Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Carys Evans, 02920 89 8598 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad y Cadeirydd

1a

Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau ar gyfer y cyfarfod hwn.

1b

Datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.

 

1c

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

papur 1

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr.

 

2.

Y wybodaeth ddiweddaraf am Strategaeth Cyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol

papur 2 ac atodiad

Cofnodion:

Mae Cyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol yn darparu gwasanaethau i Lywyddion, y Comisiwn, pwyllgorau a phob Aelod Cynulliad, fel rhan o dîm integredig llawn o swyddogion arbenigol y Comisiwn. Ym mis Mehefin 2013, cytunodd y Comisiynwyr ar ddull o ddatblygu’r gwasanaeth hwn a oedd yn cynnwys:

-       is-gontractio’r gwaith o ddrafftio Biliau Aelodau i ddrafftwyr allanol arbenigol yn y tymor byr, ar yr un pryd â threfnu hyfforddiant ar gyfer y cyfreithwyr mewnol drwy’r drafftwyr allanol hynny;

-       cyflwyno rhaglen datblygu proffesiynol ddwys ar gyfer cyfreithwyr mewnol;

-       ymchwilio i’r galw am wasanaethau cyfreithiol masnachol ac unrhyw alw pellach, nad yw wedi’i ateb, am wasanaethau cyfreithiol yn y Cynulliad.

Roedd is-gontractio’r gwaith o ddrafftio Biliau Aelodau yn gweithio’n dda, ac yn galluogi’r cyfreithwyr i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth yn hyn o beth a fyddai’n gwella eu gallu yn y tîm dros amser.

Cytunodd y Comisiynwyr i barhau â’r dull gweithredu hwn, ond roeddent am weld opsiynau ar gyfer gwella capasiti drafftio deddfwriaethol mewnol yn gynt. Roedd cydnabyddiaeth y gallai hyn ei gwneud yn ofynnol i gael rhagor o adnoddau. Byddai’r Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol yn ystyried yr opsiynau o ran y camau pellach i’w cymryd, ac yn eu nodi wrth y Comisiwn maes o law.

Gwnaed cynnydd mewn meysydd eraill, gan gynnwys y gwaith sydd wedi’i ddechrau i asesu’r galw am ragor o gymorth cyfreithiol masnachol yn fewnol, a’r cynnydd o ran hyblygrwydd a welir yn y gwasanaeth drwyddo draw.

Byddai’r Gyfarwyddiaeth yn parhau i adolygu ei strategaeth, i sicrhau y gallai ymateb i unrhyw newidiadau arwyddocaol sy’n effeithio ar y Cynulliad, fel pwerau ariannol newydd, a’u cefnogi.

3.

Cynnydd o ran Cyfieithu Peirianyddol

papur 3

Cofnodion:

Un ymrwymiad yng Nghynllun Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad oedd gwneud y defnydd gorau o dechnoleg i gynorthwyo Aelodaur Cynulliad a staff i gyflawni eu swyddogaethaun effeithiol. Ym mis Tachwedd 2013, cytunodd y Comisiynwyr i barhau i weithio gyda Microsoft i ddatblygu cyfleuster cyfieithu Microsoft or Gymraeg ir Saesneg ac or Saesneg ir Gymraeg a fyddai ar gael ir cyhoedd yn 2014.

Ers hynny, gwnaethpwyd profion ansawdd ac mae swm sylweddol o ddata wedi’i fwydo i’r system, gan gynnwys data a ddarparwyd gan nifer o sefydliadau dwyieithog. Mae canllawiau’n cael eu datblygu ar gyfer staff Comisiwn y Cynulliad ac Aelodau’r Cynulliad a’u staff, i gynorthwyo i hybu’r cyfleuster a chynyddu’r ddealltwriaeth o’r ffordd gywir o’i ddefnyddio. Caiff y cynnyrch ei lansio yn y Cynulliad ar 21 Chwefror, i gyd-fynd â Diwrnod Rhyngwladol y Famiaith. O’r dyddiad hwnnw ymlaen bydd y cyfleuster ar gael i bob Aelod Cynulliad, staff, ac yn fyd-eang drwy Microsoft Office a chynnyrch eraill.

Llongyfarchwyd y swyddogion am y cynnydd cyflym a wnaed ar y prosiect hwn, a oedd yn dangos bod y Cynulliad ar flaen y gad yn y ffordd y mae’n defnyddio technoleg i gefnogi dwyieithrwydd.

4.

Arolwg Omnibws

papur 4 ac atodiad

Cofnodion:

Er mwyn llywio gwaith Comisiwn y Cynulliad ar ymgysylltu â’r cyhoedd a chyfathrebu allanol, cynhaliwyd pôl piniwn ym mis Tachwedd 2013 i gasglu data ynghylch gwybodaeth y cyhoedd am y Cynulliad ac i ba raddau y mae’r cyhoedd yn ymgysylltu â’r Cynulliad. Casglwyd y data fel rhan o’r arolwg Omnibws chwarterol a gynhaliwyd gan Beaufort Research.  

