Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel

Cyswllt: Sulafa Thomas, x8669 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad

1.1

Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

Cofnodion:

Roedd Angela Burns AC a David Melding AC wedi anfon eu hymddiheuriadau.

 

1.2

Datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.

 

1.3

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Chwefror.

 

2.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddiogelwch

Cofnodion:

Rhoddodd Dave Tosh y wybodaeth ddiweddaraf am ddiogelwch gan gyfeirio at gwmpas y briff mwy sylweddol ym mis Ebrill.

 

3.

Newidiadau TGCh yn y dyfodol - adnewyddu TGCh y Siambr a’r system ffonau

Cofnodion:

Trafododd y Comisiwn gynlluniau i ddiweddaru’r dechnoleg yn y Siambr. Trafododd bapur a oedd yn nodi’r risgiau a godwyd mewn perthynas â chyflwyno prosiect i adnewyddu TGCh yn y Siambr. Roedd yn rhoi manylion i’r Comisiwn am bryderon ynghylch perfformiad y cyflenwyr caledwedd gan gynnig ffordd ymlaen.

 

Cytunodd y Comisiynwyr i friffio grwpiau’r pleidiau yr wythnos nesaf.

 

Trafododd y Comisiynwyr y risgiau a nodwyd a’r angen i sicrhau bod gan y Comisiwn berthnasau da â’r cyflenwyr sy’n cefnogi ein systemau critigol. Cytunodd y Comisiwn i ohirio gweithredu’r prosiect tan 2016.

 

Rhoddodd Dave Tosh y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect teleffoni. Cadarnhaodd y canlynol: 

  • bydd y newid i’r system ffôn newydd ym Mae Caerdydd yn digwydd dros benwythnos 23-25 Mai;
  • bydd setiau llaw newydd yn cael eu gosod ar y penwythnos hwnnw i bob defnyddiwr;
  • bydd y rhif 0300 newydd yn disodli rhifau 029 20 yn llwyr;
  • bydd rhifau 029 20 a’r rhifau estyniad mewnol presennol yn dod i ben. Bydd galwyr allanol yn cael neges yn eu cyfeirio at y switsfwrdd;
  • y rhifau estyniad mewnol fydd pedwar digid olaf y rhif 0300;
  • Bydd Rheolwyr Cyfrif yn dod i siarad â phob Aelod dros y mis nesaf;
  • Y Comisiwn, ac nid Aelodau unigol, fydd yn talu am gostau argraffu angenrheidiol yn sgil newid manylion cyswllt.

 

Croesawodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf gan bwysleisio bod angen atgoffa’n rheolaidd am y newid.

 

 

4.

Pontio i’r Pumed Cynulliad

Cofnodion:

Cafodd y Comisiynwyr bapur a oedd yn darparu gwybodaeth am gynllunio ar gyfer diddymu’r Pedwerydd Cynulliad a phontio i’r Pumed Cynulliad.

 

Cadarnhaodd y Comisiynwyr mai eu dull o ran trefniadau i ddiddymu’r Cynulliad fydd sicrhau bod eu staff yn cael gwybodaeth lawn a chynnar i’w galluogi i gynllunio ar gyfer y diddymiad a bod yr Aelodau hynny sy’n rhoi’r gorau iddi yn cael cymorth i’w galluogi i ddirwyn eu gwaith yn y Cynulliad i ben. Teimlodd y Comisiynwyr y byddai’n ddefnyddiol gweithio drwy Grwpiau i gyfathrebu ag Aelodau ac awgrymwyd cynnal sesiynau gyda Grwpiau maes o law.

 

Pan gaiff y Cynulliad ei ddiddymu, bydd Aelodau yn dychwelyd i fod yn aelodau o’r cyhoedd ar unwaith ac yn colli pob braint sy’n gysylltiedig â bod yn Aelod Cynulliad. Bydd hyn, felly, yn cynnwys cyfyngiadau ar ddefnydd cyn-Aelodau o adnoddau’r Cynulliad yn ystod y cyfnod diddymu.

 

Roedd Comisiynwyr yn teimlo bod angen ystyried y mater o faint o Aelodau sydd eu hangen i wneud Grŵp yn ystod y Pedwerydd Cynulliad.

 

Bydd y Comisiwn yn gwneud penderfyniadau penodol yn hwyrach yn 2015, a bydd pecyn y Bwrdd Taliadau o benderfyniadau o ran cydnabyddiaeth a chymorth ariannol yr Aelodau yn y Pumed Cynulliad yn cael ei gadarnhau erbyn mis Mai 2015.

 

 

5.

Diweddariad a Chofnodion y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg - 9 Chwefror 2015

Cofnodion:

Rhoddodd Claire Clancy grynodeb o gyfarfod Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Cynulliad a gynhaliwyd ar 9 Chwefror, sef cyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwnnw cyn diwedd y flwyddyn ariannol.

 

Roedd Cadeirydd y Pwyllgor yn gallu cadarnhau bod yr holl bwyntiau gweithredu archwilio a oedd yn weddill wedi cael eu cwblhau cyn diwedd y flwyddyn ariannol, ac edrychodd y Pwyllgor ymlaen at y gweithgarwch dros y flwyddyn nesaf.

 

Croesawodd Comisiynwyr y gwaith a wnaed gan nodi cofnodion y cyfarfod yn ffurfiol.

 

 

6.

Unrhyw fater arall

Cofnodion:

Diolchodd y Llywydd i’r Comisiynwyr a staff y Comisiwn am y gwaith a wnaed yn y cyfnod cyn datganiad yr Ysgrifennydd Gwladol a oedd yn cyhoeddi cytundeb Dydd Gŵyl Dewi ar ddyfodol datganoli yng Nghymru. Nododd fod y cyflwyniadau manwl a gyflwynwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol, ac adroddiad y Comisiwn ar gapasiti, wedi gwneud gwahaniaeth go iawn.

 

Hefyd, dywedodd y Llywydd wrth y Comisiynwyr, gan fod Angela Burns yn wynebu absenoldeb estynedig, y byddai David Melding yn ymgymryd â’i chyfrifoldebau fel Comisiynydd tra’i bod yn absennol.

 

Tynnodd Claire Clancy sylw at ymgynghoriad y Bwrdd Taliadau, a fyddai’n cael ei gyhoeddi y diwrnod canlynol, a dywedodd wrth y Comisiynwyr fod y Pwyllgor Cyllid wedi adrodd ar y gyllideb atodol.

 

Bydd y Comisiwn yn cyfarfod nesaf ddydd Iau 23 Ebrill 2015, pan fydd y Comisiynwyr yn ystyried y Strategaeth Gyllideb ar gyfer 2016-17 ac yn cael briff diogelwch llawn.