Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sulafa Thomas
| Rhif | Eitem |
|---|---|
|
Cyflwyniad |
|
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau
gan Joyce Watson AS. |
|
|
Datgan buddiannau Cofnodion: Ni chafwyd datganiadau
o fuddiant. |
|
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Materion sy’n codi:
Derbyniodd y Comisiynwyr gofnodion 3 Tachwedd, gyda gwelliant i egluro bod Lesley Griffiths wedi ymgymryd â'r portffolio
Llywodraethu, ac y byddai'r Llywydd yn cadw cyfrifoldebau’r portffolio
Cyllid/Cyllideb. |
|
|
Cyllideb Atodol 2025-26 Cofnodion: Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa
ariannol 2025-26. Argymhellwyd Cyllideb Atodol sy'n lleihau'r gyllideb
gyffredinol £1.042 miliwn a'r gofyniad arian parod net £0.542 miliwn, yn
ogystal ag ailddyrannu £4.182 miliwn o wariant o refeniw i gyfalaf. Cytunodd y Comisiynwyr i gyflwyno Cyllideb Atodol i'w
chynnwys yng nghynnig cyllidebol Llywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2026. Fe
wnaethant nodi a chymeradwyo'r
Memorandwm Esboniadol, a - bod yr ail Gyllideb Atodol yn lleihau'r gyllideb a glustnodwyd ar gyfer
Penderfyniad y Bwrdd Taliadau £0.460 miliwn, yn ychwanegol at y gostyngiad yn y
cyllid Yswiriant Gwladol; - bod yr ail Gyllideb Atodol yn lleihau’r gyllideb Gwariant a Reolir yn
Flynyddol ar gyfer prisio cynllun Pensiwn yr Aelodau £0.500 miliwn, o £1.000
miliwn i £0.500 miliwn; a -
bod £4.182 miliwn
o gyllideb 'refeniw' yn cael ei ailddosbarthu fel 'cyfalaf' i adlewyrchu
disgwyliadau gwariant yn fwy cywir (gan nodi bod gwaith y Senedd yn amodol ar
gymeradwyaeth ar wahân). Cadarnhaodd y Comisiynwyr eu
bod yn fodlon ar yr addasiad cyfalaf / refeniw i adlewyrchu canlyniad y
drafodaeth ar yr ad-daliad ardrethi (tybiodd y byddai £644k yn cael ei gadw i
gyflymu gwaith yn y Senedd); a nododd y llythyr drafft at Gadeirydd y Pwyllgor
Cyllid. Fe wnaethant ddirprwyo'r cytundeb terfynol ar lythyr esboniadol
ychwanegol ac addasiadau i Femorandwm Esboniadol y gyllideb i'r Llywydd, i
adlewyrchu'r penderfyniad ynghylch yr ad-daliad. Byddai’r Gyllideb
Atodol ddrafft a’r llythyr yn cael eu darparu i’r Pwyllgor Cyllid ac wedi hynny
byddai’r Memorandwm Esboniadol yn cael ei osod, a chaiff ffigurau diwygiedig y
gyllideb eu cynnwys yng nghyllideb atodol Llywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2025. |
|
|
Materion y Seithfed Senedd |
|
|
Pontio Etholiadol – Fframwaith Cyflwyno a Hyfforddi’r Rhaglen Groeso Cofnodion: Cyflwynwyd cynigion
i’r Comisiynwyr ar gyfer y sesiynau briffio cyflwyniadol a'r rhaglen a datblygu
hyfforddi i Aelodau a staff cymorth yn y dyddiau, wythnosau a misoedd cyntaf ar
ôl yr etholiad. Trafododd y
Comisiynwyr y byddai elfennau o'r 'rhaglen groeso' y dylid eu hystyried yn
hanfodol, er enghraifft yr hyfforddiant sylfaenol ar safonau ymddygiad, a
chyfrifoldebau/dyletswyddau cyfreithiol yr Aelod. Byddai'r rhain yn cwmpasu
ymwybyddiaeth o gyfrifoldebau fel cyflogwr a rheolwr safle yn ogystal â meysydd
eraill lle mae risg gyfreithiol neu risg i enw da os na chaiff yr Aelodau eu
hysbysu. Roeddent hefyd yn tynnu sylw at nifer o feysydd lle roeddent yn teimlo
y dylid darparu gwybodaeth yn gynt na mewn Seneddau blaenorol, a hynny i
adlewyrchu bod tymor pedair blynedd yn golygu ei bod yn bwysig dechrau busnes
mewn modd gwybodus cyn gynted â phosibl. Cytunodd y
Comisiynwyr, er nad oes gan y Comisiwn sail i orfodi hyfforddiant i Aelodau, eu
bod yn dymuno ysgrifennu at y Pwyllgor Safonau a'r Bwrdd Taliadau Annibynnol i
ofyn am gymorth i orfodi hyfforddiant, neu i olygu bod y Senedd mor agos â
phosibl at wneud gwybodaeth hanfodol o'r fath yn ofyniad i bawb. |
|
|
Arolwg Boddhad yr Aelodau a’u Staff Cymorth ar gyfer 2025 Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr ganlyniadau Arolwg Boddhad yr Aelodau a Staff Cymorth
ar gyfer 2025, a gynhaliwyd rhwng 9 Medi a 3 Hydref. Dyma oedd y trydydd arolwg
o’r Aelodau a Staff Cymorth yn y Chweched Senedd ac roedd y sgoriau’n bwydo i
