Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sulafa Thomas, x6227
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad |
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Cafwyd
ymddiheuriadau gan Joyce Watson AC. Croesawyd
Helena Feltham, Cynghorwr Annibynnol, i'r cyfarfod. |
|
Datgan buddiannau Cofnodion: Ni
chafwyd datganiadau o fuddiant. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd
ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Ionawr. |
|
Y strategaeth ymgysylltu â’r cyhoedd Cofnodion: Trafododd
y Comisiynwyr bapur a oedd yn amlinellu strategaeth i gyflawni nod strategol
Comisiwn y Cynulliad ym maes ymgysylltu â’r cyhoedd ar gyfer y Pumed Cynulliad,
sef ‘ymgysylltu â holl bobl Cymru a hyrwyddo’r Cynulliad’. Yn benodol, roedd yn
cynnig fframweithiau ar gyfer diffinio cynulleidfaoedd a gweithgareddau ac ar
gyfer gwerthuso'r gwaith. Trafododd
y Comisiynwyr y lefelau ymgysylltu presennol, gan roi eu cefnogaeth i'r ymgyrch
i ddod yn fwy effeithiol. Myfyriwyd ar y ddibyniaeth enfawr ar ymgysylltiad
digidol, a mynegwyd pryder bod rhai cynulleidfaoedd nad ydynt yn cael eu
cynnwys o bosibl. Roeddent yn awyddus y dylid parhau i roi pwyslais sylweddol
ar ryngweithio wyneb yn wyneb, yn ogystal â thargedu deunyddiau i ddenu sylw'r
'gynulleidfa gyfan' waeth beth yw lefelau eu gwybodaeth. Trafodwyd
Senedd.tv, a chydnabu'r Comisiynwyr bwysigrwydd y cyngor a'r argymhellion a
fyddai'n dod oddi wrth y Tasglu Digidol yn ddiweddarach yn y gwanwyn. Cafodd y
Comisiynwyr drafodaethau eang am ffyrdd o fynd i'r afael â'r diffyg
democrataidd yng Nghymru, gan gynnwys ffyrdd a gynigir gan newidiadau ym maes
technoleg a chyfleoedd i weithio gyda sefydliadau eraill. Dywedodd y Llywydd
hefyd fod mwy o ymdrech yn cael ei gwneud i sefydlu perthynas â sefydliadau a
chyrff academaidd, fel y Gymdeithas Ddysgedig. Cadarnhaodd
y Comisiynwyr eu bod yn cefnogi'r strategaeth ymgysylltu ddrafft a bod y
cynllun gwaith yn adlewyrchu eu blaenoriaethau ar gyfer ymgysylltu. |
|
FySenedd Cofnodion: Rhoddwyd
gwybodaeth i'r Comisiynwyr am y rhaglen FySenedd, a sefydlwyd i sbarduno a
chyflawni elfennau pwysig o strategaeth y Comisiwn. Trafododd
y Comisiynwyr nod cyffredinol y rhaglen a sut mae'n datblygu. Trafodwyd yr
angen sylfaenol i ddata gael eu rheoli mewn modd sy'n golygu eu bod yn
ddefnyddiol. Roeddent hefyd yn cydnabod bod angen newid diwylliant yn ogystal â
newid technolegol er mwyn darparu gwasanaethau busnes y Cynulliad sydd mewn
gwell sefyllfa i gefnogi'r Cynulliad i fod yn senedd agored, ddigidol o'r radd
flaenaf. Roedd y
Comisiynwyr yn cefnogi amcanion y rhaglen a'r dull a fabwysiadwyd er mwyn ei
rhoi ar waith. Roeddent yn cydnabod y bydd rhaglen FySenedd yn gyfrwng
allweddol i helpu i wneud y newid sylweddol sydd ei angen i gyflawni amcanion y
Comisiwn o ran ymgysylltu â’r cyhoedd, ac argymhellion y Tasglu Newyddion a
Gwybodaeth Ddigidol. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg a gynhaliwyd ar 6 Chwefror Ar lafar Cofnodion: Cynhaliwyd
cyfarfod o Bwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Cynulliad ar 6
Chwefror. Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Comisiynwyr. Roedd y
manylion yn cynnwys bodlonrwydd y Pwyllgor â'r gwaith proffesiynol sy'n cael ei
wneud ym maes Archwilio Mewnol; seiberddiogelwch a'r gwaith sy'n cael ei wneud
i gryfhau'r hwn; y system gyllid newydd; ac archwiliad trylwyr o faterion yn
ymwneud ag adeiladau a swyddfeydd. Roedd aelodau'r Pwyllgor hefyd wedi cymryd
rhan mewn sesiwn arbennig gyda Roger Scully, gan ystyried materion yn ymwneud â
gadael yr UE, Deddf Cymru a gallu'r Cynulliad i ymdopi â'i lwyth gwaith. |
|
Unrhyw fater arall Cofnodion: Rhoddodd
y Llywydd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Comisiynwyr am waith yn ymwneud â Senedd
Ieuenctid a'r Panel Arbenigol ar Ddiwygio Trefniadau Etholiadol. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am y Senedd Ieuenctid Cofnodion: Cynhaliwyd
cyfarfod cyntaf grŵp
llywio'r Senedd Ieuenctid ddydd Llun 13 Chwefror. Y camau
nesaf fydd ystyried sut y dylai'r Senedd Ieuenctid weithio gyda'r Cynulliad - o
ran ei pherthynas ag Aelodau a phwyllgorau, ac o ran trefniadau llywodraethu. Y bwriad
yw gallu ymgynghori ar fodel o gyfansoddiad drafft ar gyfer Senedd Ieuenctid ar
ôl toriad y Pasg. |
|
Aelodaeth o'r Bwrdd Pensiynau Cofnodion: Cadarnhaodd
y Llywydd y newid o ran yr aelod o'r Bwrdd Pensiynau a enwebwyd gan y Comisiwn,
o Suzy Davies i Joyce Watson. Roedd y Comisiynwyr eisoes yn ymwybodol o'r
newid, a rhoddwyd cadarnhad fod y llythyr ffurfiol wedi'i anfon at y Bwrdd
Taliadau ar 16 Chwefror. |