Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Carys Evans, 029 2089 8598
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad y Cadeirydd |
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau ar gyfer y cyfarfod hwn; |
|
Datganiadau o fuddiant Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunwyd ar y cofnodion. |
|
Gwaith ymgysylltu ac allgymorth – cynnwys pobl ifanc yng ngwaith y Cynulliad papur 2 (Rhan 1, Rhan 2 ac Atodiad, Rhan 3) Cofnodion: Mae sicrhau bod plant a phobl ifanc yn deall ac yn
chwarae rhan weithredol yng ngwaith y Cynulliad yn allweddol os yw'r Comisiwn
am lwyddo i gyflawni ei nod o ymgysylltu â phobl Cymru. Yn dilyn adolygiad diweddar, cafodd y Comisiynwyr
adroddiad ar waith gwasanaeth addysg y Cynulliad. Teimlwyd bod y gwasanaeth yn
cynnal ystod o weithgareddau o ansawdd uchel ar hyn o bryd. Er enghraifft,
mae'n rhoi cyfleoedd i bobl ifanc gyfrannu at faterion gerbron y Cynulliad drwy
ymchwiliadau pwyllgor a'r gwaith allgymorth gydag ysgolion ac athrawon. Ystyriwyd bod gweithgareddau a oedd yn galluogi plant a
phobl ifanc i ddysgu am y Cynulliad a'i waith yn bwysig iawn, ac er y dylai hwn
fod ar gael o hyd, dylai gael ei ddarparu mewn ffordd wahanol. Teimlai'r
Comisiynwyr hefyd bod rhagor o bosibiliadau i ddatblygu cyfleoedd i bobl ifanc
ymwneud yn uniongyrchol â busnes y Cynulliad. Er mwyn datblygu'r gwaith hwn a chryfhau'r ystod o
gyfleoedd i bobl ifanc ymgysylltu â'r Cynulliad, cytunodd y Comisiynwyr ar y
canlynol:
Fel rhan o'r gwaith hwn, bydd grŵp llywio yn cael ei
sefydlu a'i waith fydd datblygu syniadau am ffyrdd newydd o ymgysylltu â phobl
ifanc, er enghraifft drwy gymryd rhan o bell drwy ddefnyddio technoleg neu
Gynulliad Ieuenctid. Roedd teimlad cryf mai pobl ifanc a fyddai wrth wraidd y
gwaith hwn. Hwy a fyddai'n llunio'r gwaith ac yn nodi'r ffyrdd gorau o sicrhau
bod ystod amrywiol o unigolion yn gallu cymryd rhan. Byddai hyn yn ei gwneud yn
ofynnol i ddatblygu dulliau arloesol a chreadigol o fynd i'r afael â'r
gwaith. Gofynnodd y Comisiynwyr am gael y wybodaeth ddiweddaraf
yn rheolaidd am y gwaith hwn wrth iddo ddatblygu dros weddill y flwyddyn
ariannol hon. Diolchodd y Comisiynwyr i'r swyddogion am y gwaith a gyflawnwyd i lywio'r trafodaethau ac i’w cynorthwyo â'u penderfyniadau. |
|
Unrhyw Fusnes Arall Cofnodion: Nid oedd materion eraill i’w trafod. Yr
Ysgrifenyddiaeth Mai 2013 |