Nid oedd y canlyniadau, a ddangosai mai cyfyngedig oedd dealltwriaeth y cyhoedd o’r Cynulliad yn gyffredinol, yn creu syndod, er bod yr ymwybyddiaeth ymhlith pobl ifanc yn is na’r disgwyl o gofio’r ymdrechion sylweddol a fu yn y maes hwn drwy’r system addysg. Cytunodd y Comisiynwyr fod angen rhagor o waith i benderfynu ar y ffordd orau o gasglu’r data hwn yn y dyfodol, gan gynnwys ystyried a oes ffordd fwy effeithiol o fesur gwybodaeth pobl ifanc am y Cynulliad. Byddai swyddogion yn edrych ar y dulliau y gellid eu defnyddio i gynyddu ymgysylltiad, ac yn ystyried tybed a fyddai’n well gweithio gyda sefydliad sy’n brofiadol yn y gwaith o ddatblygu brand neu gynnyrch o bosibl.

Cytunodd y Comisiynwyr na ddylid cynnal yr arolwg omnibws eto ym mis Mawrth. Cytunwyd y dylid ystyried a ydynt am gynnal gwaith ymchwil pellach y flwyddyn nesaf, a sut waith ymchwil y dylid ei wneud.

5.

Adroddiad ar Berfformiad Corfforaethol

papur 5 ac atodiad                                                                                                                                 

Cofnodion:

Roedd yr ail adroddiad, a oedd yn dangos cynnydd a wnaed yn ôl Dangosyddion Perfformiad Allweddol y Comisiwn o ran gweithgarwch rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2013, yn nodi y gwnaed cynnydd da mewn nifer o feysydd allweddol, gan gynnwys yr ystâd, TGCh, Ieithoedd Swyddogol a bwrw ymlaen â’r prosiect i Ymgysylltu â Phobl Ifanc.

Gellid gweld bod perfformiad wedi gwella dros y cyfnod o ran amseroldeb y gwasanaethau a ddarparwyd, a tharfiadau ar gyfarfodydd pwyllgor / y Cyfarfod Llawn. Gofynnodd y Comisiynwyr a oedd modd i adroddiadau yn y dyfodol gynnwys dangosydd i nodi canran y papurau a gyhoeddwyd ar amser ar mod.gov.

 

Er y gellid gweld gwelliant o ran perfformiad hefyd yn ôl nifer yr ymwelwyr â’r Cynulliad a nifer y rhai sy’n rhyngweithio â ni yn y cyfryngau cymdeithasol, roedd nifer y bobl a oedd yn defnyddio Senedd.tv wedi lleihau. Roedd darlledu a hybu adroddiadau pwyllgorau’r Cynulliad yn y cyfryngau print hefyd wedi lleihau. Cytunwyd y dylid ailystyried y dangosydd ar gyfer ymgysylltu â’r cyhoedd.

Nid oedd y perfformiad wedi cyrraedd y targed o ran lefelau lleihau ein defnydd o ynni. Cytunodd y Comisiynwyr y byddai angen iddynt ystyried buddsoddi ymhellach o ran cynaliadwyedd, neu ail-edrych ar y targedau lleihau ein defnydd o ynni.

Cyhoeddir yr Adroddiad ar y Perfformiad Corfforaethol ar wefan y Comisiwn a’i ddosbarthu i aelodau Pwyllgor Cyllid y Cynulliad.

6.

Adroddiad y Prosiect Gwasanaethau TGCh yn y Dyfodol

papur 6 ac atodiad

Cofnodion:

Ym mis Rhagfyr 2013 gofynnodd y Comisiynwyr am adroddiadau rheolaidd ar gynnydd y Prosiect Gwasanaethau TGCh ar gyfer y Dyfodol, gan gynnwys yr asesiad o’r parodrwydd i drosglwyddo i ddarparu gwasanaethau TGCh yn fewnol. Roedd y prosiect yn parhau i fynd rhagddo fel y dylai, a gwnaed cynnydd mewn nifer o feysydd pwysig, gan gynnwys recriwtio staff allweddol a throsglwyddo gwybodaeth gan Atos.

Canmolwyd y swyddogion am reoli’r prosiect cymhleth hwn yn ofalus ac am eu llwyddiannau hyd yma. Byddai’r Comisiynwyr yn cael y wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd i lywio eu penderfyniad ynghylch amseriad y trosglwyddo.

 

 

7.

Papur i'w nodi – Cofnodion drafft y Pwyllgor Archwilio 7 Tachwedd 2013

papur 7

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau gofnodion Pwyllgor Archwilio Comisiwn y Cynulliad ar 7 Tachwedd 2013 yn ffurfiol.

8.

Unrhyw Fusnes Arall

Cofnodion:

Nid oedd materion eraill i’w trafod.

Cynhelir cyfarfod nesaf y Comisiwn ar 13 Chwefror 2014.

 

Yr Ysgrifenyddiaeth

Ionawr 2014