Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Carys Evans, 029 2089 8598 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad y Cadeirydd

1a

Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

Cofnodion:

Nid oedd Rhodri Glyn Thomas yn gallu bod yn bresennol oherwydd busnes Pwyllgor y Rhanbarthau ac roedd wedi ymddiheuro.

1b

Datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.

1c

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunwyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Ionawr yn gywir.

 

2.

Strategaeth Cyllideb y Comisiwn 2015-16

papur 2

Cofnodion:

Roedd strategaeth cyllideb y Comisiwn yn ystod y Pedwerydd Cynulliad wedi caniatáu i’r sefydliad fuddsoddi i sicrhau cymorth seneddol o’r radd flaenaf o ran cyfleusterau, gwasanaethau, arbenigedd a’r rhyngwyneb cyhoeddus, gan sicrhau gwerth am arian ac effeithlonrwydd hefyd. 2015-16 fydd blwyddyn olaf y Pedwerydd Cynulliad a daw  gwaith y Comisiwn presennol yn y meysydd hyn i ben.

Cytunwyd y byddai’r dull o weithredu ar gyfer cyllideb 2015-16 yn dilyn hwnnw a fabwysiadwyd ers dechrau’r Pedwerydd Cynulliad. Byddai’n canolbwyntio ar gael gwared ar ddulliau aneffeithiol o weithio a sicrhau gwerth am arian er mwyn medru parhau i arloesi a chyflawni’n hymrwymiad parhaus i safon y gwasanaethau i’r Aelodau a’r cyhoedd. Dylid hefyd ystyried cynlluniau a senarios mwy hirdymor i hwyluso’r broses o drosglwyddo’r awenau i’r Comisiwn nesaf yn 2016.

Cymeradwyodd y Comisiynwyr Strategaeth Cyllideb 2015-16, gan gynnwys yr argymhellion yn adran 2. Byddai swyddogion yn datblygu’r gyllideb ddrafft, yn unol â’r dulliau o weithredu y cytunwyd arnynt, yn barod i’w trafod ym mis Mai.

3.

Gwasanaethau Ymgysylltu Ieuenctid y Cynulliad yn y dyfodol

papur 3 ac atodiadau

Cofnodion:

Ym mis Mai 2013, cytunodd y Comisiwn i ymgynghori â phobl ifanc ynghylch yr hyn a wneir yn y dyfodol i ymgysylltu â nhw.  Gwnaed hyn yn ystod hydref 2013 a chafwyd sylwadau gan bron 3,000 o bobl ifanc o bob rhan o Gymru. Drwy gyfrwng yr ymgynghoriad, cafwyd gwybodaeth newydd am ddealltwriaeth pobl ifanc o waith y Cynulliad a’u diddordeb ynddo, a rhai syniadau am y ffordd orau y gallai’r Cynulliad ymgysylltu â phobl ifanc i’w galluogi i gyfrannu at ei waith.  

Trafododd y Comisiynwyr y dulliau o weithredu a gynigiwyd yn ystod yr ymgynghoriad a’r sylwadau a gafwyd gan bobl ifanc, sef bod angen sicrhau bod ymgysylltu â phobl ifanc yn rhan annatod o waith yr Aelodau, a bod yr amrywiaeth lawn o wasanaethau y mae’r Comisiwn yn eu darparu’n ategu’r gwaith hwnnw. Roedd y dull arfaethedig o weithredu wedi’i seilio ar dair prif thema:

·         estyn allan ( i wneud yn siŵr bod pobl ifanc yn gwybod am fusnes y Cynulliad a’r hyn y mae’n ei olygu iddyn nhw);

·         hwyluso trafodaeth (cynnig gwahanol ffyrdd i bobl ifanc gyfrannu at waith y Cynulliad);

·         sylwadau gan bobl ifanc am effaith eu cyfranogiad.

