Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sulafa Thomas
| Rhif | Eitem |
|---|---|
|
Cyflwyniad |
|
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Ni chafwyd
ymddiheuriadau. Rhoddodd y Llywydd
deyrnged i'r diweddar Hefin David, a nododd ei gyfraniad gwerthfawr at waith y
Comisiwn. Nododd y Llywydd ymhellach fod y Comisiwn wedi mynegi ei gydymdeimlad
diffuant â'r rhai a oedd yn agos at Hefin. |
|
|
Datgan buddiannau Cofnodion: Ni chafwyd datganiadau
o fuddiant. Gofynnodd y Comisiynwyr am eglurder ynghylch a oes angen i unigolion yr
effeithir arnynt ddatgan buddiant wrth drafod darpariaethau cyllidebol sy'n
ymwneud â phenderfyniadau'r Bwrdd Taliadau Annibynnol ar gyfer Aelodau nad
ydynt yn sefyll yn yr etholiad. |
|
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y Comisiynwyr ar Gofnodion y cyfarfod ar 14 Gorffennaf 2025. |
|
|
Dyraniad TGCh y Seithfed Senedd - Dewisiadau o ran meddalwedd Cofnodion: Materion sy’n codi: Yn y cyfarfod diwethaf trafododd y
Comisiynwyr opsiynau ar gyfer darparu meddalwedd a chytunasant i ymgynghori â'u
Grwpiau. Crynhowyd yr adborth a gafwyd gan y Grwpiau Pleidiau mewn nodyn a
ddarparwyd. Ystyriodd
y Comisiynwyr yr adborth a chytuno ar y dyraniad meddalwedd ar gyfer y Seithfed
Senedd – i gynyddu’r ddarpariaeth fel yr argymhellwyd. |
|
|
Cyllideb ddrafft y Comisiwn ar gyfer 2026-27 Cofnodion: Ystyriodd y Comisiynwyr
y Gyllideb Ddrafft arfaethedig ar gyfer 2026-27. Roedd y Gyllideb
Ddrafft wedi’i datblygu ymhellach ers i’r Comisiwn drafod y Fframwaith Adnoddau
Tymor Canolig yn y cyfarfod ar 2 Mehefin. Trafododd y
Comisiynwyr y cynigion a chytuno: a)
ar y dyfarniad cyflog i staff y Comisiwn yn 2026-27; b)
ar Gronfa Prosiectau (gan gynnwys £500,000 o gyfalaf) o
£2 miliwn; c)
i leihau’r gyllideb ar gyfer costau Cyllid Pensiwn yr
Aelodau o £1 miliwn i £400,000; ac d)
i gyfeirio at brosiect ‘Bae 32’ yn lle’r cyfeiriad at y
Rhaglen ‘Ffyrdd o Weithio’; Ystyriodd y Comisiynwyr agweddau ar y
ddarpariaeth gyllidebol ar gyfer costau sy'n deillio o'r etholiad. Fe wnaethant
gymeradwyo'r Memorandwm Esboniadol drafft fel y mae i’w weld yn Atodiad A, yn
amodol ar newidiadau i'w cwblhau; a nodwyd y llythyr gan y Gweinidog Cyllid. Byddai'r Gyllideb
Ddrafft y cytunwyd arni yn cael ei gosod gerbron y Senedd a'i darparu i'r
Pwyllgor Cyllid. |
|
|
Ffyrdd o weithio Cofnodion: Cafodd
y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am y tri phrosiect Ffyrdd o Weithio mawr,
sef: Bae Caerdydd 32, Siambr 2026 a Tŷ Hywel 2026. Rhoddodd
y Comisiynwyr gymeradwyaeth mewn egwyddor (yn amodol ar ystyried papur manwl yn
ddiweddarach yn y flwyddyn) i'r cynllun i ymrwymo i Gytundeb Cyn-datblygu gyda
chyflenwr y datrysiad a ffefrir ar gyfer y llety yn y dyfodol fel rhan o
brosiect Bae 32. Fe wnaethant ystyried ymhellach y catalog gofynion
Bae 32 wedi'i ddiweddaru, a'r newidiadau a wnaed ers ystyried y catalog
ddiwethaf, a'r rhesymeg dros y mireinio hwn. Bydd y gofynion yn cael eu darparu
i'r tendrwyr ym mhroses deialog gystadleuol Bae 32, i lywio cyflwyniad eu
cynigion terfynol ym mis Hydref. Cymeradwyodd y
Comisiynwyr y catalog gofynion wedi'i ddiweddaru ar gyfer proses gaffael Bae
32, gan gynnwys y diwygiadau a nodir, i'w ddarparu i’r tendrwyr cyn eu
cyflwyniadau terfynol. |
|
|
Siambr 26 - Paneli acwstig ac opsiynau eistedd i’r Aelodau Cofnodion: Adolygodd y Comisiynwyr yr opsiynau a gynigwyd
ar gyfer y paneli acwstig a'r seddi yn Siambr y Senedd sydd newydd ei
