Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Cyswllt: Sulafa Thomas, x8669
Rhif | Eitem |
---|---|
Rhagarweiniad |
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. |
|
Datganiadau o fuddiant Cofnodion: Ni chafwyd datganiadau o
fuddiant. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Dogfennau ategol: Cofnodion: Derbyniwyd cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Ionawr. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddiogelwch - Eitem lafar Cofnodion: Cafodd y
Comisiwn sesiwn friffio diogelwch, a bydd yn ystyried amrywiaeth o opsiynau mewn
cysylltiad â diogelwch ar y safle. Penderfynodd y Comisiynwyr drafod y mater
eto yn ei gyfarfod ar 9 Chwefror. |
|
Strategaeth Rheoli Carbon - Casgliad a Chynlluniau’r Dyfodol Cofnodion: Trafododd y
Comisiynwyr adroddiad a oedd yn rhoi crynodeb o’n prif gyflawniadau mewn
cysylltiad â’r targedau corfforaethol ac a arweiniodd at y Strategaeth Rheoli
Carbon. Croesawodd y Comisiynwyr y manylion am y gostyngiadau sylweddol mewn
allyriadau carbon a gyflwynwyd drwy’r strategaeth hon. Mae’r Comisiwn yn
bwriadu adeiladu ar y llwyddiant hwn yn y blynyddoedd i ddod drwy’r Trywydd
Lleihau Ynni y cytunwyd arno y llynedd. Canmolodd y
Comisiynwyr yr adroddiad a’r gwaith a wnaed i gyflawni llwyddiant o’r fath, gan
dynnu sylw’n benodol at y wobr ddiweddar ar gyfer Sefydliad Sector Cyhoeddus
Mwyaf Cynaliadwy mewn Llywodraeth ledled y DU. Cytunwyd y dylid cyhoeddi’r
adroddiad ar dudalen cynaliadwyedd gwefan y Comisiwn. |
|
Adroddiad ar Berfformiad Corfforaethol, Ebrill - Mehefin 2014 Cofnodion: Trafododd y
Comisiynwyr bapur a oedd yn nodi’r Adroddiad Perfformiad Corfforaethol drafft
ar gyfer y cyfnod rhwng Ebrill a Rhagfyr 2014. Ystyriodd y
Comisiynwyr nifer o feysydd a drafodir yn yr adroddiad, gan ganolbwyntio’n
benodol ar ymweliadau gan ysgolion a gwella lefelau salwch staff. Nododd y
Comisiynwyr pa mor ddefnyddiol oedd yr adroddiad ond efallai bod angen ystyried
ei symleiddio a pheidio â chael gormod o dargedau. |
|
Adroddiad ar y Prif Bwyntiau (Gorffennaf - Rhagfyr 2014) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Adolygodd y
Comisiynwyr yr adroddiad diweddaraf ar y prif bwyntiau a oedd yn rhoi’r
wybodaeth ddiweddaraf am y prif weithgareddau a phrosiectau ers mis Mehefin
2014. Cytunwyd i gyhoeddi’r adroddiad a sicrhau ei fod ar gael i Aelodau. |
|
Adolygiad o Effeithiolrwydd Comisiwn y Cynulliad - y diweddaraf ar y camau gweithredu Cofnodion: Gwnaeth y
Comisiwn adolygu a diweddaru ei Gynllun Gweithredu mewn ymateb i’r argymhellion
yn yr adroddiad ar adolygiad o effeithiolrwydd y Comisiwn. |
|
Cofnodion y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg - 10 Tachwedd 2014 Cofnodion: Nododd y
Comisiynwyr gofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg ar 10
Tachwedd, ar ôl cael diweddariad ar lafar am y cyfarfod ym mis Rhagfyr. |
|
Unrhyw fater arall Cofnodion: Bydd y
Comisiwn yn cyfarfod nesaf ar 9 Chwefror, pan fydd y drafodaeth yn canolbwyntio
ar ymgysylltu â phobl Cymru, a bydd y Comisiynwyr yn trafod materion diogelwch
unwaith eto. |