Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sulafa Thomas, x6227 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad

1.1

Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

1.2

Datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.

 

1.3

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Medi.

 

Cytunodd y Comisiynwyr y dylid ymdrin â'r gwaith o weithredu argymhellion y Comisiwn Etholiadol ar dreuliau etholiadol drwy is-ddeddfwriaeth, yn amodol ar gael sicrwydd priodol ynghylch amseru. Cafwyd y sicrwydd hwnnw gan Lywodraeth Cymru, a'i rannu â'r Comisiynwyr, sy'n golygu bod y penderfyniad a wnaed felly wedi'i gadarnhau.

 

2.

Y wybodaeth ddiweddaraf am Gyllideb y Comisiwn ar gyfer 18/19

Cofnodion:

Diweddarwyd y Comisiynwyr ar wahanol agweddau ar gyllideb y Comisiwn ar gyfer y flwyddyn gyfredol.

 

Trafododd y Comisiynwyr danwariant a ragwelir mewn perthynas â defnyddio cyllideb y Penderfyniad a'r amcangyfrif o gostau Cyllid Pensiwn yr Aelodau, a gafwyd gan Adran Actiwari'r Llywodraeth, sy'n is na'r gyllideb a osodwyd cyn dechrau'r flwyddyn ariannol.

 

Cytunodd y Comisiynwyr i gyflwyno Cyllideb Atodol, i'w chynnwys yng nghynnig cyllideb Llywodraeth Cymru, i wneud gostyngiad o £500,000 yng nghyllideb y gwariant a reolir yn flynyddol a gostyngiad o £500,000 yn llinell Penderfyniad y Bwrdd Taliadau yn y gyllideb (cyflogau Aelodau a chostau cysylltiedig).

 

Cytunodd y Comisiwn i gynnig Cynllun Ymadael Gwirfoddol, y rhagwelir y bydd yn hwyr ym mis Tachwedd 2018 i sicrhau y gall barhau i ddarparu'r sgiliau, yr arbenigedd a'r capasiti angenrheidiol i gefnogi'r Cynulliad drwy'r heriau penodol yn sgil Brexit a Newid Cyfansoddiadol. Tynnwyd sylw'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a'r Pwyllgor Cyllid at y posibilrwydd o Gynllun Ymadael Gwirfoddol yn ystod y cylch cyllideb diweddar a'r gwaith o graffu ar y cyfrifon.

 

Cytunodd y Comisiynwyr y dylai'r Prif Weithredwr a'r Swyddog Cyfrifyddu ysgrifennu at y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a'r Pwyllgor Cyllid i roi gwybod iddynt am y penderfyniadau hyn.

 

3.

Ymateb i'r argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Gyllideb y Comisiwn ar gyfer 2019-20

Cofnodion:

Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am hynt Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2019-20 drwy'r broses graffu. Roedd y Pwyllgor Cyllid wedi adrodd a chytunodd y Comisiynwyr ar ymateb y Comisiwn i'r argymhellion a godwyd yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid. Cytunodd y Comisiynwyr y bydd dogfen y gyllideb derfynol ar gyfer 2019-20 yn cael ei gosod ar 7 Tachwedd 2018. Caiff ei thrafod yn y Cyfarfod Llawn ar 14 Tachwedd.

 

4.

Y strategaeth ymgysylltu â’r cyhoedd

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr bapur a roddodd y wybodaeth ddiweddaraf am y gweithgareddau ymgysylltu â'r cyhoedd a gyflwynwyd gan staff y Comisiwn ar ran y Cynulliad ers 2016. Trafodwyd uchafbwyntiau'r prif gyflawniadau hyd yma a nodwyd y cynnydd a wnaed ar fentrau ymgysylltu allweddol ers mis Mai 2016. Soniodd y Comisiynwyr am roi mwy o broffil i feysydd lle mae'r Cynulliad wedi arwain y ffordd ar faterion deddfwriaethol penodol. Trafodwyd hefyd y cyfle i godi ymwybyddiaeth yr Aelodau o faint o weithgarwch allgymorth a wneir gan staff y Comisiwn.

 

Cadarnhaodd y Comisiynwyr fod y strategaeth yn adlewyrchu eu blaenoriaethau ymgysylltu o nawr hyd at ddiwedd y Cynulliad hwn, a chymeradwywyd y cerrig milltir a'r dyddiadau cwblhau allweddol.

 

5.

Caffael yng Nghymru

Cofnodion:

Roedd y Comisiynwyr wedi gofyn am wybodaeth am ffyrdd o gynyddu'r gyfran o wariant caffael y Comisiwn gyda chyflenwyr Cymreig a chyflenwyr sydd wedi'u lleoli yng Nghymru. Trafodwyd papur a oedd yn nodi strategaeth ar gyfer cynyddu cyfran y gwariant caffael gyda chyflenwyr Cymreig a chyflenwyr sydd wedi'u lleoli yng Nghymru. Roedd y manylion hefyd yn cwmpasu Dangosydd Perfformiad Allweddol corfforaethol newydd ar wariant cyflenwyr Cymreig i roi ffocws i fonitro cynnydd yn ffurfiol.

 

Nododd y Comisiynwyr y wybodaeth a ddarparwyd a chefnogodd gyfeiriad y gwaith.

 

6.

