Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sulafa Thomas, x6227
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad |
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Croesawodd y Llywydd
Gynghorwyr Annibynnol newydd y Comisiwn, a fu'n bresennol am ran o'r cyfarfod,
a Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes newydd y Cynulliad. Diolchodd y Llywydd i'r
ddau Gomisiynydd newydd am ymgymryd â phortffolios eu rhagflaenwyr, ac fe'u
croesawyd i'w cyfarfod Comisiwn ffurfiol cyntaf. Ni chafwyd ymddiheuriadau. |
|
Datganiadau o fuddiant Cofnodion: Ni chafwyd Datganiadau o Fuddiant. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Tachwedd. |
|
Strategaeth y Gyllideb a Chyllideb y Comisiwn 2020-21 Cofnodion: Dechreuodd y Comisiynwyr
drafodaethau cychwynnol ynghylch eu dull gweithredu ar gyfer strategaeth y
gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020-21. Trafododd y Comisiynwyr
gynigion ar gyfer strategaeth y gyllideb a gofyniad y gyllideb gyffredinol ar
gyfer 2020-21 a'r ddwy flynedd ganlynol. Yn benodol, roedd y drafodaeth hon yn
canolbwyntio ar flaenoriaethau'r Comisiwn ar gyfer blwyddyn olaf y Cynulliad
hwn. Nododd y Comisiynwyr y byddai angen trafodaeth bellach ar y cynnydd yng
Nghyfraniadau Pensiwn y Cyflogwr i Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil pan fydd
rhagor o wybodaeth ar gael. Cytunwyd hefyd ar ymateb
i gais y Pwyllgor Cyllid am farn ar ganllawiau cyllidebol. Bydd cyllideb '20 -21 y
Comisiwn yn cael ei gosod yn unol â gofynion y Rheolau Sefydlog ym mis Medi. |
|
Gwelliannau o ran Diogelwch Amddiffynnol Cofnodion: Trafododd y Comisiynwyr
gynigion i wneud gwelliannau i'r diogelwch amddiffynnol mewn mannau mynediad
cyhoeddus. Y cynnig yw gwella
diogelwch yr ystâd trwy ddarparu lefel briodol o ddiogelwch ac oedi ar y prif
fynedfeydd cyhoeddus. Byddai'r cynigion yn addasu’r ddwy fynedfa. Cytunodd y Comisiynwyr i
ofyn am farn eu grwpiau ar y newidiadau posibl. Cytunodd y Comisiynwyr na
ddylid cyhoeddi'r papur. |
|
Paratoadau Comisiwn y Cynulliad ar gyfer gadael yr UE Cofnodion: Trafododd y Comisiynwyr
bapur yn adrodd ar y cynnydd o ran ymdrin ag effaith gadael yr UE ar y
Cynulliad. Roedd yn amlinellu’r gwaith sy’n cael ei wneud i asesu'r goblygiadau
a'r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer gweithgarwch y Cynulliad sy’n gysylltiedig
â gadael yr UE. Roedd hefyd yn rhoi asesiad o'r goblygiadau i'n gwasanaethau
corfforaethol a pha mor barod ydynt yn y maes hwn. Gofynnodd y Comisiynwyr
sut y mae agweddau penodol ar weithrediad y Comisiwn, er enghraifft gofynion
Iechyd a Diogelwch, yn cael eu monitro o ran goblygiadau. Nodwyd y papur. |
|
Diwygio etholiadol – y wybodaeth ddiweddaraf Cofnodion: Rhoddwyd y wybodaeth
ddiweddaraf i’r Comisiynwyr am y gwaith ar raglen ddiwygio'r Cynulliad, gan
ganolbwyntio’n benodol ar faterion polisi sy'n ymwneud â Bil y Senedd ac
Etholiadau (Cymru). Cytunodd y Comisiynwyr ar
y dull o ddeddfu ar drefniadau ariannol ac atebolrwydd y Comisiwn Etholiadol,
gan nodi ei fod yn destun barn Pwyllgor(au) a'r Cynulliad yng Nghyfnod 1. Trafodwyd datblygiadau
