Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sulafa Thomas 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad

1.a

Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

 

1.b

Datgan buddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.

 

1.c

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Comisiynwyr y byddai cofnodion y cyfarfod ar 3 Tachwedd 2025 yn cael eu trafod yn eu cyfarfod ar 15 Rhagfyr.

 

2.

Apêl gwerth ardrethol

Cofnodion:

Hysbyswyd y Comisiynwyr fod y Comisiwn wedi cael gwybod yn ddiweddar y bu apêl a gynhaliwyd gan Avison Young i gywiro gwerth ardrethol ystad Bae Caerdydd, wedi'i ôl-ddyddio i 2017, yn llwyddiannus a bod ad-daliad o £3.6m yn ddyledus.

Fe wnaethant drafod yr opsiynau a’r cyngor mewn perthynas a’r ad-daliad, gan gytuno i gefnogi cadw £644k o gyfanswm yr ad-daliad sy'n ddyledus (£3.603 miliwn) i gwblhau gwaith penodol sy’n flaenoriaeth yn adeilad y Senedd cyn diwedd y flwyddyn ariannol.

3.

Unrhyw fater arall

Cofnodion:

Dim