Diwygio etholiadol – y wybodaeth ddiweddaraf

Diweddariad llafar gan y Llywydd

 

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr nifer o faterion yn ymwneud â dilyniant eu gweithgarwch diwygio etholiadol:

 

Trafododd y Comisiynwyr agweddau ar y gwaith sy'n ymwneud â gwybodaeth gyhoeddus a chodi ymwybyddiaeth ymhlith pobl ifanc o ran gallu adlewyrchu hyn yn y Memorandwm Esboniadol a fydd yn cyd-fynd â'r Bil pan gaiff ei gyflwyno. Trafodwyd y pwysigrwydd o sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu hannog a'u cefnogi i arfer eu hawl i bleidleisio. Cytunodd y Comisiynwyr y dylai swyddogion weithio gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allanol i ddatblygu cynllun ar gyfer codi ymwybyddiaeth ymhlith pobl ifanc cyn etholiadau 2021, ac yn enwedig mynd i'r afael â hyn mewn ysgolion. Gwnaethant ofyn am gael eu diweddaru wrth i'r gwaith hwn fynd rhagddo.

 

O ganlyniad i ddatganoli pwerau yn Neddf Cymru 2017, mae'r Comisiwn Etholiadol wedi cysylltu â'r Llywydd a Llywodraeth Cymru i gynnig bod y Cynulliad yn deddfu i wneud y Comisiwn Etholiadol yn atebol i'r Cynulliad a chael ei ariannu gan Gomisiwn y Cynulliad, mewn perthynas ag etholiadau datganoledig yng Nghymru (etholiadau llywodraeth leol ac etholiadau'r Cynulliad). Trafododd y Comisiynwyr rai o'r materion cymhleth ynghylch sut a phryd y gellid gwneud newidiadau deddfwriaethol. Teimlai'r Comisiynwyr fod gwerth yn y Comisiwn Etholiadol yn bod yn atebol i'r Cynulliad am ei waith yng Nghymru. Cytunwyd i gael barn ar yr egwyddor gan eu grwpiau ar y cynnig hwn gan y Comisiwn Etholiadol, i ddatblygu newidiadau yn y Bil diwygio, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru.

 

Rhoddodd y Llywydd ddiweddariad ar lafar ar yr adborth a gafodd ar ddisgrifwyr i'r Aelodau a'r sefydliad yn y dyfodol, a'r cynigion y mae'n bwriadu eu gwneud o ganlyniad i hyn.

Trafododd y Comisiynwyr yr opsiynau a chytunodd fod angen gwneud penderfyniad er mwyn cyflwyno'r Bil. Cytunodd y Comisiwn i'r Llywydd benderfynu hyn, fel yr Aelod Cyfrifol, a dywedodd y Llywydd ei bod yn bwriadu bwrw ymlaen â'r newid enw yr ymddengys ei fod yn adlewyrchu barn y mwyafrif o grwpiau'r Cynulliad ar hyn o bryd. Cadarnhawyd pe bai opsiynau eraill yn dod i'r amlwg wedyn, y gellid ystyried y rhain yng Nghyfnod 2.  Felly, y cynllun yw y dylai'r newid enw a gyflwynir yn y Bil fod yn enw uniaith "Senedd"; ac y cyfeirir at Aelodau fel "Aelodau'r Senedd (AS)/Members of the Senedd (MS)" ac yn unigol fel "Aelod o'r Senedd"/Member of the Senedd". Teitl byr cysylltiedig y Bil fyddai "Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru)". Byddai'r Comisiwn yn cael ei alw'n "Comisiwn y Senedd".

 

7.

Cerflun Rhodri Morgan

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr gais a ddaeth i law yn gofyn am gytundeb mewn egwyddor, am gerflun i goffáu bywyd a gwaith y diweddar Brif Weinidog, Rhodri Morgan, i'w osod ar ystâd y Cynulliad.

Gofynnodd y Comisiynwyr am ddatblygu polisi i ddarparu proses ar gyfer gwneud penderfyniadau ynghylch ceisiadau yn y dyfodol ar gyfer gosod cofebion a cherfluniau. Yn y cyfamser roeddent yn fodlon, mewn egwyddor, y gellid gosod cerflun o Rhodri Morgan, fel Prif Weinidog cyntaf Cymru ar dir y Cynulliad, yn amodol ar gael sicrwydd addas, y dylai trydydd parti ddal y cerflun mewn ymddiriedaeth a bod yn gyfrifol amdano.

 

8.

Llwybr Seren Cymru

Cofnodion:

Cafodd y Comisiynwyr ddiweddariad ar ddatblygiadau diweddar ynghylch y cynigion hirdymor ar gyfer 'Llwybr Seren Cymru'. Daeth y Comisiynwyr i'r casgliad nad oeddent yn teimlo eu bod yn gallu cefnogi'r syniad o ddatblygu 'Llwybr Seren Cymru' ar ystâd y Cynulliad.

 

9.

Papurau i’w nodi:

9.1

Y Cynulliad ar dudalen

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr ddogfen fer a luniwyd i grynhoi diben, gweledigaeth, nodau, blaenoriaethau a gwerthoedd cyfredol Comisiwn y Cynulliad.

 

9.2

Diweddariad gan y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD)

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr y diweddariad arferol.

 

10.

Unrhyw fater arall

Cofnodion:

·         Swyddfa'r Comisiynydd Safonau - diweddarwyd y Comisiynwyr ynghylch y newidiadau a wnaed i wella'r strwythur staffio sy'n cefnogi'r Comisiynydd Safonau. Roedd hyn yn sgil y swm cynyddol o waith mewn perthynas ag ymholiadau i swyddfa'r Comisiynydd Safonau dros y flwyddyn hon, ac mewn ymateb i argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad.

 

Yn y cyfnod ers y cyfarfod blaenorol, roedd y Comisiynwyr wedi cytuno i benodi cynghorwyr annibynnol i'r Comisiwn, yn dilyn proses recriwtio agored a thryloyw.