Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Carys Evans, 029 2089 8598
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad y Cadeirydd |
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan David Melding. Rhoddodd Claire Clancy y wybodaeth ddiweddaraf am y problemau TG a gafwyd yn gynharach yr wythnos honno. Byddai nodyn yn cael ei ddosbarthu i’r Comisiynwyr yn egluro’r materion a’r ymateb. |
|
Datganiadau o fuddiant Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunwyd ar y cofnodion. |
|
Adolygiad strategol o ystâd y Cynulliad 2013 Papur 2
(rhannau 1 a 2) Cofnodion: Rhaid rheoli Ystâd y Cynulliad
yn ofalus er mwyn gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o’r cyfleusterau sydd ar
gael. Mae’r adeiladau eiconig yn ganolog i allu’r Cynulliad i ymgysylltu â
phobl Cymru a thu hwnt ac i godi ymwybyddiaeth o’r Cynulliad fel cartref
democratiaeth Cymru. Trafododd y Comsiynwyr yr
heriau presennol a’r heriau posibl yn y dyfodol ar yr ystâd, a nodwyd nifer o
faterion i’w hystyried yn fanylach. Gall y galw am y lleoedd
cyfyngedig sydd ar gael fod yn uchel iawn ar adegau penodol ac maent yn
amrywio’n sylweddol drwy gydol y flwyddyn. Cytunwyd y dylai’r defnydd o
gyfleusterau fel ystafelloedd cyfarfod fod yn hyblyg ac y dylid eu rheoli’n
greadigol fel y gellir diwallu anghenion holl ddefnyddwyr yr ystâd, yn enwedig
yn ystod cyfnodau prysur fel ar ddiwrnodau busnes pan fo’r ystafelloedd
cyfarfod i gyd yn llawn. Cynhaliwyd adolygiad o’r
swyddfeydd sydd ar gael i weithwyr y Comisiwn yn ddiweddar er mwyn canfod
cyfleoedd i wneud y gorau o’r lle. Bydd angen i unrhyw newidiadau yn y defnydd
o le adlewyrchu blaenoriaethau’r Comisiwn ac anghnenion y Cynulliad.
Pwysleisiodd y Comisiynwyr yr angen i feddwl am yr heriau yn y dyfodol ar yr
holl ystâd, gan gynnwys y presenoldeb yn y gogledd, wrth wneud penderfyniadau
ynghylch rheoli’r ystâd. Dylid adolygu trefniadau ar gyfer isbrydlesu’r ystâd
er mwyn sicrhau eu bod yn addas i’r diben ac yn cynrychioli gwerth am arian. Cytunwyd y byddai angen edrych
ar y materion canlynol ymhellach: ·
Defnyddio’r
lle yn Nhŷ Hywel a’r Senedd i
sicrhau y gellir diwallu anghenion y rhai sy’n defnyddio’r adeilad, yn enwedig
yn ystod cyfnodau prysurach; ·
Trefniadau
isbrydlesu yn Nhŷ Hywel; ·
Prydles
hirdymor Tŷ Hywel; ·
Swyddfa’r
Cynulliad yn y gogledd. |
|
Papur i'w nodi – Cofnodion drafft y Pwyllgor Archwilio 21 Chwefror Papur 3 Cofnodion: Nodwyd y cofnodion. |
|
Unrhyw Fusnes Arall Cofnodion: Nid oedd
materion eraill i’w trafod. Yr Ysgrifenyddiaeth Ebrill 2013 |