Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sulafa Thomas, x6227 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad

1.1

Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

 

1.2

Datganiad o fuddiant

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.

 

 

1.3

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd bod cofnodion 11 Gorffennaf yn gofnod cywir.

 

 

2.

Strategaeth Cyllideb y Comisiwn ar gyfer y Pumed Cynulliad

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr ddogfen strategaeth y gyllideb ddrafft a baratowyd yn unol â strategaeth newydd y Comisiwn ac a oedd yn seiliedig ar benderfyniadau a wnaed gan y Comisiwn yn ystod yr haf.

 

Roedd y ddogfen yn amlinellu'r cynlluniau gwariant a fwriedir ar gyfer 2017-18 yn ogystal â chynlluniau dangosol a gofynion ariannol hyd at ddiwedd y Pumed Cynulliad. Trafododd y Comisiynwyr nifer o agweddau ar y gyllideb yn fanwl. Wrth edrych tua'r dyfodol, mae'r Comisiynwyr yn credu bod angen newid mawr yn y ffordd rydym yn cynhyrchu, rheoli ac yn defnyddio gwybodaeth am fusnes y Cynulliad os yw’r Cynulliad yn mynd i gael ei ystyried yn senedd ddigidol o’r radd flaenaf sy’n agored, yn gynhwysol ac yn hawdd ymwneud â hi, gan arwain at well cyfreithiau a gwell craffu. Bydd y Comisiwn yn gweithio i wella'r ffordd y mae pobl yn ymgysylltu â'r Cynulliad a sut y darperir gwasanaethau i'r Aelodau.

 

Bydd angen strategaeth ar gyfer y gyllideb sy'n darparu cynnydd cymedrol yn lefelau adnoddau cyffredinol y Comisiwn er mwyn i'r Comisiwn allu parhau i ddarparu gwasanaethau ardderchog i Aelodau'r Cynulliad. Gallai'r cynlluniau ariannol tymor hwy fod yn destun newid o ganlyniad i angen i ymateb i'r heriau sy'n dod i'r amlwg dros y pedair blynedd nesaf, ond, ar sail asesiadau cyfredol, mae Comisiynwyr yn ystyried bod y cynigion wedi'u gosod ar lefelau sy'n deg ac yn ddarbodus.

 

Cytunodd y Comisiwn y dylai'r gyllideb ddrafft gael ei gosod ar 30 Medi. Disgwylir i'r Pwyllgor Cyllid graffu arni ar 5 Hydref. Mae'r ddadl yn y Cyfarfod Llawn ynghylch Cynnig y Gyllideb wedi ei gynllunio ar gyfer 16 Tachwedd.

 

 

3.

Newid enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cofnodion:

Yng nghyfarfod y Comisiwn ym mis Gorffennaf, cytunwyd i ystyried cwmpas y gwaith a'r costau a fyddai'n gysylltiedig â newid enw'r Cynulliad, yn y disgwyliad y bydd Bil Cymru 2016 yn rhoi cymhwysedd cyfreithiol i'r Cynulliad wneud hynny.

 

Wedi ystyried opsiynau ar gyfer ymgynghori a materion cysylltiedig, cytunodd y Comisiynwyr y dylai'r gwaith gael ei wneud i ddatblygu papur ymgynghori, gyda'r bwriad o fod yn barod i ymgymryd â'r ymgynghoriad ar adeg briodol yn y dyfodol rhagweladwy, gan ystyried hynt Bil Cymru yn San Steffan.

 

Cytunodd y Comisiwn hefyd mai'r Llywydd fyddai'r Aelod sy'n gyfrifol am unrhyw Fil y Comisiwn ar y mater hwn.

 

4.

Adroddiad ar Ddangosyddion Perfformiad Allweddol Corfforaethol

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr newidiadau arfaethedig i'r adroddiad DPA. Cafodd y DPA presennol eu datblygu yn 2013 a chawsant eu hadolygu i sicrhau eu bod yn bodloni anghenion adrodd ar berfformiad y Comisiwn a'u bod yn ddefnyddiol ac yn berthnasol ar gyfer y Pumed Cynulliad.

 

Mae'r cynigion yn newid sut y mae'r Dangosyddion Perfformiad Allweddol yn cael eu cyflwyno i gynnwys nifer o ddangosyddion pennawd ac o dan y rhain, mae  dangosyddion penodol gyda thargedau. Mae'r trefniant pennawd/dangosydd hwn yn caniatáu i'r adroddiad newid dros amser, tra'n parhau i sicrhau cysondeb a'r gallu i ddangos set o ddata cymharol o'r prif ddangosyddion.

 

Cytunodd y Comisiynwyr bod y fformat newydd yn hawdd i'w ddeall ac yn haws i'w ddefnyddio, a chafodd ei gymeradwyo i'w ddefnyddio yn y dyfodol.

 

5.

Papur i'w nodi: Adroddiad ar Berfformiad Corfforaethol Ebrill 2015 – Mawrth 2016

Cofnodion:

Cafodd yr Adroddiad Perfformiad Corfforaethol Ebrill 2015 – Mawrth 2016 ei nodi, a chaiff ei gyhoeddi ar y wefan a'i anfon at y Pwyllgor Cyllid er gwybodaeth.

 

6.

Papur i'w nodi: Cofnodion y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg 11 Gorffennaf

Cofnodion:

Nodwyd cofnodion cyfarfod ACARAC ar 11 Gorffennaf.

 

7.

Unrhyw fater arall

Cofnodion:

Nododd y Llywydd fod y polisi ar werthu alcohol ar yr Ystâd wedi'i godi gyda hi. Teimlai Comisiynwyr nad yw yfed alcohol tra'n gweithio yn briodol, a gallai greu risgiau i unigolion. Cytunwyd felly yn unfrydol y dylai'r polisi presennol gael ei gadw.