hadnewyddu, a chadarnhawyd y dewis a ffefrir i brynu 110 o gadeiriau tasgau
Humanscale Freedom ar gyfer seddi'r Aelodau. Byddai angen profion
ychwanegol brys ar y paneli acwstig a byddai'r opsiwn terfynol arfaethedig yn
cael ei gyflwyno i'r Comisiynwyr y tu allan i'r cyfarfod. |
|
|
Diogelwch yr Aelodau - Monitro’r cyfryngau cymdeithasol Cofnodion: Ystyriodd y Comisiynwyr bapur yn amlinellu bod y tîm
Diogelwch Aelodau wedi gweld cynnydd mewn bygythiadau diogelwch ar-lein a
cham-drin ar y cyfryngau cymdeithasol yn targedu cynrychiolwyr etholedig, a
chynnydd o ran pryderon y mae’r Aelodau yn eu codi ynghylch cam-drin ar-lein. Fe wnaethant adolygu sut mae Senedd y DU a Senedd yr
Alban yn mynd i’r afael â hyn, a’r opsiynau arfaethedig ar gyfer gwasanaeth
tebyg yn y Senedd, a pha gamau pellach y gallai’r Comisiwn eu cymryd i gefnogi
a sicrhau diogelwch cynrychiolwyr etholedig a’u staff wrth ymgysylltu ag
etholwyr mewn gofod digidol. Cytunodd y Comisiynwyr ar yr argymhellion a ganlyn, sef: · y dylai’r Comisiwn gynnal treial, hyd at chwe mis o hyd,
yn defnyddio’r llwyfan monitro cyfryngau cymdeithasol presennol, sef PULSAR, i
fonitro’r llwyfannau cyfryngau cymdeithasol ar gyfer nifer dethol o Aelodau
(hyd at 8), gan ganolbwyntio’n llwyr ar fygythiadau a cham-drin uwchlaw’r
trothwy troseddol. · bod Tîm Diogelwch yr Aelodau: -
yn edrych yn fanwl
ymhellach ar ymarferoldeb monitro amddiffynnol ac Asesiadau Bregusrwydd
Ar-lein; ac yn gweithio gydag Uned
Heddlu’r Senedd i ddatblygu ymhellach opsiwn i gydweithio’n fwy â Heddlu De
Cymru a’r tri llu arall yng Nghymru, gan ymchwilio’n benodol i ddichonoldeb
datblygu proses sy’n caniatáu adrodd am achosion o gyfathrebu maleisus yn uniongyrchol
i’r heddlu pan fyddant yn canfod bygythiadau a cham-drin uwchlaw’r trothwy
troseddol. |
|
|
Papurau i'w nodi: |
|
|
Defnyddio staff y Comisiwn yn ystod y Diddymiad Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr
ailgyflwyno Cynllun Benthyg Staff y Comisiwn ar gyfer defnyddio cyflogeion ar
sail dros dro yn ystod cyfnod diddymu’r Senedd ac ar ôl yr etholiad. |
|
|
Hwb - Symleiddio Mynediad at Wasanaethau'r Comisiwn Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
gwaith sy'n cael ei wneud i gyflawni gwelliannau i hwyluso mynediad ar leoliad
at wasanaethau'r Comisiwn i Aelodau ar gyfer y Seithfed Senedd, drwy ddarparu
gofod penodedig. |
|
|
Llythyr y Prif Weithredwr at Lywodraeth Cymru: Goblygiadau ariannol y Bil Atebolrwydd Aelodau Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
llythyr gan y Prif Weithredwr at yr Ysgrifennydd Parhaol mewn ymateb i'r cais
am wybodaeth am gostau gweinyddu ac arbedion posibl y Bil Atebolrwydd Aelodau
sydd ar ddod gan Lywodraeth Cymru. |
|
|
Cofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC) ar 23 Mehefin. Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
diweddariad a ddarperir fel mater o drefn i’r Comisiwn am gyfarfodydd y
Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg. |
|
|
Diweddariad y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD) Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
crynodeb o benderfyniadau recriwtio a ddarperir fel mater o drefn i bob
cyfarfod o'r Comisiwn. |
|
|
Unrhyw fater arall Cofnodion:
Atgoffwyd y
Comisiynwyr bod yr Arolwg Aelodau (y gall eu staff cymorth, hefyd, ei lenwi) ar
agor, ynghyd â'r Arolwg Urddas a Pharch. Gofynnwyd i’r Comisiynwyr atgoffa
aelodau eu grŵp amdano hefyd. |
PDF 284 KB