Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sulafa Thomas, x6227 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad

1.1

Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

1.2

Datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.

1.3

Cofnodion o’r cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Chwefror.

2.

Penodi Cynghorwyr Annibynnol newydd ar gyfer y Comisiwn

Cofnodion:

Ystyriodd y Comisiynwyr gynigion ar gyfer recriwtio a dethol carfan newydd o Gynghorwyr Annibynnol yn 2018 a 2019, wrth baratoi ar gyfer diwedd y trefniadau presennol.

 

Mae Cynghorwyr Annibynnol y Comisiwn yn gweithredu mewn rôl anweithredol ac anwleidyddol, gan roi cyngor a her adeiladol i Gomisiynwyr ac uwch reolwyr ar sawl agwedd ar fusnes y Comisiwn. Mae tri Chynghorydd Annibynnol, ynghyd ag un Comisiynydd yn aelodau o ACARAC ac mae Bwrdd Taliadau’r Comisiwn hefyd yn cynnwys tri Chynghorydd.

 

Cytunodd y Comisiynwyr ar y cynigion recriwtio, gyda’r broses recriwtio a dethol i gael ei rheoli’n fewnol, a chan ddefnyddio asiantaeth chwilio weithredol i nodi ymgeiswyr ar gyfer y cam rhestr hir.

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am yr Adolygiad Capasiti

Cofnodion:

Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i’r Comisiynwyr. Mae Grŵp Llywio wedii ffurfio i ddatblygu argymhellion yr Adolygiad. Roedd swyddogion hefyd wedi cynnal cyfres o weithdai staff i drafod yr Adolygiad a’r gwaith parhaus sy’n digwydd, a chafwyd adborth cadarnhaol gan staff bod y rhain wedi bod yn ddiddorol.

 

Rhoddwyd gwybod i’r Comisiynwyr hefyd am y newidiadau a wneir i strwythurau uwch reolwyr, gyda’r Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau yn dod yn Fwrdd Gweithredol (gwneud penderfyniadau), a’r Bwrdd Rheoli yn cael ei ailgyfansoddi fel Tîm Arweinyddiaeth. Rhoddwyd gwybod i’r Comisiynwyr hefyd y byddai trefniadau dros dro i ymdrin â chyfrifoldebau ar lefel Cyfarwyddwr ar ymadawiad Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad.

 

Nododd y Comisiynwyr yr adroddiad.

4.

Diwrnod cwrdd i ffwrdd ar Strategaeth y Comisiwn

Cofnodion:

Fel rhan o gylch cynllunio diwygiedig y Comisiwn, cytunodd y Comisiynwyr y byddai’n ddefnyddiol parhau â’r dull a ddefnyddiwyd y llynedd, sef cynnal gweithdy nodi strategaeth flynyddol mewn diwrnod cwrdd i ffwrdd.

5.

Papurau i’w nodi:

5.1

Diweddariad y Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf gan y Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau.

5.2

Gweinyddu Cynllun Pensiwn Aelodau’r Cynulliad - Adroddiad archwilio

Cofnodion:

Derbyniodd y Comisiynwyr yr adroddiad archwiliad mewnol o Gynllun Pensiwn yr AC, a’i nodi. Mae’r archwiliad wedi cofnodi graddfa barn sicrwydd sylweddol sy’n golygu, ar sail canlyniadau’r gwaith a wneir, fod yr Archwiliad Mewnol yn dod i’r casgliad bod fframwaith llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth y Cynllun yn ddigonol ac yn effeithiol.

6.

Unrhyw fater arall

·         Caffael y Comisiwn

Cofnodion:

·         Caffael y Comisiwn - Bu’r Comisiynwyr yn trafod caffael gan gyflenwyr o Gymru a chytunodd i gyflwyno Dangosydd Perfformiad Allweddol penodol ar gaffael gan gyflenwyr o Gymru. Cytunwyd hefyd i ystyried y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol, a gofynnwyd am bapur ar y trefniadau caffael presennol o ran cyflenwyr o Gymru, a pha opsiynau sydd ar gael i wella perfformiad.

 

·         Chwythu’r Chwiban - Gofynnodd Joyce Watson a allai’r Comisiwn wneud rhywfaint o waith codi ymwybyddiaeth o bolisïau a gweithdrefnau chwythu’r chwiban. Cytunodd y Comisiwn y byddai’n briodol ei gynnwys yn y pecyn gwaith a wneir yn ystod ein hwythnos cydraddoldeb, sy’n debygol o fod ym mis Mehefin neu fis Gorffennaf.

 

·         Ymweliad â’r Senedd Fflemig - Cytunodd y Comisiwn i dderbyn y gwahoddiad gan y Llefarydd Jan Peumans, i ymweld â’r Senedd Fflemig ym mis Mehefin 2018, yn amodol ar fod cynrychiolwyr ar gael.

 

·         Mynediad i goridor llawr gwaelod Tŷ Hywel - Nodwyd cwynion gan yr Aelodau ynghylch y cyfyngiadau ar y mynediad i goridor bloc B ar y llawr gwaelod. Roedd y rhain wedi eu rhoi yn wreiddiol mewn ymateb i bryderon ynghylch diogelwch a tharfu ar gyfarfodydd pwyllgor. Trafododd y Comisiynwyr y mater, a daeth i’r casgliad y dylid codi’r cyfyngiadau fel bod y coridor yn agored i’w ddefnyddio, ac y a dylid atgoffa defnyddwyr i fod yn dawel er mwyn osgoi tarfu ar gyfarfodydd.

 

Roedd Joyce Watson am gofnodi ei diolch i bawb a fu’n rhan o’r digwyddiad ‘I am Embolden’, a oedd yn dathlu llwyddiannau menywod byddar ac anabl yng Nghymru.