Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Carys Evans, 02920 89 8598 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad y Cadeirydd

1.1

Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

Cofnodion:

Roedd Angela Burns AC a David Melding AC wedi anfon eu hymddiheuriadau.

1.2

Datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.

 

1.3

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

papur 1

Dogfennau ategol:

2.

Adolygiad o Effeithiolrwydd Comisiwn y Cynulliad

papur 2

Cofnodion:

Yn unol ag arfer gorau llywodraethu corfforaethol ac egwyddorion llywodraethu Comisiwn y Cynulliad, cafodd adolygiad o effeithiolrwydd y Comisiwn ei gwblhau rhwng mis Ionawr a mis Ebrill 2014. Roedd yn asesu'r cynnydd yn ôl yr argymhellion a wnaed yn yr adolygiad cyntaf, a gyflwynwyd ym mis Ionawr 2013, ac yn nodi rhai o'r camau gweithredu ar gyfer y dyfodol. Cynhaliwyd yr ymarfer gan Gareth Watts, Pennaeth Archwilio Mewnol y Comisiwn.

Canfu'r adolygiad fod y Comisiwn wedi parhau i wneud cynnydd. Roedd y Comisiynwyr wedi dangos trosolwg effeithiol o brosiectau arwyddocaol fel Dyfodol TGCh a'r prosiect Cyfieithu Peirianyddol. Roedd datblygu adnoddau fel dangosyddion perfformiad allweddol wedi arwain at ffocws strategol gwell, a mwy o atebolrwydd a thryloywder. 

Roedd Comisiynwyr unigol wedi dangos meistrolaeth gref ar eu portffolios perthnasol, gan arwain y drafodaeth ar eu meysydd cyfrifoldeb a meithrin cydberthnasau effeithiol gyda'r staff sy'n gweithio yn y meysydd hynny. Fel aelodau o fwrdd llywodraethu, teimla'r Comisiynwyr y gallant edrych ar faterion mewn ffordd gorfforaethol a rhoi eglurhad i'w grwpiau gwleidyddol a'r cyhoedd o'r penderfyniadau a wnaed.

Derbyniodd y Comisiynwyr y cynigion yn y papur, gan gynnwys datblygu cynllun gweithredu ar gyfer rhoi argymhellion yr adroddiad ar waith. Teimlwyd fod yr adolygiad wedi bod yn ymarfer gwerthfawr o ran nodi'r meysydd lle roedd y Comisiwn wedi gweithio'n dda a nodi'r cyfleoedd ar gyfer y 12 mis sydd i ddod. Cynhelir adolygiad pellach y flwyddyn nesaf. Diolchwyd i Gareth Watts am gynnal yr adolygiad.

3.

Adroddiad Blynyddol ar Gydymffurfio â'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol

papur 3

Cofnodion:

Yn unol â Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012 mae'n ofynnol i'r Comisiwn lunio Cynllun Ieithoedd Swyddogol. Bob blwyddyn, mae'n rhaid i'r Comisiwn osod adroddiad gerbron y Cynulliad yn nodi sut y mae wedi rhoi'r Cynllun ar waith yn ystod y flwyddyn adrodd. Byddai'r adroddiad ar gyfer 2013-14 yn cael ei osod gerbron y Cynulliad i'w drafod ar 16 Gorffennaf.

Nododd y Comisiynwyr fod cynnydd da wedi'i wneud yn ystod y flwyddyn a chymeradwywyd y staff am eu cyflawniadau yn y meysydd hyn, gan gynnwys: 

-       lansio Microsoft Translator;

-       datblygu ffyrdd gwahanol o gefnogi'r Aelodau gyda'u gwaith pwyllgor;

-       hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith i holl staff Comisiwn y Cynulliad;

-       y gwaith a wnaed gan gydgysylltwyr y Cynllun Ieithoedd Swyddogol ym mhob maes gwasanaeth; a

-       chymorth gwell ar gyfer gwaith achos etholaethol dwyieithog yr Aelodau.

Cytunwyd ar y blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod i sicrhau arfer da ymhellach ym mhob rhan o'r sefydliad. Pwysleisiodd y Comisiynwyr bwysigrwydd y Cynllun yn cefnogi'r nod o wneud y Cynulliad yn sefydliad dwyieithog ac arwain y ffordd o ran datblygu gwasanaethau dwyieithog. Dylid rhannu arfer gorau pan fo'n bosibl fel y gall eraill ddysgu o brofiad y Cynulliad o gefnogi gweithlu dwyieithog.

4.

Y wybodaeth ddiweddaraf gan y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg

(cyfarfod 9 Mehefin) - ar lafar

Cofnodion:

Rhoddodd Claire Clancy grynodeb o gyfarfod Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Cynulliad a gynhaliwyd ar 9 Mehefin. Trafodwyd y materion a ganlyn: 

-       Yr adroddiad ar weithgarwch archwilio mewnol, gan gynnwys gwybodaeth am lywodraethu a pharhad busnes;

-       Adroddiad a chyfrifon blynyddol y Pwyllgor;

-       Risgiau corfforaethol;

-       Dull y Comisiwn o ran rheoli rhaglenni.

Byddai Cadeirydd y Pwyllgor yn mynd i gyfarfod y Comisiwn ym mis Gorffennaf i gyflwyno Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor.

5.

Unrhyw Fusnes Arall

Diwygio polisi - ar lafar

Cofnodion:

Adolygodd y Comisiynwyr Bolisi Cadw Cofnodion y Comisiwn a chytunwyd i ymdrin ag amgylchiadau pan fo effaith y cydymffurfiad â'r Polisi yn afresymol ac yn anghymesur.

 

Yr Ysgrifenyddiaeth
Mehefin 2014