Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Carys Evans 02920 89 8598 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad y Cadeirydd

1a

Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd Daniel Greenberg i’r cyfarfod a diolchodd iddo am gytuno i gymryd rhan.

 

1b

Datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

Nid oedd buddiannau i’w datgan.

 

1c

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

papur 1

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunwyd ar y cofnodion.

2.

Pwyllgorau Seneddol o Safon Fyd-eang

papur 2

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr yr arolwg o’r cymorth a ddarperir i Bwyllgorau’r Cynulliad, a lansiwyd ganddynt ym mis Rhagfyr 2012. Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf am hyn cyn toriad yr haf. Yn dilyn hynny, roedd y Comisiynwyr wedi gofyn i waith pellach gael ei wneud i ddatblygu’r weledigaeth ar gyfer y maes craidd hwn yng ngweithgaredd y Cynulliad ac am opsiynau ar gyfer gwella perfformiad drwy’r adnoddau a ddarparwyd gan y Comisiwn.

Nododd y Comisiynwyr eu gweledigaeth ar gyfer pwyllgorau seneddol o safon fyd-eang, gan gytuno:

-       y dylent wella yn amlwg ansawdd canlyniadau polisi, deddfwriaeth, gwasanaethau cyhoeddus a gwariant y Llywodraeth i’r gymdeithas gyfan yng Nghymru;

-       y dylent gael eu parchu a bod yn ddylanwadol a hygyrch, gan weithredu gyda gonestrwydd ac annibyniaeth;

-        y dylai eu gwaith fod yn strategol a thrwyadl. 

Roedd y Comisiynwyr yn cydnabod bod maint y Cynulliad yn golygu bod gan bob Pwyllgor lwyth gwaith sylweddol. Ar gyfer rhai Pwyllgorau, roedd y cynnydd yn nifer y darnau o ddeddfwriaeth a gyflwynwyd yn effeithio ar faint o amser sydd ar gael i graffu ar bolisi. Cytunwyd bod y Pwyllgorau’n gweithio’n fwyaf effeithiol pan fyddant yn ymdrin â’u gwaith mewn modd strategol. Roedd hyn yn eu helpu i gynyddu eu heffaith a’u cyrhaeddiad.

Mae’r cymorth sydd ar gael i aelodau pwyllgorau, fel papurau briffio dwyieithog, gwaith ymchwil a chyngor cyfreithiol, o safon uchel iawn. Mae’n hanfodol darparu’r rhain mewn ffyrdd sy’n gweddu orau i anghenion yr Aelodau fel y gallant wneud eu gwaith pwyllgor yn effeithiol. Dylid parhau i ymchwilio i ffyrdd newydd o weithio i sicrhau bod yr adnoddau hyn yn cael eu targedu’n dda ac yn cael yr effaith fwyaf bosibl.

Dylai’r Cadeiryddion rannu’r dulliau rhagorol o weithio sy’n gwella perfformiad ac yn cynyddu capasiti yn rheolaidd fel y gellir mabwysiadu arferion arloesol ar draws y Pwyllgorau. Byddai rhannu gwybodaeth yn y modd hwn yn gwella’r perfformiad ar draws y Cynulliad, gan gadw’r hyblygrwydd sy’n galluogi Pwyllgorau i bennu eu strategaethau eu hunain ac i ymdrin â’u llwyth gwaith.

Roedd yr enghreifftiau o’r meysydd rhagorol a amlygwyd gan y Comisiynwyr yn cynnwys ymgysylltu â’r gymdeithas sifil, y gwaith datblygu proffesiynol parhaus a wnaed gan Gadeiryddion unigol a Phwyllgorau, a’r defnydd o gynghorwyr allanol.  Wrth gynghori’r Comisiwn, canmolodd Daniel Greenberg y gwaith a wnaed eisoes gan Bwyllgorau’r Cynulliad a chytunodd bod agweddau ar y gwaith a wneir yma yn cael eu hedmygu gan seneddau eraill, yn enwedig y dull o gynnig datblygiad proffesiynol parhaus a’r defnydd o arbenigedd.

Cytunwyd y byddai’r weledigaeth a’r materion craidd yn cael eu nodi mewn adroddiad gan y Comisiwn. Byddai’r Comisiynwyr yn paratoi drafft o’r adroddiad hwn i’w drafod, ac yna byddai trafodaethau yn cael eu cynnal gyda Chadeiryddion y Pwyllgorau ac eraill.

 

3.

Unrhyw Fusnes Arall

Cofnodion:

Yr Ysgrifenyddiaeth

Tachwedd 2013