Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sulafa Thomas, x6227
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad |
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Ni
chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
Datganiad o fuddiant Cofnodion: Ni
chafwyd datganiadau o fuddiant. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd
ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Medi. |
|
Capasiti Ystâd y Cynulliad yn y dyfodol Cofnodion: Trafododd
y Comisiynwyr faterion sy'n gysylltiedig â chapasiti ystâd y Cynulliad yn y
tymor byr a'r tymor hwy. Maent yn cefnogi'r gwaith i wella darpariaeth o ran
ystafelloedd pwyllgora a chytunwyd y dylid trafod yr opsiynau i alluogi
penderfyniadau yn y dyfodol. |
|
Adroddiad Comisiwn y Pedwerydd Cynulliad "Dyfodol y Cynulliad: sicrhau capasiti i gyflawni ar gyfer Cymru” a Bil Cymru Cofnodion: Cafodd y
Comisiynwyr eu briffio ynghylch gwaith y Comisiwn yn y Cynulliad diwethaf o ran
y cyfyngiadau ar gapasiti'r sefydliad a'r casgliadau y daethpwyd iddynt. Hefyd,
fe'u hysbyswyd am y sefyllfa bresennol ac am hyd a lled y pwerau sy'n cael eu
datganoli o dan Fil Cymru sydd ar hyn o bryd yn cael ei drafod yn San Steffan. Cytunodd
y Comisiynwyr y dylai'r Llywydd drafod y materion hyn ymhellach o ran ceisio eu
symud ymlaen. |
|
Ymgysylltu â'r cyhoedd - Senedd Ieuenctid a gwybodaeth ddigidol Cofnodion: Cafodd y
Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am gynigion i sefydlu senedd ieuenctid
newydd i Gymru a datblygu Tasglu Newyddion a Gwybodaeth Ddigidol. Mae’r ddwy
fenter allweddol hyn ar gyfer ymgysylltu â'r cyhoedd yn rhan o strategaeth y
Comisiwn. Cytunodd
y Comisiynwyr i ddatblygu cynlluniau ar gyfer senedd ieuenctid ac ymgynghori
arnynt yn gynnar yn 2017, gyda'r bwriad o ganfod ein seneddwyr ifanc cyntaf yn
ail hanner y flwyddyn a chynnal cyfarfod cyntaf y senedd ieuenctid yn 2018. Yn
benodol, yn y datblygiad hwn, roeddent yn awyddus y dylid ystyried yn benodol
sut i gyrraedd y bobl nad ydynt fel arfer yn ymateb i ymgynghoriadau. Trafododd
y Comisiynwyr y cynlluniau ar gyfer y tasglu newyddion a gwybodaeth ddigidol, a
chafwyd cefnogaeth ar gyfer y gwaith y bydd yn ei wneud er mwyn gwneud
argymhellion ar gyfer y dyfodol. Bydd
rhagor o wybodaeth ynglŷn â'r ddwy fenter yn rhan o'r drafodaeth ehangach am
strategaeth ddrafft Comisiwn y Cynulliad ar gyfer ymgysylltu â'r cyhoedd
ddechrau'r flwyddyn newydd. |
|
Cyllideb Comisiwn y Cynulliad 2017-18 - ymateb i waith craffu ac adroddiad y Pwyllgor Cyllid Cofnodion: Cafodd y
Comisiwn wybodaeth am hynt proses cyllideb y Comisiwn, gan gynnwys gwaith
craffu gan y Pwyllgor Cyllid. Croesawodd y Comisiynwyr ddull adeiladol y
Pwyllgor Cyllid a'r ffaith i'r Pwyllgor gydnabod yr ansicrwydd ynghylch lefelau
ariannu ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Cytunodd
y Comisiwn ar ei ymateb i argymhellion y Pwyllgor Cyllid a nododd y ffaith y
caiff dogfen y gyllideb derfynol ei gosod ar 9 Tachwedd 2016. |
|
Unrhyw fater arall Cofnodion: Trafododd
y Comisiynwyr rai materion amserol. |