pellach yng nghynnwys arfaethedig y Bil, a thrafodwyd a nodwyd ffordd ymlaen y
Llywydd, i gwblhau'r Bil cyn ei gyflwyno. Nododd y Comisiynwyr
hefyd yr amserlen ar gyfer cyflwyno a chraffu ar y Bil a'r mater yn ymwneud â
chymhwysedd; yr asesiad ariannol wedi'i ddiweddaru o'r Bil a'u rolau a’u
cyfrifoldebau cytunedig mewn perthynas â rhaglen ddiwygio'r Cynulliad ac yn
arbennig y cyfnod craffu ar gyfer Bil y Senedd ac Etholiadau (Cymru). |
|
Cynulliad Dinasyddion Cofnodion: Roedd y Comisiynwyr yn
gefnogol i’r cynigion o sefydlu Cynulliad Dinasyddion sy'n gynrychioliadol yn
ddemograffig fel rhan o raglen i nodi ugeinfed pen-blwydd y Cynulliad. Cytunodd y Comisiynwyr i ofyn
am farn eu grwpiau yr wythnos hon ar gynigion i gynnal Cynulliad Dinasyddion
dros ddau ddiwrnod ym mis Mehefin/Gorffennaf 2019. Byddai'r ffocws ar ddau
brif fater: • y prif heriau sy'n wynebu Cymru yn ystod yr ugain mlynedd
nesaf; a • sut y gall democratiaeth Cymru, a'r Cynulliad yn benodol,
ymateb yn well i'r heriau hynny h.y. gwella democratiaeth Cymru. Cytunodd y Comisiynwyr
fod swyddogion yn mynd ar drywydd sefydlu Cynulliad Dinasyddion yn ystod haf
2019, yn amodol ar yr adborth gan grwpiau. |
|
Polisi ar gyfer darparu henebion, cofebion a phlaciau Cofnodion: Roedd y Comisiynwyr wedi
gofyn am ddrafftio polisi yn ymwneud â gosod cofebion ar ystâd y Cynulliad.
Trafodwyd proses lle byddai'r Comisiwn yn trafod cynigion ac yn gwneud
penderfyniadau, a thrafodwyd canllawiau cysylltiedig i gynigwyr hefyd. Gofynnodd y Comisiynwyr
am addasiadau i'r polisi drafft, ac am iddo gael ei ddosbarthu er mwyn iddynt
gytuno arno. |
|
Papurau i’w nodi: |
|
Ymgysylltiad rhyngwladol - adroddiad cynnydd Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr
ddiweddariad i gyflwyno'r gwaith a nodir yn y Fframwaith ar gyfer Ymgysylltiad
Rhyngwladol y Cynulliad yn ystod y Pumed Cynulliad. Codwyd y potensial i
weithio'n agosach gyda Chwnsleriaid Anrhydeddus. |
|
Pwyllgor Cynghori Comisiwn y Cynulliad ar Daliadau, Ymgysylltu a’r Gweithlu (REWAC) - Cylch Gorchwyl Cofnodion: Darparwyd i'r Aelodau ddiweddariad o gylch gorchwyl y
Pwyllgor Taliadau, gan ehangu ei ffocws o'r hyn yr oedd yn canolbwyntio arno'n
flaenorol. Nodwyd hyn. Roedd hyn yn adlewyrchu awydd i wneud defnydd da o'r
ystod arbenigedd a ddaw gan y Cynghorwyr Annibynnol newydd. Nodwyd penodiad
Cadeiryddion REWAC ac ACARAC: ·
Cadeirydd ACARAC - Bob
Evans ·
Cadeirydd REWAC - Sarah
Pinch |
|
Diweddariad gan y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD) Cofnodion: Nodwyd y diweddariad
arferol. |
|
Cofnodion cyfarfod ACARAC ym mis Tachwedd Cofnodion: Nodwyd cofnodion y
cyfarfod ACARAC. |
|
Unrhyw fater arall Cofnodion: Gwnaed y Comisiynwyr yn ymwybodol fod argymhellion wedi'u
gwneud gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon a'r Pwyllgor
Safonau iddynt eu hystyried - ac y byddai ymatebion drafft yn cael eu dosbarthu
iddynt eu hystyried cyn bo hir. Yn y
cyfnod ers y cyfarfod blaenorol, roedd y Comisiynwyr wedi cefnogi cynnig i
enwebu Bob Evans fel un o gynrychiolwyr y Comisiwn Pensiynau ACau, a phenodiad Cyfarwyddwr Newydd Busnes y Cynulliad. |