Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Carys Evans, 029 2089 8598 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad y Cadeirydd

1a

Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau ar gyfer y cyfarfod hwn.

1b

Datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

1c

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

papur 1

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunwyd ar y cofnodion.

2.

Strategaeth Cyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol

papur 2

Cofnodion:

Mae Cyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol yn cyfrannu at strategaeth y Cynulliad a’i nod yw darparu gwasanaethau cyfreithiol dwyieithog rhagorol i Lywyddion, y Comisiwn, pwyllgorau a phob Aelod Cynulliad, fel rhan o dîm integredig llawn o swyddogion arbenigol y Comisiwn. 

 

Cafodd y Comisiynwyr adroddiad ar strategaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol ar gyfer gweddill y Pedwerydd Cynulliad, ar gyfer llywio trafodaeth oedd â’r nod o sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd gorau o’r Gwasanaethau Cyfreithiol yn awr ac yn y dyfodol. Un maes a nodwyd gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol fel maes yr oedd angen ei gryfhau oedd darparu gwaith drafftio deddfwriaethol o ran Biliau Aelodau, a maes posibl arall i’w ystyried oedd y gallu i ymgymryd â rhagor o waith cyfreithiol masnachol.

Roedd y tîm cyfreithiol, fel rhan o strategaeth y Gyfarwyddiaeth, wedi cael hyfforddiant dros y misoedd diwethaf i wella eu gallu i roi cyngor ynghylch cymhwysedd deddfwriaethol. Fodd bynnag, roedd angen arbenigedd penodol i ymgymryd â’r gwaith o ddrafftio Biliau i safon na fyddai’n creu risg annerbyniol i enw da’r Cynulliad. 

Bu’r Comisiynwyr yn trafod yr opsiynau ar gyfer darparu’r gwaith o ddrafftio deddfwriaeth ar gyfer yr Aelodau, a oedd yn cynnwys is-gontractio’r gwaith i ddrafftwyr arbenigol, hyfforddi tîm y Gwasanaethau Cyfreithiol i ddarparu’r adnodd yn fewnol, a gwneud trefniant â swyddfa ddrafftio cyhoeddus arall.

Trafodwyd agweddau ar rôl y tîm cyfreithiol o ran cynorthwyo Aelodau’r Cynulliad mewn pwyllgorau hefyd, a gofynnwyd, a oedd galw am ehangu’r ddarpariaeth cyngor cyfreithiol yn fewnol i feysydd fel cyfraith cyflogaeth, a phosibilrwydd i wneud hynny?

Cytunodd y Comisiwn i is-gontractio’r gwaith o ddrafftio Biliau Aelodau i ddrafftwyr allanol arbenigol yn y tymor byr, a cheisio trefnu hyfforddiant ar gyfer y cyfreithwyr mewnol drwy’r drafftwyr allanol hynny; 

Ymhellach, gofynnwyd i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol i:

·      ymchwilio i’r posibilrwydd o drefnu rhagor o hyfforddiant drwy swyddfa ddrafftio deddfwriaeth y Llywodraeth, a cheisio darganfod a oes cwrs drafftio deddfwriaeth, a allai arwain at gymhwyster, yn bodoli yng Nghymru;

·      ymchwilio i’r posibilrwydd y gallai swyddfa ddrafftio deddfwriaeth y Llywodraeth ddrafftio Biliau Aelodau, ond bod hynny ar y sail nad hwn yw dewis cyntaf y Comisiwn, a bod amheuon difrifol ynghylch a allai unrhyw drefniant o’r fath roi sylw digonol i faterion allweddol fel annibyniaeth/ gwrthdaro buddiannau a chyfrinachedd;

·      edrych a oes galw digonol am wasanaethau cyfreithiol masnachol, gan gynnwys cyfraith cyflogaeth, o fewn y Comisiwn a chan Aelodau’r Cynulliad, i gyfiawnhau, ar sail gwerth am arian, ymestyn adnoddau’r Gyfarwyddiaeth i ymgymryd â’r gwaith hwnnw’n fewnol;

·      penderfynu a oes unrhyw alw pellach, nad yw wedi’i ateb, am wasanaethau cyfreithiol yn y Comisiwn neu ymysg Aelodau’r Cynulliad.

 

Cam i’w gymryd: cael y wybodaeth ddiweddaraf am yr opsiynau a ystyriwyd a’r cynnydd o ran yr opsiynau hynny ar ôl chwe mis, fel bod modd gwneud penderfyniadau ar gyfer y tymor hwy.

3.

Unrhyw Fusnes Arall

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Weithredwr wybod i’r Comisiwn bod y Cyfarwyddwr TGCh yn cymryd camau ar ddau fater a oedd yn achosi pryder i’r Aelodau ar hyn o bryd: i weithredu dull Rhif Adnabod Personol syml o ran cyfrineiriau Blackberry ac i ymestyn y cyfnod cadw rhagosodedig ar gyfer cysoni negeseuon e-bost i un mis. Disgwyliwyd y byddai’r newidiadau hyn wedi’u rhoi ar waith y diwrnod hwnnw. Canmolodd y Comisiwn y ffordd yr oedd yr adran TGCh wedi ymateb i broblemau ac wedi’u datrys.

Cytunodd y Prif Weithredwr i gyflwyno papur trafod i’r Comisiwn ar ddigwyddiadau cenedlaethol sydd i’w cynnal dros y blynyddoedd nesaf, er mwyn galluogi’r Comisiwn i ddylanwadu ar gynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Byddai swyddogion yn ymchwilio i’r materion a ganlyn, ac yn cyflwyno adroddiad arnynt:

·         hygyrchedd dyddiaduron Aelodau’r Cynulliad, a

·         materion diogelwch ac ymarferoldeb o ran y cwpanau tseina newydd yn y caffi.

Yr Ysgrifenyddiaeth

Mehefin 2013