mewn i ddau Ddangosydd Perfformiad Allweddol, a fyddai'n cael eu cyflwyno yn yr
adroddiad blynyddol. Yn ogystal â'r cwestiynau safonol, ceisiwyd gwybodaeth i
helpu i lywio gwaith cynllunio'r Seithfed Senedd a blaenoriaethu gwybodaeth a
datblygiad ar gyfer yr Aelodau. Fel yn y blynyddoedd
blaenorol, byddai crynodeb o'r canlyniadau yn cael ei rannu gyda'r Bwrdd
Taliadau Annibynnol a'i gyhoeddi. |
|
|
Arolwg Urddas a Pharch Cofnodion: Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf
i’r Comisiynwyr ar weithgarwch sy'n gysylltiedig ag urddas a pharch yn y
Comisiwn, a chawsant ganlyniadau'r arolwg urddas a pharch diweddar sydd, am y tro cyntaf, yn cynnwys canlyniadau ar
draws tri maes; Aelodau/staff cymorth yr Aelodau, staff y Comisiwn a defnyddwyr
adeiladau trydydd parti (deiliaid pasys). Nododd y Comisiynwyr ganlyniadau’r arolwg
a’r camau gweithredu a nodwyd. Roeddent yn cytuno y dylid rhannu adroddiad yr
arolwg urddas a pharch â’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad, y Comisiynydd Safonau, y Bwrdd Taliadau
Annibynnol, a’r Adolygiad Senedd sy’n Gynhwysol ac yn Ystyriol o Deuluoedd,
gyda disgwyliad y bydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn cyhoeddi’r adroddiad. Nododd y Comisiynwyr
hefyd y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y gweithgarwch a wnaed ers mis Ionawr
2025; ac ymgynghoriad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar ei gynigion ar gyfer gwneud y
broses safonau yn fwy annibynnol a gwella'r cymorth sydd ar gael i'r rhai sydd
â phryderon am urddas a pharch. |
|
|
Comisiwn y Chweched Senedd – dull o adrodd ynghylch gwaddol Cofnodion: Mae egwyddorion llywodraethu'r Comisiwn yn disgwyl y
dylai'r Comisiwn, o bryd i’w gilydd, gasglu enghreifftiau o arfer da a gwersi a
ddysgwyd. Cytunodd y Comisiynwyr
ar ddull o gasglu ystyriaethau ynghylch gweithrediad Comisiwn y Senedd yn ystod
y Chweched Senedd a'r gwersi a ddysgwyd er mwyn gwneud argymhellion ar gyfer
Comisiwn y Seithfed Senedd, a fydd yn gweithredu yng nghyd-destun senedd newydd
a mwy ar ôl mis Mai y flwyddyn nesaf. |
|
|
Papurau i'w nodi: |
|
|
Llythyr ymgynghori gan Bwyllgor y Bil Atebolrwydd Aelodau 4 Tach 2025 Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr lythyr gan Bwyllgor y Bil Atebolrwydd Aelodau yn
gwahodd sylwadau ar ddarpariaethau'r Bil Atebolrwydd Aelodau, ynghyd â'r
llythyrau ymateb gan y Llywydd a'r Prif Weithredwr a'r Clerc. |
|
|
Llythyr yr Pwyllgor Cyllid ynghylch Adolygiad o Weithdrefnau Cyllideb Atodol a Phrotocol Proses y Gyllideb Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr lythyr gan y Pwyllgor Cyllid yn rhoi'r wybodaeth
ddiweddaraf am drafodaethau gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r
Gymraeg ar adolygiad o weithdrefnau cyllideb atodol a phrotocol proses y
gyllideb. |
|
|
Llythyr y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Llywydd ynghylch y Bil Atebolrwydd Swyddi Cyhoeddus 6 Tach 2025 Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr lythyr gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad yn gwahodd barn ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil
Atebolrwydd Swyddi Cyhoeddus. |
|
|
Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar Graffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Comisiwn 2024-25 Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr yr adroddiad a gyhoeddwyd ar 2 Rhagfyr 2025 yn dilyn
y sesiwn graffu a gynhaliwyd ar 2 Hydref. Byddai’r Comisiynwyr yn cael ymateb
drafft yn y cyfarfod ym mis Ionawr 2026.
|
|
|
Diweddariad y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD) Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y crynodeb o benderfyniadau recriwtio a ddarperir
fel mater o drefn i bob cyfarfod o'r Comisiwn. |
|
|
Unrhyw fater arall Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
bydd Aelodau'n cael eu gwahodd i ymweld ag oriel wylio’r Siambr ar adegau
penodol yn y flwyddyn newydd, os ydynt yn dymuno gweld y cynnydd ar waith y
Siambr. |
PDF 287 KB