Bu grŵp o randdeiliaid allanol, a oedd yn cynnwys cyrff ymbarél a oedd, rhyngddynt, yn cyrraedd dros 80,000 o bob ifanc, yn trafod y dull arfaethedig hwn o weithredu ddiwedd mis Ionawr, ac roeddent yn gefnogol iawn iddo.

Trafododd y Comisiynwyr nifer o syniadau, gan gynnwys:

·         mwy o gymorth i Aelodau’r Cynulliad a staff y Comisiwn, gan gynnwys arbenigedd mewn gwaith ieuenctid;

·         cydweithio â chyrff a rhwydweithiau eraill i gyrraedd grwpiau amrywiol, gan gynnwys pobl ifanc y mae’n anoddach eu cyrraedd;

·         cynnal digwyddiadau fel “diwrnod ieuenctid” a rhoi tystysgrifau i’r rhai sy’n cymryd rhan;

·         cynnig gwasanaethau mwy amrywiol drwy gyfrwng gwefan y Cynulliad  ar gyfer pobl ifanc www.dygynulliad.org.

Byddai Aelodau’r Cynulliad yn gallu cymryd rhan yn y gwaith, pe dymunent, gan gynnwys cymryd rhan yn y digwyddiad lansio yn nhymor yr haf. Byddai’r prosiect yn parhau i fynd rhagddo ochr yn ochr â busnes arferol y Cynulliad felly ni fyddai’n dibynnu’n llwyr ar gyfraniad yr Aelodau.

Er bod y dull hwn o weithredu’n wahanol iawn i’r hyn a drafododd y Comisiwn yn wreiddiol, teimlwyd bod y cyfeiriad strategol yn iawn gan ei fod wedi’i seilio ar farn pobl ifanc. I gyflawni’r weledigaeth uchelgeisiol, byddai’n rhaid cymryd camau yn y tymor byr, y tymor canolig a’r tymor hir. Roedd swyddogion wrthi’n paratoi cynllun gweithredu.

 

4.

Y wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg y Comisiwn 3 Chwefror (ACARAC)

eitem lafar

Cofnodion:

Rhoddodd Angela Burns wybodaeth lafar am drafodaethau Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg y Cynulliad yn ei gyfarfod ar 3 Chwefror. Eric Gregory yw’r Cadeirydd yn awr a hwn oedd ei gyfarfod cyntaf yn y swydd honno.

Roedd y Pwyllgor wedi trafod cynlluniau parhad busnes ac yn fodlon ar y cynnydd a wnaed yn y maes hwn yn dilyn adolygiad ym mis Hydref 2013. Roedd gwaith yn mynd rhagddo yng nghyswllt perfformiad y cytundeb rheoli cyfleusterau a thrafododd y Pwyllgor y risgiau corfforaethol a oedd yn gysylltiedig â’r Cynllun Ieithoedd Swyddogol.

Roedd Swyddfa Archwilio Cymru wedi paratoi Amlinelliad o Archwiliad cyfrifon 2013-14, ac ni nodwyd unrhyw beth anarferol. Fel rhan o’r sicrwydd archwilio arferol a roddir i gyflogau a lwfansau Aelodau, byddai Swyddfa Archwilio Cymru yn archwilio samplau o gofnodion taliadau i staff cymorth yr Aelodau.

5.

Unrhyw Fusnes Arall

Cofnodion:

Rhoddodd Angela Burns grynodeb o drafodaethau’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar yr angen i sicrhau bod gan ddarparwyr allanol, a oedd yn gyfrifol am raglen Datblygu Proffesiynol Parhaus yr Aelodau, ddealltwriaeth lawn o waith y Cynulliad, a sut y mae’n wahanol i waith deddfwrfeydd eraill. Byddai swyddogion yn bwrw ymlaen â’r mater hwn.

Cynhelir cyfarfod nesaf y Comisiwn ar 6 Mawrth 2014. Byddai’r agenda’n cynnwys Cofnod y Trafodion a’r newid yn y modd y darperir gwasanaethau TGCh.

 

Yr Ysgrifenyddiaeth

Chwefror 2014