Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sulafa Thomas, x6227
Rhif | Eitem | ||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cyflwyniad |
|||||||||||
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Ni
chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|||||||||||
Datgan Buddiannau Cofnodion: Ni
chafwyd datganiadau o fuddiant. |
|||||||||||
Trefn lywodraethu a gweithdrefnau Comisiwn y Cynulliad Cofnodion: Bu Comisiynwyr yn trafod dogfennau sy’n nodi’r egwyddorion fframwaith
cyffredinol ar gyfer llywodraethu’r sefydliad, y rheolau ar gyfer cynnal cyfarfodydd
y Comisiwn a dirprwyo swyddogaethau i'r Prif Weithredwr. Cytunodd y Comisiwn ar yr Egwyddorion Llywodraethu a’r Darpariaethau Ategol
a ddiweddarwyd. Fe’u datblygwyd yn unol â’r Cod Arferion Da ar gyfer
Llywodraethu Corfforaethol a gyhoeddwyd gan Drysorlys Ei Mawrhydi a Chod
Llywodraethu Corfforaethol y DU y Cyngor Adrodd am Faterion Ariannol, gan
ystyried statws y Comisiwn fel corff corfforaethol sydd â “bwrdd llywodraethu”
sy’n cynnwys Aelodau etholedig yn gyfan gwbl. Cafodd y rheolau ar gyfer cynnal
busnes y Comisiwn eu mabwysiadu’n ffurfiol gan Gomisiwn y Cynulliad. Bu’r Comisiynwyr yn trafod
offerynnau drafft dirprwyo swyddogaethau’r Comisiwn a’r trefniadau i weithredu
swyddogaethau'r Clerc. Rhoesant ystyriaeth arbennig i'r lefel briodol awdurdodedig
ar gyfer gwariant cyfalaf, ac ar ôl gofyn am sicrwydd y bydd y manylion am
wariant sylweddol yn parhau i gael eu nodi fel rhan o broses y gyllideb,
cytunwyd ar ffigur o £ 5 miliwn ar gyfer prosiectau neu gontractau. Mae hyn yn
adlewyrchu'r newid yn lefel
dirprwyaethau dros y 10 mlynedd diwethaf, ac mae’n cyd-fynd â'r
ddirprwyaeth yng nghyrff seneddol yr Alban a Gogledd Iwerddon. Cytunodd y Comisiwn y dylid cyhoeddi cynnwys y papur. |
|||||||||||
Portffolios Comisiwn y Cynulliad Cofnodion: Mae gan y Comisiwn gyfrifoldeb corfforaethol am arfer y swyddogaethau a
roddwyd iddo ac am lywodraethu'r sefydliad.
Bu’r Comisiynwyr yn trafod yr
egwyddorion llywodraethu sy’n darparu y gall y Comisiwn ddyrannu cyfrifoldeb am
oruchwylio ystod ddiffiniedig o waith sefydliadol i Gomisiynydd unigol.
Daethant i’r casgliad y byddai creu portffolios Comisiynwyr yn rhoi cyfle i bob
Comisiynydd gynyddu ei wybodaeth mewn meysydd penodol ac i weithio gyda
swyddogion i ddarparu cyfeiriad strategol ar sail fwy rheolaidd a thrylwyr nag
y byddai cyfarfodydd y Comisiwn yn unig yn ei ganiatáu. Cytunwyd ar y portffolios a ganlyn:
|
|||||||||||
Cynllun Pensiwn Aelodau'r Cynulliad - Cynrychiolwyr y Bwrdd Cofnodion: Y Bwrdd Taliadau sy’n gyfrifol am Gynllun Pensiwn yr Aelodau a chyflwynodd
gynllun newydd o fis Mai 2016. Ym mis Tachwedd 2015, cytunodd y Comisiynydd
mai'r Swyddog Cyfrifyddu, mewn ymgynghoriad â'r Comisiynwyr, ddylai fod yn
gyfrifol am nodi ac enwebu cynrychiolwyr y Comisiwn i'r Bwrdd Pensiynau newydd.
Ystyriodd y Comisiynwyr argymhellion y Swyddog Cyfrifyddu ar gyfer
cynrychiolwyr y Comisiwn a chytunwyd mai’r Cyfarwyddwr Cyllid a Suzy Davies AC
y dylent fod. Aelodau eraill y Bwrdd fydd Jill Youds, a benodwyd yn Gadeirydd Annibynnol
yr Ymddiriedolwyr, Mike Hedges (AC presennol, Llafur) a Gareth Jones (cyn Aelod
Cynulliad, Plaid Cymru). |
|||||||||||
Adroddiad etifeddiaeth Comisiwn y Cynulliad Cofnodion: Roedd adroddiad etifeddiaeth Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2011-16 wedi
cael ei gytuno a'i gyhoeddi yn gynharach eleni. Nododd y Comisiynwyr yr
adroddiad, gan gytuno y byddai'n fan cychwyn defnyddiol ar gyfer eu
hystyriaethau hwy, yn enwedig mewn perthynas â datblygu Strategaeth y Comisiwn. |
|||||||||||
Unrhyw fater arall Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw fater arall. |