Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sulafa Thomas, x6565 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad

1.1

Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad gan Angela Burns AC.

 

1.2

Datganiad o fuddiant

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiad o fuddiant.

 

1.3

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd bod cofnodion 25 Mehefin yn gofnod cywir.

 

2.

Cyllideb Ddrafft 2016-17

Cofnodion:

Cyflwynodd Nicola Callow ddrafft cyntaf cyllideb y Comisiwn ar gyfer 2016-17 i’r Comisiynwyr.

 

Croesawodd y Comisiynwyr y ddogfen, yr oeddent yn teimlo ei bod yn adlewyrchu’n dda strategaeth y gyllideb a gytunwyd ganddynt ym mis Ebrill.

 

Ffocws dogfen gyllideb 2016-17 yw:

        Cefnogi’r galwadau cynyddol a wynebir gan y Cynulliad, gan gynnwys y rhaglen gynyddol o waith deddfwriaethol;

 

        Darparu rhaglen newydd ac estynedig o ddatblygiad proffesiynol ar gyfer yr Aelodau, gan gynnwys Aelodau Cynulliad newydd a’r rhai sy’n dychwelyd, yn seiliedig ar werthusiad o ganlyniadau DPP hyd yma;

 

        Cefnogi newid cyfansoddiadol, y disgwylir iddo ddigwydd ar raddfa fawr yn sgil cyhoeddiad Deddf Cymru 2014 a chyhoeddiad Dydd Gŵyl Dewi 2015;

 

        Parhau â gwaith ymgysylltu a hyrwyddo’r Comisiwn, gyda phwyslais ychwanegol i adlewyrchu’r datblygiadau cyfansoddiadol newydd;

 

        Gwerth am arian - mae gan y Comisiwn record gref o ran cyflawni gwerth am arian law yn llaw â’i nodau a’i flaenoriaethau strategol, a byddwn yn awyddus i adeiladu ar hyn o ddechrau’r Pumed Cynulliad; a

 

        Datblygu gwasanaeth technolegol – parhau i newid a gwella Gwasanaethau’r Cynulliad a’r ffyrdd rydym yn cefnogi Aelodau’r Cynulliad i gyflawni eu rolau.

 

Cytunodd y Comisiynwyr, yn ogystal â diweddaru’r drafft i adlewyrchu canlyniad Adolygiad o Wariant y DU a’r Gyllideb, y byddai’n bwysig bod y drafft nesaf yn cynnwys llawer o ddiagramau a darluniau er mwyn sicrhau bod yr un lefel o eglurder a gyflwynwyd yng nghyllideb 2015-16 yn cael ei gyflawni eto eleni.

 

Cytunodd y Comisiwn i dderbyn dogfen wedi’i diweddaru i’w hystyried ym mis Medi, cyn bod angen i’r gyllideb ddrafft gael ei gosod.

 

3.

Adroddiad Blynyddol Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg Comisiwn y Cynulliad

Cofnodion:

Mae’r Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg yn cyflwyno ei adroddiad blynyddol i’r Comisiwn bob blwyddyn. Eric Gregory, sef Cadeirydd y Pwyllgor, a gyflwynodd yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2014-15 i’r Comisiynwyr a thynnodd sylw at feysydd allweddol y mae’r Pwyllgor wedi canolbwyntio arnynt yn ystod y flwyddyn. Rhoddodd hefyd amlinelliad o’r meysydd y mae’r Pwyllgor yn bwriadu canolbwyntio arnynt yn ystod y flwyddyn i ddod.

 

Gofynnodd y Comisiynwyr am fater diweddar a godwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru mewn perthynas â chofnodi gwyliau Staff Cymorth Aelodau’r Cynulliad yng nghyfrifon y Comisiwn. Maent yn cefnogi’r safbwynt a fynegwyd gan swyddogion.

 

Dywedodd y Comisiynwyr pa mor werthfawr yw hi i gael mewnbwn gan gynghorwyr annibynnol y Comisiwn, a’u bod yn teimlo bod y safbwynt allanol yn ddefnyddiol iawn.

 

Nododd y Pwyllgor yr adroddiad annibynnol.

 

4.

Amnewid teledu cylch cyfyng

Cofnodion:

Ystyriodd y Comisiynwyr bapur a oedd yn nodi’r gofyniad i amnewid y system teledu cylch cyfyng.

 

Roedd y Comisiwn yn cefnogi’r angen i wneud y gwaith a chytunwyd y dylid cyflwyno achos busnes manwl iddynt ym mis Medi.

 

5.

Penodi Aelodau y Bwrdd Taliadau

Cofnodion:

Bydd penodiadau aelodau presennol y Bwrdd Taliadau yn dod i ben ar 20 Medi 2015. Cyflwynwyd papur i’r Comisiynwyr yn nodi proses a chanlyniadau’r ymarfer recriwtio a dewis diweddar i ddewis Cadeirydd ac aelodau newydd i’r Bwrdd.

 

Mae penodiadau i’r Bwrdd Taliadau yn cael eu gwneud gan y Comisiwn yn unol â Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010. Soniodd y Comisiynwyr am amrywiaeth drawiadol o brofiad ac arbenigedd y pum unigolyn a gafodd eu dewis.

 

Ar ôl bodloni eu hunain na ddylai neb o’r rhai oedd yn cael eu penodi gael eu gwahardd rhag bod yn aelodau’r Bwrdd, penododd y Comisiwn:

  • Y Gwir Anrhydeddus Y Fonesig Dawn Primarolo (Cadeirydd)
  • Y Fonesig Jane Roberts
  • Trevor Reaney
  • Michael Redhouse a
  • Roger Williams.

 

Bydd y penodiadau newydd yn dechrau o 21 Medi 2015.

 

Cytunodd y Comisiwn i gyhoeddi’r papur a’i anfon at arweinwyr y pleidiau a holl Aelodau’r Cynulliad.

 

6.

Unrhyw fater arall

Cofnodion:

Trafodwyd a chytunwyd y materion canlynol drwy ohebiaeth yn y cyfnod cyn y cyfarfod hwn:

        Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2014-15

        Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2014-15

        Adroddiad Blynyddol ar Gydymffurfio â'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol 2014-15.

 

Hwn oedd cyfarfod olaf y Comisiwn cyn toriad yr haf. Bydd y cyfarfod nesaf ar 17 Medi pryd y bydd y Comisiynwyr yn ystyried dogfen gyllideb wedi’i diweddaru.