Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Carys Evans, 02920 89 8598
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad y Cadeirydd |
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau ar
gyfer y cyfarfod hwn. Cafodd Cynllun Ieithoedd
Swyddogol y Cynulliad ei gymeradwyo gan y Cynulliad ar 17 Gorffennaf 2013.
Diolchodd y Comisiynwyr i Rhodri Glyn Thomas a Non Gwilym am eu hymdrechion
sylweddol i gyflawni'r canlyniad cadarnhaol hwn ar gyfer y maes pwysig hwn o
weithgaredd y Cynulliad. |
|
Datganiadau o fuddiant Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o
fuddiant. |
|
Cytuno ar gofnodion 27 Mehefin a 3 Gorffennaf papur 1a a b Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunwyd ar y
cofnodion. |
|
Cyllideb Ddrafft 2014-15 papur 2 ac atodiadau Cofnodion: Bydd cyllideb y Comisiwn ar
gyfer 2014-15 yn cael ei gosod i’w hystyried gan y Cynulliad erbyn 1 Hydref fan
bellaf. Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Mai, cytunodd y Comisiynwyr y dylai'r
gyllideb fod yn seiliedig ar y swm £50.598 miliwn, a bennwyd yn y dogfennau
cyllideb a gafodd eu cymeradwyo ar gyfer y ddwy flynedd gynt ac y bu Pwyllgor
Cyllid y Cynulliad yn craffu arnynt ym mis Hydref 2011 a 2012. 2014-15 fydd blwyddyn olaf
cynllun buddsoddi tair blynedd y Comisiwn ar gyfer y gyllideb. Roedd y
Comisiynwyr yn falch gyda'r cynnydd a wnaed ar ddogfen y gyllideb ac yn hapus
gyda'r cyflwyniad. Gwnaed rhai awgrymiadau am yr wybodaeth gyllideb fanwl yn
Atodiad 1. Gofynnodd Mair Barnes am fwy o eglurder ynghylch lefel costau TGCh
yn 2014-15 a thu hwnt. Roedd nodyn briffio wedi'i
baratoi i hysbysu trafodaethau'r Comisiynwyr gyda grwpiau plaid. Byddai Angela Burns a Nicola Callow ar gael i
drafod y gyllideb gyda grwpiau ac Aelodau unigol. Penderfynir ar y gyllideb
derfynol yng nghyfarfod nesaf y Comisiwn ym mis Medi, cyn ei gosod. Cytunodd y Comisiynwyr na fyddai'r papurau yn
cael eu cyhoeddi. Cam i’w gymryd: Swyddogion i baratoi’r gyllideb
derfynol i adlewyrchu barn y Comisiynwyr yn unol â thrafodaethau i’w hystyried
yng nghyfarfod y Comisiwn ym mis Medi. |
|
Adroddiad ar Berfformiad Corfforaethol papur 3 ac atodiad Cofnodion: Wrth iddo graffu ar gyllideb y
Comisiwn ym mis Hydref 2012, argymhellodd y Pwyllgor Cyllid y dylai'r Comisiwn
gyhoeddi dangosyddion perfformiad blynyddol. Ysgrifennodd y Comisiwn at y
Pwyllgor Cyllid i'w hysbysu am y dangosyddion arfaethedig ac esbonio y byddai'r
broses ailadroddol honno yn datblygu dros amser. Roedd y cyntaf o'r adroddiadau
hynny, ar gyfer perfformiad rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2013, yn rhoi
trosolwg o berfformiad mewn nifer o feysydd. Roedd yr adroddiad yn cynnwys
nifer o dargedau mesuradwy neu, lle nad oedd targed amlwg, defnyddiwyd
cymaryddion. Defnyddiwyd statws Coch, Melyn a Gwyrdd i ddangos cyrhaeddiad
perfformiad. Cynigiodd y Comisiynwyr
