Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Carys Evans, 02920 89 8598 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad y Cadeirydd

1a

Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau ar gyfer y cyfarfod hwn.

1b

Datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

Nid oedd buddiannau i’w datgan.

 

1c

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

paper 1

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunwyd ar y cofnodion.

 

2.

Ymgynghoriad ar Ymgysylltu â Phobl Ifanc

papur 3

Cofnodion:

Ym mis Mai 2013, cytunodd y Comisiynwyr y byddai grŵp llywio yn cael ei sefydlu ac mae ei waith fyddai datblygu syniadau am ffyrdd newydd i’r Cynulliad ymgysylltu â phobl ifanc. Cytunwyd y byddai pobl ifanc wrth wraidd y gwaith hwn, a hwy a fyddai’n llunio’r gwaith ac yn nodi’r ffyrdd gorau o sicrhau bod ystod amrywiol o unigolion yn gallu cymryd rhan. Bydd y dull hwn yn sicrhau bod pobl ifanc yn arwain y broses a bydd yn annog nifer fawr o bobl i gymryd rhan.

Mae’r grŵp llywio, sy’n cynnwys sefydliadau sy’n cynrychioli pobl ifanc, wedi cyfarfod ddwywaith.

Lansiwyd ymgynghoriad ar-lein ar 18 Medi, sy’n targedu pobl ifanc ac yn eu hannog i gyflwyno cynigion a syniadau ar gyfer gwaith y Cynulliad o ran ymgysylltu â phobl ifanc.  Y bwriad oedd i’r syniadau a gododd yn sgil yr ymgynghoriad gael eu trafod gan grwpiau ffocws rhanbarthol o bobl ifanc.

Bydd y grŵp llywio yn trafod y dystiolaeth a ddaw i law a’r cynigion sy’n codi o’r ymarfer eang hwn ac yna bydd y grŵp yn cynnig argymhellion i’w hystyried gan y Comisiwn yn y flwyddyn newydd.

Roedd y Comisiynwyr yn croesawu’r dull a oedd wedi’i fabwysiadu ac yn teimlo bod y niferoedd a oedd wedi cyfrannu at yr ymgynghoriad hyd yma yn galonogol Roeddent yn teimlo bod angen gwneud mwy o ymdrech i gynnwys Aelodau’r Cynulliad yn y broses, yn enwedig wrth helpu i nodi grwpiau sy’n anodd eu cyrraedd yn eu hardaloedd lleol.

3.

Digwyddiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn y dyfodol

papur 2

 

Cofnodion:

Bob blwyddyn, mae’r Cynulliad yn cymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau, gan gynnwys digwyddiadau corfforaethol blynyddol, teithiau, digwyddiadau’r haf, mentrau o dan arweiniad y Llywydd, digwyddiadau partneriaeth a digwyddiadau sy’n gysylltiedig â busnes. Trafododd y Comisiynwyr achlysuron a fyddai’n cynnig cyfleoedd i ddatblygu blaenoriaethau strategol y Comisiwn a chodi proffil y Cynulliad a’r Llywydd.

Bydd nifer o achlysuron cenedlaethol pwysig a digwyddiadau proffil uchel yn digwydd dros y ddwy flynedd nesaf. Trafododd y Comisiynwyr a ddylai’r Cynulliad geisio cymryd rhan yn y digwyddiadau hyn, yn ogystal â’r rhaglen digwyddiadau corfforaethol sefydledig. Roeddent yn teimlo ei bod yn bwysig iawn bod y Cynulliad yn cymryd rhan mewn digwyddiadau fel gŵyl Womex, a fyddai’n cael ei chynnal yr wythnos ganlynol, oherwydd y byddent yn cynnig cyfleoedd i ymgysylltu â chynulleidfaoedd eang a gwella dealltwriaeth pobl  o waith y Cynulliad.

Mae’r ymgyrch Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus wedi denu siaradwyr o fri ac wedi tynnu llawer o sylw i rôl y Llywydd a’r Cynulliad, ac yn cyd-fynd yn llwyr â nodau’r Comisiwn.

Trafododd y Comisiwn ffyrdd o annog rhagor o Aelodau’r Cynulliad i gefnogi digwyddiadau ar yr ystâd ac yn eu hetholaethau neu eu rhanbarthau, a chymryd rhan ynddynt. Roedd y Comisiynwyr yn teimlo y byddai cynllunio digwyddiadau o’r fath yn bell o flaen llaw, gan roi digon o rybudd i’r Aelodau, yn helpu i annog mwy o bobl i gymryd rhan ynddynt.

O gofio bod y gwaith hwn wedi chwarae rhan bwysig wrth gyflawni nodau strategol y Comisiwn, cytunwyd y byddai swyddogion yn adolygu’r gyllideb a ddyrannwyd ar gyfer y gweithgaredd hwn.  Gellid hefyd gwneud cais busnes i’r Bwrdd Buddsoddi ar gyfer arian o’r gyllideb fuddsoddi.

