Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Carys Evans, 02920 89 8598 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad y Cadeirydd

1.1

Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

Cofnodion:

Roedd Angela Burns AC a David Melding AC wedi anfon eu hymddiheuriadau.

1.2

Datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.

1.3

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Mehefin.

2.

Cyllideb ddrafft 2015-16

papur 2

Cofnodion:

Yn unol â thrafodaethau blaenorol, roedd y Comisiynwyr yn parhau i ystyried y byddai cyllideb  2015-16 yn cael ei rheoli'n unol â newidiadau i floc Cymru, ac eithrio'r eitemau hynny sydd y tu allan i reolaeth y Comisiwn. Byddai gwaith yn cael ei gwblhau dros yr haf i gynllunio ar gyfer effaith y cynnydd disgwyliedig yng nghostau pensiynau PCSPS a byddai'r Comisiwn yn cael cyngor terfynol ynglŷn â'r gyllideb ddrafft derfynol ym mis Medi. Nododd y Comisiynwyr nad oedd rhagor o wybodaeth ar gael gan Swyddfa'r Cabinet.

3.

Gwneud y gorau o ystâd y Cynulliad

papur 3

Cofnodion:

Cwblhawyd nifer o ychwanegiadau a gwelliannau yn ystod y 12 mis diwethaf ac maent wedi gwella'r amgylchedd i'r rhai sy'n gweithio ar Ystâd y Cynulliad neu'n ymweld â hi. Mae'r rhain yn cynnwys newidiadau i drefniadau diogelwch Tŷ Hywel a'r dderbynfa sydd wedi gwella profiadau ymwelwyr yn arw a chrewyd hefyd ystafelloedd cyfarfod lle gall yr Aelodau gyfarfod â'r rhai sy'n ymweld â'r adeilad, mae arwyddion newydd wedi'u gosod ger y Senedd ac mae rhai o'r cyfleusterau wedi'u gwella. Yn dilyn adborth gan yr Aelodau, mae'r system wresogi wedi'i gwella i greu amgylchedd gwaith mwy cyfforddus yn y Senedd, y Siambr, yr ystafelloedd pwyllgora a'r swyddfeydd. Byddai gwaith yn cael ei wneud dros doriad yr haf i adnewyddu gweddill y toiledau  yn Nhŷ Hywel.

 Cytunodd y Comisiynwyr y dylai'r tîm Rheoli Ystadau a Chyfleusterau ystyried meysydd eraill i'w gwella fel rhan o waith cynnal a chadw parhaus. Yn ystod gweddill y Cynulliad hwn, dylid rhoi blaenoriaeth i wella'r safleoedd hynny a gaiff eu defnyddio gan y nifer sylweddol sy'n ymweld ag Ystâd y Cynulliad, fel y Pierhead a'r ystafelloedd cynadledda yn Nhŷ Hywel. Dylai'r tîm hefyd ystyried unrhyw adborth sy'n codi yn yr arolwg blynyddol o'r Aelodau a'u staff cymorth, a fydd ar gael yn ystod toriad yr haf.   

Byddai'r tîm yn cysylltu â Grwpiau Plaid i nodi unrhyw newidiadau angenrheidiol (fel dodrefnu swyddfeydd yr Aelodau a'r Grwpiau) i sicrhau eu bod yn parhau i ddiwallu eu hanghenion. Byddai unrhyw waith mawr yn cael ei wneud yn ystod y cyfnod diddymu rhwng y Pedwerydd a'r Pumed Cynulliad, i amharu cyn lleied â phosibl ar yr Aelodau a'u staff.

Awgrymwyd hefyd y dylid archwilio'r posibilrwydd o godi wal wydr yn neuadd Siambr Hywel i greu lle hyblyg ychwanegol ar gyfer digwyddiadau etc.

4.

Adroddiad ar y Prif Bwyntiau

papur 4

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Roedd yr adroddiad yn crynhoi'r gwaith a wnaed i gyflawni Nodau Strategol y Comisiwn rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf 2014.

Byddai gwaith y Cynulliad ar ymgysylltu â phobl ifanc yn cael ei lansio ar 16 Gorffennaf i arddangos y gwaith ardderchog roedd y Cynulliad wedi'i wneud eisoes yn y maes hwn ac i gyflwyno gweledigaeth y Comisiwn ar gyfer gwella gwasanaethau  ymgysylltu â phobl ifanc. Mae nifer o weithgareddau'n cael eu trefnu, gan gynnwys digwyddiad Hawl i Holi gyda phanel o Aelodau'r Cynulliad, llofnodi Siarter Pobl Ifanc gan Arweinwyr y Pleidiau a datganiad gan y Llywydd yn y Cyfarfod Llawn.

Trafododd y Comisiynwyr y materion a ganlyn hefyd:

·         ceisiadau rhyddid gwybodaeth;

·         dirwyn y contract ag Atos i ben erbyn diwedd mis Gorffennaf;

·         cyhoeddi a thrafod Adroddiad Blynyddol ar y Cynllun Ieithoedd Swyddogol;

·         y streic arfaethedig ar 10 Gorffennaf; a

·         dod â phrotest unigolyn sydd ar streic newyn ar Ystâd y Cynulliad i ben.

 Mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi bod yn anfon negeseuon trydar yn ddiweddar yn ystod ei drafodion. Trafododd y Comisiynwyr werth y math hwn o weithgaredd o safbwynt ymgysylltu â'r cyhoedd. Cytunwyd y dylid rhoi'r gorau i drydar yn ystod trafodion byw'r pwyllgor nes bod effaith a gwerth ychwanegol y gweithgaredd wedi'i fesur.  Dywedodd y Comisiynwyr fod angen paratoi polisi cyfryngau cymdeithasol iddynt ei drafod.

5.

Y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg y wybodaeth ddiweddaraf o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Gorffennaf

llafar

Cofnodion:

Roedd y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg Comisiwn y Cynulliad wedi cyfarfod y diwrnod hwnnw. Rhoddodd Claire Clancy adroddiad ar yr hyn  a drafodwyd yn y cyfarfod.

 Roedd Swyddfa Archwilio Cymru wedi paratoi adroddiad ar gyfrifon blynyddol Comisiwn y Cynulliad a byddai Archwilydd Cyffredinol Cymru yn llofnodi'r rhain gan roi barn ddiamod arnynt. Roedd Swyddfa Archwilio Cymru wedi nodi bod angen rhoi rhagor o sylw i'r prosiect Adnoddau Dynol a'r gyflogres ac roedd y pwyllgor yn fodlon bod gwaith craffu digonol wedi'i gynnal yn y cyswllt hwn.

Nid oedd unrhyw faterion yn peri pryder yn dilyn yr archwiliad a'r adolygiad o lwfansau'r Aelodau, gan gynnwys recriwtio staff cymorth.

Daeth y Pwyllgor i'r casgliad y gallai'r Prif Weithredwr lofnodi'r cyfrifon.

6.

Adroddiad blynyddol ACARAC

papur 5

 

Cofnodion:

Rhaid i Bwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg Comisiwn y Cynulliad gyflwyno Adroddiad Blynyddol ar ei waith i'r Comisiwn bob blwyddyn.  Cyflwynwyd yr adroddiad gan Eric Gregory, sy'n cadeirio'r pwyllgor ers dechrau'r flwyddyn, a thynnodd sylw at y canlynol:

·         roedd y pwyllgor wedi mabwysiadu rhai trefniadau newydd i gryfhau ei waith, gan gynnwys gwella trefniadau rheoli risg corfforaethol ac adolygu ei effeithiolrwydd ei hun o fewn y flwyddyn;

·         roedd y pwyllgor o'r farn bod trefniadau rheoli risg a llywodraethu cyffredinol y Comisiwn yn gryf iawn a bod cysondeb effeithiol rhwng nodau ac amcanion strategol a gweithgareddau a phrosiectau;

·         mae'r prosiect Dyfodol TGCh wedi bod yn rhaglen enghreifftiol a reolwyd yn ôl amcanion clir ac iddi system oruchwylio, llywodraethu a chynllunio gref o fewn y sefydliad, gan gynnwys gan y Comisiwn;

·         roedd y gwaith a wnaed i sicrhau gwerth am arian yn golygu bod y Comisiwn mewn sefyllfa dda; ac

·         roedd swyddogaeth archwilio mewnol y Comisiwn yn gweithio'n eithriadol o dda ac roedd Pennaeth newydd Archwilio Mewnol yn gwneud cynnydd sylweddol.

Yn ystod y flwyddyn nesaf byddai'r pwyllgor yn canolbwyntio ar y meysydd y ganlyn: 

·         ymwreiddio'r gwersi a ddysgwyd yn dilyn y prosiect Adnoddau Dynol a'r Gyflogres; 

·         adolygu'r system rheoli perfformiad ar gyfer staff y Comisiwn;

·         adolygu'r gofrestr risg gorfforaethol yn rheolaidd;

·         cynlluniau parhad busnes;   

·         adolygu'r fframwaith sicrwydd cyffredinol a gofalu bod y trefniadau newydd ar gyfer TGCh yn arwain at y manteision a ragwelwyd.

 Diolchodd y Comisiynwyr i Eric am ei waith gyda'r pwyllgor yn ystod y flwyddyn ac am ei gyfraniad i'r cyfarfod. Cytunwyd y dylai'r Comisiynwyr chwilio am ragor o gyfleoedd i drafod gwaith y pwyllgor yn y dyfodol.

7.

Papur i'w nodi - Y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Mehefin 2014

papur 6

Cofnodion:

Nodwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg - cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Mehefin

8.

Unrhyw Fusnes Arall

Cofnodion:

Cynhelir y cyfarfod nesaf ym mis Medi. Byddai'r Comisiynwyr yn trafod cyllideb ddrafft 2015-16 cyn iddi gael ei chyflwyno gerbron y Cynulliad.  

Byddai Rhodri Glyn Thomas a Peter Black yn ymddangos gerbron Pwyllgor Cyllid y Cynulliad ar 16 Gorffennaf i roi tystiolaeth am berfformiad y Comisiwn ym maes gwasanaethau TCGh a dwyieithrwydd.

Caiff Adroddiad Comisiwn y Cynulliad ar Gydymffurfio â'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol 2013-14 ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 16 Gorffennaf. 

 

Yr Ysgrifenyddiaeth
Gorffennaf 2014