newidiadau mewn rhai meysydd a chytuno y dylid symleiddio'r ddogfen cyn ei
chyhoeddi fel y gall darllenwyr weld trosolwg yn hawdd o berfformiad yn
gyffredinol ac unrhyw feysydd sy'n peri pryder. Bydd yr adroddiad yn cael ei ddiwygio yn unol â sylwadau'r Comisiynwyr, ei anfon at y Pwyllgor Cyllid a'i gyhoeddi ar wefan y Cynulliad. Cytunwyd, felly, na fyddai papur y cyfarfod yn cael ei gyhoeddi. |
|
Adborth ar Arolwg Boddhad Aelodau'r Cynulliad papur 4 ac atodiadau Cofnodion: Cafodd yr ail arolwg Aelodau'r Cynulliad
a’u staff cymorth ei gwblhau ym mis Mehefin 2013 ac yn dilyn hynny cafodd
adroddiad yn nodi meysydd i'w gwella neu feysydd sydd angen camau gweithredu ar
eu cyfer ei ddatblygu gan staff. Cytunodd y Comisiynwyr fod yr arolwg wedi bod yn
ddull defnyddiol i gasglu adborth gan Aelodau a'u staff a bod hynny wedi bod yn
rhan bwysig o asesu perfformiad.
Cytunwyd y byddai'r arolwg yn cael ei ddiwygio yn y dyfodol, gyda
chwestiynau ar wahân i Aelodau a'u staff, sy'n cydnabod eu bod yn defnyddio
gwasanaethau'r Comisiwn mewn ffyrdd gwahanol. Croesawodd Comisiynwyr y cynllun
gweithredu a gofyn i gael crynodeb o ganlyniadau'r arolwg yn y dyfodol, yn
hytrach na'r adroddiad llawn gyda'r holl ddata. Cytunodd y Comisiynwyr na ddylid cyhoeddi'r papur. |
|
Adroddiad ar Gynnydd a Pherfformiad TGCh papur 5 ac atodiad Cofnodion: Cyflwynwyd yr adroddiad TGCh fel
'dangosfwrdd' i roi trosolwg o gynnydd a pherfformiad mewn nifer o feysydd
pwysig o ran darparu gwasanaethau TGCh. Roedd y meysydd o ddiddordeb
arbennig yn cynnwys: ·
Strategaeth
TGCh ·
Cynllunio ar
gyfer darparu gwasanaethau TGCh yn y dyfodol ·
Perfformiad
gwasanaethau TGCh Cytunwyd y byddai adroddiadau yn y dyfodol yn cael
ei darparu yn yr un fformat. Cytunodd y Comisiynwyr na fyddai'r papur yn cael
ei gyhoeddi. |
|
Pwyllgor Archwilio - Adborth ar 13 Mehefin a 4 Gorffennaf papur 6a a b Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr gofnodion dau gyfarfod y
Pwyllgor Archwilio. |
|
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio papur 7 ac atodiadau Cofnodion: Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol
Pwyllgor Archwilio Comisiwn y Cynulliad 2012-13 i’r Comisiwn i’w nodi, yn unol
â chylch gorchwyl y Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn nodi bod
lefelau sicrwydd cyffredinol y Comisiwn yn gadarn, ond bod lle i wella o hyd
mewn rhai meysydd i sicrhau gwell effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth
ddefnyddio a rheoli rheolyddion. Bydd y meysydd hynny'n cael sylw penodol yn
2013-14. Roedd gan y Comisiynwyr
ddiddordeb penodol ym mharhad buses a rheoli cytundebau, ond nodwyd fod lefelau
sicrwydd yn uchel. Nododd y Comisiynwyr yr Adroddiad Blynyddol a'r ffaith bod
yr Archwilydd Cyffredinol wedi llofnodi Cyfrifon y Comisiwn yr wythnos honno. |
|
Unrhyw Fusnes Arall Cofnodion: Yr Ysgrifenyddiaeth Gorffennaf 2013 |