Cam i’w gymryd: Gofynnwyd i’r Swyddogion gydweithio’n agos â sefydliadau partner i sicrhau bod y Cynulliad yn rhan o’r broses o gynllunio achlysuron mawr. Bydd y Llywydd yn parhau i fod yn rhan o’r broses o ddatblygu’r gwaith hwn. Bydd cynnig ar ddigwyddiadau yn cael ei gyflwyno i’r Comisiwn bob blwyddyn, i’w gymeradwyo.

4.

Cyllideb Ddrafft - Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

papur 4 ac atodiadau

Cofnodion:

Gosodwyd cyllideb y Comisiwn ar gyfer 2014 i’w hystyried gan y Cynulliad ar ddiwedd mis Medi.

Roedd y Comisiynwyr wedi cytuno y dylid seilio’r gyllideb ar y swm o £50.598 miliwn, fel y nodwyd yn y dogfennau cyllideb a gafodd eu cymeradwyo ar gyfer y ddwy flynedd flaenorol. Bu Pwyllgor Cyllid y Cynulliad yn craffu ar y dogfennau hyn ym mis Hydref 2011 a 2012. 

2014-15 fydd blwyddyn olaf cynllun buddsoddi tair blynedd y Comisiwn ar gyfer y gyllideb. Roedd cynnig cyllideb 2014-15 yn cadw at yr hyn a nodwyd yng nghyllidebau’r ddwy flynedd flaenorol.

Rhoddodd Angela Burns AC, Claire Clancy a Nicola Callow dystiolaeth i Bwyllgor Cyllid y Cynulliad ar 3 Hydref.

 

Paratowyd adroddiad y Pwyllgor Cyllid mewn ymateb i’r gyllideb ddrafft a’r dystiolaeth a ddaeth i law. Mae’r adroddiad:

-       yn cefnogi, yn gyffredinol, cynigion y Comisiwn ar gyfer y gyllideb ddrafft; yn croesawu dull y Comisiwn o gyflwyno adroddiadau ar berfformiad drwy Ddangosyddion Perfformiad Allweddol;

-       yn mynegi rhai pryderon ynghylch gallu’r Comisiwn i gyflawni rhai o’i nodau mewn perthynas â’i dargedau o ran  lleihau carbon, y strategaeth TGCh ac Ieithoedd Swyddogol;

-     yn argymell bod Aelodau unigol o’r Pwyllgor yn cael eu haseinio i gydweithio’n agos â’r Comisiwn a chraffu ar ei waith o ran TGCh ac Ieithoedd Swyddogol.

 

Trafododd y Comisiynwyr yr adroddiad. Cytunodd y Comisiynwyr y caiff gwybodaeth ychwanegol ynghylch y strategaeth TGCh ei chynnwys yn nogfen y gyllideb ddrafft. Bydd y Comisiwn yn ymateb i’r Pwyllgor gan:

-       nodi’r ffaith y byddai’r Comisiwn yn targedu adnoddau at ei feysydd blaenoriaeth ar gyfer arloesi a buddsoddi (ieithoedd swyddogol, TGCh ac ymgysylltu â phobl ifanc);

-       pwysleisio cyfrifoldebau’r Comisiwn o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a’r trefniadau llywodraethu cryf sydd ar waith i sicrhau uniondeb, atebolrwydd a gwerth am arian, a dwyn y Comisiwn i gyfrif; 

-       awgrymu y byddai cynnwys aelodau’r Pwyllgor Cyllid yn y gwaith o fonitro elfennau unigol o waith yn amharu ar linellau atebolrwydd priodol a chyfrifoldebau’r Comisiwn o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;

-     cynnig y byddai Comisiynwyr yn barod i roi tystiolaeth i’r Pwyllgor yn ystod y flwyddyn ar unrhyw fater sydd o ddiddordeb penodol, a byddai hynny’n gyfle i graffu ymhellach ar weithgareddau a gwariant y Comisiwn.

 

Caiff newidiadau eu gwneud i ddogfen y gyllideb ddrafft er mwyn adlewyrchu ymateb y Comisiwn i argymhellion y Pwyllgor. Caiff yr ymateb ei anfon at Gadeirydd y Pwyllgor yr wythnos ddilynol. Caiff y gyllideb ei gosod gerbron y Cynulliad ym mis Tachwedd. Disgwylir i’r ddadl a’r bleidlais arni gael eu cynnal yn hwyrach ym mis Tachwedd.

Bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar 11 Tachwedd a bydd y Comisiwn yn ystyried y gefnogaeth sydd ar gael i bwyllgorau’r Cynulliad.

5.

Unrhyw Fusnes Arall

Cofnodion:

Yr Ysgrifenyddiaeth

Hydref 2013