyflwyno Memorandwm Esboniadol a
fydd yn sicrhau cynnydd o £0.965 miliwn yn y gyllideb staffio (cyfraniadau
pensiwn). Nododd y Comisiynwyr y
llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid gan gytuno ar ei gynnwys. Bydd y Memorandwm
Esboniadol (Cyllideb Atodol) yn cael ei osod yn unol â'r Rheolau Sefydlog yn
ystod mis Mai/Mehefin 2019. |
|
Dangosyddion Perfformiad Corfforaethol Cofnodion: Roedd y Comisiynwyr wedi cytuno
i ystyried set newydd o ddangosyddion perfformiad corfforaethol. Mae'r Dangosyddion
Perfformiad newydd yn parhau i gyd-fynd â nodau a blaenoriaethau'r Comisiwn,
ond maent yn awr yn cynnwys dwy set o ddangosyddion byrrach a mwy penodol. Cytunodd y Comisiynwyr ar: a. Set o fesurau strategol o
berfformiad corfforaethol cyffredinol; a b. Set o fesurau sy'n
'ymestyn' y sefydliad i ddatblygu perfformiad mewn meysydd y gellid eu gwella. Trafododd y Comisiynwyr
natur y targedau ymestynnol, gan groesawu eu datblygiad. Gofynnwyd am naratif disgrifiadol ynghylch yr
agweddau hynny ar y dangosyddion sy’n ymwneud â chaffael, iaith ac ymgysylltu. Bydd y dangosyddion
newydd yn cael eu cyflwyno ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd (2019-20). Cytunodd y Comisiynwyr y
bydd gwybodaeth yn ymwneud â’r ddwy set o ddangosyddion yn cael ei chynnwys yn
yr Adroddiad Blynyddol, yn hytrach nag mewn adroddiad perfformiad ar wahân. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am gapasiti o ran adnoddau'r Comisiwn Cofnodion: Yn eu cyfarfod diwethaf,
trafododd y Comisiynwyr gynigion i lacio’r cap presennol o 491 o swyddi, er mwyn sicrhau adnoddau
ychwanegol, a hynny’n bennaf i fynd i'r afael â heriau Brexit. Roeddent wedi gofyn am ragor o fanylion am y
swyddi ychwanegol disgwyliedig. Cytunodd y
Comisiynwyr i ganiatáu'r cam o gynyddu'r gweithlu mewn modd cymedrol a
rheoledig, sef creu hyd at 10 swydd newydd uwchlaw'r 491 presennol, gan
ddechrau gyda'r chwe swydd y cyflwynwyd cais amdanynt eisoes. Cytunodd y Comisiynwyr y
dylid hysbysu'r Pwyllgor Cyllid. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am y Cynllun Ymadael Gwirfoddol Eitem lafar Cofnodion: Cafodd y Comisiynwyr y
wybodaeth ddiweddaraf am y Cynllun Ymadael Gwirfoddol, a chadarnhawyd y byddai
25 aelod o staff yn gadael o ganlyniad i’r cynllun. |
|
Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Craffu ar Gyfrifon 2017-18 Cofnodion: Cafodd y Comisiynwyr
wybod am waith craffu'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (PAC)
mewn perthynas â Chyfrifon 2017-18. Roedd
y Pwyllgor wedi cyflwyno adroddiad ar y broses flynyddol o graffu ar y cyfrifon
ac adroddiadau blynyddol amrywiaeth o sefydliadau sy’n cael eu hariannu o’r
pwrs cyhoeddus. Mae'r adroddiad terfynol
yn cynnwys 40 o argymhellion, ac mae naw ohonynt yn ymwneud â'r Comisiwn. Nododd y Comisiynwyr yr
adroddiad, a chytunwyd y byddai'r Comisiynydd sydd â chyfrifoldeb dros y
Gyllideb a Llywodraethu yn drafftio ymateb i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.
Caiff y Comisiynwyr weld copi o’r ymateb cyn y caiff ei anfon at y Pwyllgor. |
|
Papurau i’w nodi: |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau i nodi 20 mlynedd ers sefydlu’r Cynulliad Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
wybodaeth ddiweddaraf ar roddwyd iddynt am y trefniadau i nodi ugain mlynedd
ers sefydlu'r Cynulliad. Cytunwyd y byddent yn cael diweddariad pellach am
ddigwyddiadau'r hydref cyn toriad yr haf, a chynigiodd y Comisiynwyr eu
cefnogaeth i'r broses o ddarparu trefniadau. |
|
Cofnodion y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg (ACARAC) – y cyfarfod a gynhaliwyd ym mis Chwefror Cofnodion: Yn ôl yr arfer, nododd y
Comisiynwyr gofnodion y cyfarfod ACARAC a gyflwynwyd. Fel y deiliad portffolio
sy'n mynychu cyfarfodydd ACARAC, roedd Suzy Davies yn dymuno atgoffa’r aelodau
eu bod yn Rheolwyr Data yng nghyd-destun GDPR, a bod hyfforddiant ar gael i’w
cynorthwyo yn y cyswllt hwn. |
|
Diweddariad gan y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau’r Ddogfen Awdurdodi Recriwtio (RAD)) Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
wybodaeth ddiweddaraf a gyflwynir yn rheolaidd ym mhob un o gyfarfodydd y
Comisiwn. |
|
Unrhyw Fater Arall Cofnodion: ·
Bwriad i recriwtio
Cyfarwyddwr Er mwyn cyflawni gofyniad
Dirprwyaeth y Comisiwn, ymgynghorodd Manon â'r Comisiwn ynghylch ei bwriad i benodi
Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu, a hynny er mwyn llenwi'r swydd wag a fydd
yn codi maes o law. Nododd hefyd y byddai trefniadau dros dro yn cael eu gwneud
i ddarparu'r math o gymorth a ddarperir ar hyn o bryd gan y Prif Gynghorydd
Cyfreithiol, sy'n ymadael, gan ychwanegu y byddai'r gydnabyddiaeth ariannol a'r
telerau ac amodau o dan y trefniant dros dro yn wahanol i'r trefniadau ar gyfer
deiliad presennol y swydd. ·
Sgam ffôn Clywodd y Comisiynwyr am
sgâm dros y ffôn sy'n defnyddio rhai o rifau ffôn y Cynulliad. Gofynnwyd i’r aelodau gysylltu â'u rheolwr
Cyfrif TGCh os ydynt yn cael galwadau ymwneud â’r sgâm. ·
Llythyr gan Gadeirydd y
Pwyllgor Cyllid Roedd y
Pwyllgor Cyllid wedi ysgrifennu at y Comisiwn yn gofyn iddo roi tystiolaeth
ysgrifenedig ar gyfer ei waith craffu ar ôl deddfu ar Ddeddf Archwilio
Cyhoeddus (Cymru) 2013. Cytunodd y Comisiynwyr
i'r Comisiynydd sydd â chyfrifoldeb dros Gyllideb a Llywodraethu ymateb ar eu
rhan. |