Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sulafa Thomas, x6227
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad |
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Ni
chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. Croesawyd
Eric Gregory, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg i'r cyfarfod. |
|
Datgan buddiannau Cofnodion: Ni
chafwyd datganiadau o fuddiant. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd
ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Mehefin. |
|
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Cofnodion: Roedd
y Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a
Sicrwydd Risg y Cynulliad wedi mynd i'r cyfarfod i gyflwyno Adroddiad Blynyddol
y Pwyllgor. Roedd wedi'i amseru i gynorthwyo’r broses o orffen y cyfrifon a’r
datganiad llywodraethu. Adroddodd ei fod wedi bod yn flwyddyn dda, ac nad oedd
angen i'r Pwyllgor wneud unrhyw argymhellion o bwys. Tynnodd
sylw at un mater a godwyd yn yr wythnos flaenorol gan Swyddfa Archwilio Cymru,
mewn perthynas â mater hanesyddol yn gysylltiedig â threfniadau cydnabyddiaeth
Archwilydd Cyffredinol Cymru, yr ymdriniwyd ag ef ym mis Gorffennaf 2016. Gofynnodd
y Comisiynwyr hefyd gwestiynau yn ymwneud â diogelwch seiber, ac roeddent yn
cefnogi cynlluniau i barhau i godi ymwybyddiaeth, yn enwedig ymhlith Aelodau
a'u staff cymorth. Croesawodd
y Comisiynwyr y cyfraniad cadarnhaol a wnaed gan ACARAC a nododd Adroddiad
Blynyddol ACARAC. |
|
Diwallu ein Hanghenion o ran Llety yn y Dyfodol - y wybodaeth ddiweddaraf Cofnodion: Cafodd y
Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am y sgyrsiau archwiliadol â thirfeddianwyr
a chawsant atebion i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod ym mis Mehefin 2017. |
|
Diweddariad ar y strategaeth y gyllideb 2018-19 Cofnodion: Ar ôl
trafodaeth gychwynnol ar y gyllideb ddrafft yn y cyfarfod diwethaf, trafododd y
Comisiynwyr waith pellach a oedd wedi'i wneud yn cynnwys gwybodaeth newydd a
ddaeth i law mewn perthynas â Chynllun Pensiwn Aelodau'r Cynulliad a Chost
Gwasanaeth Pensiwn (cyllideb AME). Bu'r
Comisiynwyr yn myfyrio ar y sefyllfa o ran eu strategaeth a gwaith y Cynulliad
flwyddyn ar ôl yr etholiad, a'r cyfeiriad y maent yn dymuno ei ddarparu o ran
blaenoriaethu. Roeddent yn cytuno y dylent fod yn rhan o waith pellach ar hyn
yn ystod y toriad. Caiff y
gyllideb ddrafft ei gosod ar ôl ystyriaeth derfynol y Comisiwn ym mis Medi. |
|
Rheoli rhaglenni'r ystâd Cofnodion: Yn eu
cyfarfod ym mis Mai, cytunodd y Comisiynwyr ar ddull wedi'i reoli'n well ar
gyfer defnyddio ystâd y Cynulliad yn fwy pwrpasol. Trafododd
y Comisiynwyr gynigion ar gyfer gweithredu'r newidiadau i gyflawni'r nod hwn.
Cytunwyd y dylai newidiadau gael eu datblygu a thynnwyd sylw at rai dulliau a
allai fod yn ddefnyddiol mewn rhai amgylchiadau, er enghraifft cysylltu pobl â
Grwpiau Trawsbleidiol presennol. |
|
Argymhellion y Tasglu Digidol Eitem lafar Cofnodion: Cyflwynwyd
argymhellion y Tasglu Gwasanaethau Newyddion Digidol i'r Comisiynwyr. Croesawyd
yr adroddiad a thrafodwyd sawl agwedd, gan gynnwys yr angen i ymateb yn fwy
manwl i argymhellion unigol. Trafodwyd
y posibilrwydd o newid deinameg o ran cynnwys diddorol, a'r berthynas rhwng y
Cynulliad fel sefydliad a'i gyfansoddiad gwleidyddol. Gofynnodd
y Comisiynwyr am i waith pellach gael ei wneud fel y gallent ddychwelyd at y
materion a nodwyd yn y cyfarfod yn nhymor yr hydref. |
|
Adroddiad Amgylcheddol Blynyddol 2016-17 Cofnodion: Cytunodd
y Comisiynwyr ar Adroddiad Amgylcheddol Blynyddol 2016-17. Roedd yn cynnwys ail
flwyddyn cynllun cynaliadwyedd pum mlynedd y Comisiwn, ac roedd y Comisiynwyr
yn gefnogol o'r hyn a gyflawnwyd hyd yma. |
|
Unrhyw fater arall Cofnodion: Rhaglen
ddiwygio'r Cynulliad Rhoddodd
y Llywydd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Comisiynwyr ar waith y Panel Arbenigol.
Dywedodd wrthynt y bydd y panel yn dechrau dod i gasgliadau ar y tri phwnc dan
sylw sef, a ddylid gostwng yr oed pleidleisio, a ddylid cynyddu nifer Aelodau'r
Cynulliad a ph'un a ddylid newid y system bleidleisio. Bydd adroddiad gan y
Panel yn cael ei gyflwyno i'r Comisiwn yn ddiweddarach eleni. Cynllun
Pensiwn Aelodau’r Cynulliad Rhoddodd
Joyce Watson ddiweddariad byr ac atgoffodd y Comisiynwyr eu bod wedi cael papur
ar gynllun pensiwn yr Aelodau yn gofyn iddynt am eu sylwadau. Senedd
Ieuenctid Dywedodd
y Llywydd wrth y Comisiynwyr bod yr ymgynghoriad ar Senedd Ieuenctid wedi cau
bellach, a bod dros 5,000 o ymatebion wedi dod i law o bob rhan o Gymru. Nododd
fod y data yn cael ei ddadansoddi a bydd papur yn cael ei gyflwyno i'r Comisiwn
ar 25 Medi. Plac
porffor Dywedodd
y Llywydd wrth y Comisiynwyr ei bod wedi cael cais gan y grŵp trawsbleidiol sy'n ymgyrchu i nodi cyfraniad menywod
ledled Cymru i godi plac ar yr ystâd i
gofio am Val Feld. Cytunodd y
Comisiynwyr mewn egwyddor i'r cais, yn amodol ar drefniadau priodol a lleoliad
addas yn cael ei nodi. Y Cynllun
Ieithoedd Swyddogol Nododd
y Comisiynwyr ymholiadau yn ymwneud â sylw yn y cyfryngau am amryw agweddau ar
y cynllun ieithoedd swyddogol yn yr wythnos flaenorol, gan gynnwys siom
ynghylch y ffordd y cafodd sylw yn y cyfryngau a'r canfyddiadau anghywir a
allai achosi. |
|
Papurau i’w nodi |
|
Adroddiad ar y Prif Bwyntiau (Ionawr - Gorffennaf 2017) Cofnodion: Nodwyd yr
adroddiad, a bydd yn barod i'w gyhoeddi. |
|
Cofnodion drafft cyfarfod ACARAC ar 19 Mehefin 2017 Cofnodion: Nodwyd
cofnodion cyfarfod ACARAC ar 19 Mehefin 2017. |