Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sulafa Thomas, 02920 89 8669
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad y Cadeirydd |
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Roedd Rhodri Glyn
Thomas AC ac Angela Burns AC wedi anfon eu hymddiheuriadau. |
|
Datganiadau o fuddiant Cofnodion: Ni chafwyd datganiadau
o fuddiant. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol paper 1 Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion
y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Gorffennaf. |
|
Cyllideb Ddrafft 2015-16 papur 2 Cofnodion: Roedd dogfen y gyllideb
ddrafft, a ystyriwyd yn flaenorol yng nghyfarfod y Comisiwn ym mis Gorffennaf,
wedi cael ei diweddaru. Fel y
rhagwelwyd, mae rhagor o wybodaeth wedi’i chynnwys am y cynnydd yng nghost
Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil ar gyfer staff y Comisiwn, yn ôl y disgwyl,
ac mae gwybodaeth am gyllid dangosol ar gyfer cyfnodau yn y dyfodol wedi’i
chynnwys hefyd. Cadarnhaodd Llywodraeth y DU ffigwr is na’r disgwyl ar gyfer
cyfraniadau’r cyflogwr i Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, sy’n dileu’r angen
am gynnwys eitem eithriadol. Ystyriodd y Comisiynwyr fod y
gyllideb ddrafft yn unol ag anghenion y Comisiwn a disgwyliadau’r Pwyllgor
Cyllid yn llwyr. Teimlodd y Comisiynwyr y bydd y Gyllideb yn darparu llwyfan cadarn
ar gyfer y Pumed Cynulliad i weithio arno, ac mae’n adlewyrchu’r nodau a’r
targedau strategol y cytunwyd arnynt eisoes. Cytunodd y Comisiynwyr ar y
gyllideb ddrafft ar gyfer 2015-16, a rhoddwyd cymeradwyaeth i osod y ddogfen ar
25 Medi 2014. Bydd y Pwyllgor Cyllid
yn craffu ar y gyllideb ddrafft ar 2 Hydref. |
|
Unrhyw Fusnes Arall Cofnodion: Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 29
Medi. Bydd y Comisiynwyr yn canolbwyntio ar faterion perfformiad, pan fyddant
yn trafod yr adroddiad Perfformiad Corfforaethol
am y cyfnod rhwng mis Ebrill a mis Mehefin, a chanlyniadau’r Arolwg Aelodau a’u
staff cymorth. Bydd Peter Black yn ymddangos
gerbron y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad ar 23 Medi i roi tystiolaeth
ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Comisiwn. Yr Ysgrifenyddiaeth Medi
2014 |