Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Carys Evans, 02920 89 8598
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad y Cadeirydd |
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Ni
chafwyd ymddiheuriadau ar gyfer y cyfarfod hwn. |
|
Datganiadau o fuddiant Cofnodion: Ni
chafwyd datganiadau o fuddiant. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol papur
1 Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunwyd
ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Chwefror |
|
Cofnodi Trafodion y Cynulliad papur
2 Cofnodion: Bu'r Comisiwn
yn trafod papur a oedd yn nodi cefndir y gwaith o gofnodi trafodion y
Cynulliad. Roedd y prif bwyntiau a nodwyd gan y Comisiynwyr yn cynnwys: ·
Mae trafodion y Cynulliad yn cael
eu cofnodi mewn nifer o ffyrdd, ac mae hynny i'w ddisgwyl mewn democratiaeth
agored, hygyrch a thryloyw. ·
Yn unol â'r arfer ledled y
Gymanwlad ac yn San Steffan ers y 19eg ganrif, nid yw Cofnod Trafodion y
Cynulliad yn drawsgrifiad gair am air ond yn gofnod wedi'i olygu o'r hyn a
ddywedir yn y Cyfarfod Llawn a chyfarfodydd pwyllgor. ·
Mae bodolaeth Senedd.tv yn golygu
nad y Cofnod ysgrifenedig yw'r unig ffynhonnell i'r rhai sydd â diddordeb yn yr
hyn a ddywedir yn ystod ein trafodion. Bu'r
Comisiynwyr yn trafod y dull presennol o gynhyrchu a chyhoeddi Cofnod y
Trafodion, a'r broses o adnewyddu Senedd.tv. Fe wnaethon nhw gytuno y gallai
fod cyfleoedd i fanteisio ar dechnolegau newydd yn y maes hwn. Cytunodd y
Comisiynwyr bod cadw cofnod ysgrifenedig sy'n nodi trafodion y Cynulliad yn
ffurfiol yn bwysig iawn, yn enwedig ar gyfer trafodion y Cyfarfod Llawn. Mae'n
debygol y bydd hyn yn wir yn y dyfodol, hyd y gellir rhagweld. Fodd bynnag, dylid ymchwilio i unrhyw
gyfleoedd posibl i gofnodi pethau mewn modd gwahanol, yn enwedig os y gallai
hyn gynyddu ymgysylltiad â gwaith y Cynulliad a dealltwriaeth o'r gwaith
hwn. Cytunodd y
Comisiynwyr i gynnal adolygiad, dros y 12 mis nesaf, i ystyried nifer o
agweddau, gan gynnwys: ·
ymchwilio i wahanol ffyrdd o
weithio a defnyddio technoleg i wella effeithlonrwydd a gwneud y defnydd gorau
o adnoddau yn y maes pwysig hwn o weithgarwch;
·
pa ffurf y dylai ein gwaith o
gofnodi'r trafodion ei chymryd er mwyn bodloni anghenion Aelodau a
rhanddeiliaid; ac ·
asesu'r cyfleoedd sydd ar gael i ddefnyddio'r cynhyrchion hyn
mewn gwahanol ffyrdd, gan wneud gweithgareddau'r Cynulliad yn fwy tryloyw ac
agored ac yn haws ymgysylltu â nhw yn y byd digidol. |
|
Trosglwyddo Gwasanaethau TCCh - Diweddariad am barodrwydd papur
3 Cofnodion: Ym mis Rhagfyr
2013 gofynnodd y Comisiynwyr am adroddiadau rheolaidd ar gynnydd y Prosiect
Gwasanaethau TGCh ar gyfer y Dyfodol, gan gynnwys yr asesiad o'r parodrwydd i
drosglwyddo i ddarparu gwasanaethau TGCh yn fewnol. Bu'r
comisiynwyr yn trafod cynnydd y prosiect sylweddol hwn a'r gwaith paratoi a
oedd wedi cael ei wneud er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau yn trosglwyddo mewn
modd sydd mor effeithlon a llyfn ag y bo modd. Mae'r prosiect yn parhau i fod
ar y trywydd iawn ac mae disgwyl i Gomisiwn y Cynulliad fod yn gyfrifol am
ddarpariaeth TGCh y Cynulliad ym mis Ebrill, dri mis cyn dyddiad terfyn y
contract. Mae ymdrechion
yn cael eu gwneud i sicrhau bod Aelodau'r Cynulliad, eu staff cymorth a
gweithwyr y Comisiwn yn ymwybodol o'r gwaith paratoi manwl a wnaed. Gofynnodd y
Comisiynwyr bod negeseuon yn cael eu hanfon at bawb sy'n gweithio i'r Cynulliad
ac mae cynrychiolwyr o TGCh yn siarad i bob grŵp plaid i
sicrhau bod y rhai yr effeithir arnynt gan y newid yn ymwybodol o'r hyn sy'n
digwydd. Cafodd
swyddogion eu llongyfarch am eu gwaith hyd yma ar y prosiect cymhleth hwn.
Byddai'r penderfyniad ynghylch pa mor barod ydym i drosglwyddo'r gwasanaethau
ym mis Ebrill yn cael ei wneud gan y Comisiwn ddiwedd mis Mawrth. |
|
Cyfarfod Strategaeth y Comisiwn - 3 Ebrill papur
4 Cofnodion: Bydd
cyfarfod strategaeth preifat yn cael ei gynnal ar 3 Ebrill lle byddai'r
Comisiynwyr yn trafod eu blaenoriaethau ar gyfer gweddill y Cynulliad hwn,
paratoadau ar gyfer trosglwyddo i'r Pumed Cynulliad a materion cyfansoddiadol
sylweddol sydd ar y gorwel. |
|
Papur i'w nodi - cofnodion drafft 3 Chwefror y Pwyllgor Archwilio a papur
5 Cofnodion: Nodwyd
y cofnodion yn ffurfiol. |
|
Unrhyw fater arall Cofnodion: Cynhelir
cyfarfod nesaf y Comisiwn ar 26 Mawrth 2014. Bydd yr eitemau ar yr agenda yn
cynnwys TGCh yn y Siambr a pharodrwydd o ran trosglwyddo gwasanaethau
TGCh. Yr Ysgrifenyddiaeth Mawrth 2014 |