Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Carys Evans 02920 89 8598
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad |
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan Peter Black AC. |
|
Datganiadau o fuddiant Cofnodion: Nid oedd buddiannau i’w datgan. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Dogfennau ategol: |
|
Cyfieithu peirianyddol: gwella ein capasiti cyfieithu papur 1 Cofnodion: Roedd y Cynllun Ieithoedd Swyddogol, y cytunodd y Cynulliad arno ym mis
Gorffennaf 2013, yn cynnwys ymrwymiad y byddai Comisiwn y Cynulliad yn gwneud y
defnydd gorau o dechnoleg i gyfieithu dogfennau er mwyn ei gwneud yn bosibl i
fwy o ddogfennau, gan gynnwys Cofnod y Trafodion, gael eu darparu yn y ddwy
iaith ar yr un pryd. Yn dilyn cytundeb yng nghyfarfod y Comisiwn ym mis Mehefin, bu’r Gwasanaeth
Cyfieithu a Chofnodi’n gwerthuso datrysiadau Google a Microsoft Translator at y
dibenion canlynol, er mwyn: - galluogi’r Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi i gynyddu lefelau allbwn a
darparu ystod ehangach o wasanaethau drwy gyfieithu mwy o destun mor gyflym ac
mor gost effeithiol ag y bo modd; - darparu cyfieithu peirianyddol nid yn unig i’r Gwasanaeth Cyfieithu a
Chofnodi ond hefyd i aelodau eraill o staff y Cynulliad, Aelodau’r Cynulliad a’u
staff hwy drwy ddarparu system hunan-wasanaeth ar gyfer cyfieithiadau ‘bras’ i
hwyluso cyfathrebu ac arferion gwaith yn yr iaith a ddewisir; - rhannu’r gwasanaethau a’n profiadau â sefydliadau eraill yng Nghymru. Mae gwaith wedi cael ei wneud i asesu ansawdd yr allbwn a ddarperir gan y
ddwy system. Bydd swyddogion yn parhau i weithio gyda Microsoft i ddatblygu’r offeryn
cyfieithu gyda’r bwriad o’i sefydlu fel system newydd a fydd ar gael yn
gyhoeddus ar adeg briodol yn 2014. Bydd Google yn parhau i gael ei dreialu o
fewn y Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi fel y gellir profi effeithlonrwydd y
system hon yn llawn. Roedd y Comisiynwyr yn falch o’r cynnydd sy’n cael ei wneud mewn
perthynas ag asesu gallu’r ddau offeryn cyfieithu peirianyddol. Rhoddwyd
pwyslais ar y ffaith y byddai manteision y mathau hyn o gyfleusterau nid yn
unig yn cyfranu’n sylweddol at allu pobl yn y Cynulliad i weithio yn eu dewis
iaith, ond mae ganddynt y potensial i fod o gymorth mawr i sefydliadau a
busnesau eraill yng Nghymru a thu hwnt. Dylai swyddogion ymgysylltu â phartïon
sydd â diddordeb ac arbenigwyr ym maes cyfieithu i drafod y manteision a’r
cyfleoedd a gynigir gan offerynnau o’r fath. Teimlwyd y byddai angen canllawiau a hyfforddiant i’w gwneud yn haws i
bobl ddefnyddio’r offerynnau hynny yn y Cynulliad ac i sicrhau eu bod yn
ymwybodol o rai o’r risgiau o ran cywirdeb allbwn y system hon. Ni fyddai
unrhyw allbwn cyfieithu peirianyddol heb ei ôl-olygu yn briodol i’w ddefnyddio
ar gyfer dogfennau i’w cyhoeddi y tu allan i’r Comisiwn a byddai’n hanfodol bod
y safonau uchel sy’n ofynnol ar gyfer dogfennau a gyhoeddir yn cael eu cynnal. Diolchwyd i’r swyddogion am wneud cynnydd sylweddol ar y prosiect hwn
dros gyfnod cymharol fyr o amser. |
|
Unrhyw Fusnes Arall Cofnodion: Yr
Ysgrifenyddiaeth Tachwedd 2013 |