Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Carys Evans, 029 2089 8598 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad y Cadeirydd

1a

Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau ar gyfer y cyfarfod hwn.

1b

Datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

 

1c

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunwyd ar y cofnodion.

2.

Strategaeth Cyllideb y Comisiwn 2014-15

papur 2

 

Cofnodion:

Bydd cyllideb y Comisiwn ar gyfer 2014-15 yn cael ei chyhoeddi ym mis Medi i’w hystyried gan y Cynulliad. Cytunodd y Comisiynwyr i’r gyllideb gael ei pharatoi yn unol â’r egwyddorion a nodwyd yn y dogfennau cyllideb a gymeradwywyd yn y ddwy flynedd ddiwethaf. Craffodd Pwyllgor Cyllid y Cynulliad ar y rhain ym mis Hydref 2011 a 2012. Bydd y gyllideb yn seiliedig ar y swm o £50.598 miliwn a nodwyd yn flaenorol.

Cam i’w gymryd: Swyddogion i baratoi’r gyllideb yn unol â thrafodaethau i’w hystyried yng nghyfarfod y Comisiwn ar 18 Gorffennaf.

3.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol

papur 3

Cofnodion:

Rôl Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw helpu’r Comisiwn a’r Prif Weithredwr i sicrhau bod gwasanaethau’r Cynulliad yn cael eu darparu i’r safonau uchaf o ran cywirdeb ac atebolrwydd wrth ddefnyddio arian cyhoeddus.  Ar gais, mae’r Pwyllgor yn cynghori’r Comisiwn a’r Prif Weithredwr fel Swyddog Cyfrifyddu ar eu cyfrifoldebau i gymeradwyo a pholisïau a systemau cydnabyddiaeth ariannol.  Mae’n gweithredu mewn capasiti cynghorol, ac nid oes ganddo bwerau gweithredol.  Yn unol â’i gylch gorchwyl, rhaid i’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad blynyddol ffurfiol ar ei waith i’r Comisiwn ar ddiwedd y flwyddyn.

Cyfarfu’r Pwyllgor unwaith yn ystod 2012-13 ar 19 Ebrill 2012 ac roedd yr eitemau ar yr agenda yn cynnwys:

·           y Strategaeth Wobrwyo Ddrafft ar gyfer Staff y Cynulliad;

·           adolygiad o gyflog a pherfformiad y Tîm Gweithredol.

Yn ogystal â’r rhain, ystyriodd y Pwyllgor bolisi cyflog y sector cyhoeddus yn fwy eang i sicrhau bod ei gyngor yn cael ei roi o fewn y cyd-destun ehangach hwn.

Cytunodd y Pwyllgor i’r strategaeth gyffredinol gael ei defnyddio i ddatblygu trefniadau gwobrwyo mewn cysylltiad â’r cytundeb cyflog 18 mis sy’n dod i ben ym mis Medi 2013, a oedd yn cyd-fynd â’r cyd-destun economaidd ehangach yng Nghymru a gweddill y DU.

Nododd y Comisiynwyr yr adroddiad.

4.

Adroddiad ar y prif bwyntiau i’r Comisiwn

papur 4

Cofnodion:

Mae’r adroddiad ar y prif bwyntiau yn crynhoi’r gweithgareddau sydd wedi’u gwneud neu sy’n mynd rhagddynt i wneud cynnydd tuag at nodau strategol y Comisiwn. Nodwyd bod y Gyfarwyddiaeth Fusnes yn cael ei had-drefnu ar hyn o bryd a dylid adlewyrchu hyn yng nghanfyddiadau’r adolygiad o gymorth i Bwyllgorau. Darparwyd amrywiaeth eang o weithgareddau allgymorth ac ymgysylltu, yn unol â’r nod o ymgysylltu â phobl Cymru a hyrwyddo Cymru. Bydd ail arolwg boddhad defnyddwyr ar gyfer Aelodau’r Cynulliad a’u staff cymorth yn cael ei lansio ym mis Mehefin.

Byddwn yn adrodd ar y Dangosyddion Perfformiad Allweddol mewn cyfarfodydd yn y dyfodol, yn unol ag argymhellion y Pwyllgor Cyllid. Derbyniodd y Comisiynwyr y dangosyddion a nododd eu bod yn debygol o gael eu datblygu.

Cam i’w gymryd: Angela Burns AC i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn cadarnhau y byddai’r dangosyddion perfformiad allweddol yn cael eu defnyddio.

5.

Adroddiad ar gynnydd a pherfformiad TGCh Mai 2013

papur 5

 

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod y gwaith i drosglwyddo gwasanaethau TGCh yn llwyddiannus fel rhan o’r Prosiect Gwasanaeth TGCh y Dyfodol ar y trywydd iawn. Roedd Cynllun Rheoli Gadael manwl ar waith yn casglu’r gweithgareddau sydd angen eu cwblhau cyn i gontract Atos ddod i ben. Roedd swyddogion wedi bod yn gwneud trefniadau ar gyfer sicrwydd allanol ar gyfer y gwaith i’w wneud gan KPMG. Byddai hyn yn cynnwys ‘prawf iechyd’ prosiect, adolygiad rheoli prosiectau manwl ac asesiad rheoli risg. 

Roedd y gwaith o ddisodli’r contract Blackberry presennol gyda darpariaeth fwy hyblyg yn mynd rhagddo, a disgwylir i’r gwaith hwnnw gyflawni arbedion sylweddol yn ogystal â gwella gwasanaethau i Aelodau.

Roedd opsiynau i wella sain yn y Siambr yn cael eu profi, gan geisio datrys anawsterau presennol. Trafododd Comisiynwyr i ba raddau y dylid defnyddio dyfeisiau yn yr oriel gyhoeddus. Cytunwyd y byddai’r rhai sy’n ymweld â’r oriel gyhoeddus yn cael defnyddio dyfeisiau symudol yn y dyfodol, cyhyd â nad oeddent yn achosi unrhyw ymyrraeth.

Cam i’w gymryd: Swyddogion i sicrhau bod staff a’r cyhoedd yn ymwybodol o’r newid i bolisi ynghylch defnyddio dyfeisiau symudol yn yr oriel gyhoeddus, yn amodol ar rai cyfyngiadau.

6.

Adborth o Bwyllgor Archwilio 18 Ebrill

eitem lafar

Cofnodion:

Nid oedd cofnodion y Pwyllgor Archwilio ar 18 Ebrill ar gael eto. Soniodd Angela Burns AC am y wybodaeth ddiweddaraf ar y materion a drafodwyd yn y cyfarfod, gan gynnwys prosiect sicrwydd annibynnol a fyddai’n cael ei reoli gan Gyfarwyddwr Cyllid y Cynulliad ar ran y pwyllgor.

7.

Unrhyw Fusnes Arall

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr gais gan Star Walk Wales yn gofyn am ganiatâd gan Gomisiwn y Cynulliad i osod pafin a sêr ar ystâd y Cynulliad. Byddai’r prosiect yn dathlu bywydau a gwaith unigolion sydd wedi cyfrannu at fywyd Cymru, a byddai gweithgor yn arsylwi’r prosiect hwnnw. Ni fyddai unrhyw gostau i’r Comisiwn.

Cytunodd y Comisiynwyr mewn egwyddor y dylai’r prosiect gynnwys Ystâd y Cynulliad, ar yr amod y ceir cyfraniad gan gynrychiolydd o’r Comisiwn.

Cam i’w gymryd: Byddai llythyr yn cael ei anfon at Brif Weithredwr y prosiect i gadarnhau cytundeb y Comisiwn mewn egwyddor. 

 

Yr Ysgrifenyddiaeth

Mai 2013