Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sulafa Thomas
| Rhif | Eitem |
|---|---|
|
Cyflwyniad |
|
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Ni chafwyd
ymddiheuriadau. |
|
|
Datgan buddiannau Cofnodion: Ni chafwyd datganiadau
o fuddiant. |
|
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y Comisiynwyr ar Gofnodion y cyfarfod ar 30 Mehefin 2025. |
|
|
Y diweddaraf am y gyllideb Cofnodion: Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am y
sefyllfa o ran y trafodaethau ffurfiol rhwng Ochr Rheoli'r Comisiwn Ochr
Undebau Llafur y Comisiwn ynghylch y fframwaith cyflogau ar gyfer staff y
Comisiwn o fis Ebrill 2026 ymlaen. Fe wnaethant hefyd
ystyried adborth ar y gwaith ymgysylltu a gynhaliwyd â dau Grŵp plaid hyd
yn hyn (gydag un Grŵp yn gwrthod y cynnig) ar y paratoadau ar gyfer
cyllideb ddrafft y Comisiwn ar gyfer 2026-27. Gofynnodd y
Comisiynwyr i swyddogion y Comisiwn sicrhau bod y Gyllideb Ddrafft a gyflwynir
ym mis Medi mor dynn ag y gallai fod, gan ystyried yr angen i sicrhau bod
gofynion y Senedd a'r ddarpariaeth gyllidebol gysylltiedig ar gyfer blwyddyn
gyntaf y Seithfed Senedd yn cael eu proffilio'n briodol, a chan ystyried hefyd
faterion capasiti a llesiant. Hefyd, fe gawsant ragor o wybodaeth i lywio’r drafodaeth
ar opsiynau, i sicrhau bod yr adnoddau angenrheidiol ar gyfer yr opsiwn a
ffafrir yn cael eu cynnwys yn y gyllideb ddrafft ar gyfer 2026/27. Gwnaeth y Comisiynwyr a.
nodi’r sefyllfa ddiweddaraf o ran y
trafodaethau ag Ochr yr Undebau Llafur ynghylch cyflogau staff y Comisiwn; b.
ystyried yr opsiynau pellach a gyflwynwyd a
chytuno ar y camau nesaf dymunol yn y broses o drafod cyflogau, sef: -
symud i drafodaethau
cyflog blynyddol; -
hunan-ariannu'r 0.5%
ychwanegol o'r dyfarniad cyflog; -
gwneud codiannau
targedig a graddol ar 3.75% i raddau TS hyd at SEO, 3.25% i G7 i G6 a 3% i Gyfarwyddwyr/Prif
Swyddog Gweithredol; a -
chytuno ar safbwynt ar
ddeialog bellach gydag Ochr yr Undebau Llafur, a ddaw i ben ym mis Awst. |
|
|
Materion y Seithfed Senedd Cofnodion: Trafododd y Comisiynwyr gyfres o bapurau ar
gynllunio ar gyfer diddymu'r Chweched Senedd a'r pontio trwy gyfnod yr etholiad
yn 2026. Trafododd y Comisiynwyr y cyd-destun y mae gwybodaeth i
Aelodau yn cael ei pharatoi ynddo ynghyd â nodyn ar y sefyllfa gyfreithiol sy'n
ymwneud â Diddymu. Gwnaethant drafod i ba raddau y dylai Aelodau’r Chweched
Senedd allu cael mynediad at wasanaethau ac adnoddau’r Senedd a’u defnyddio
drwy gydol y cyfnod pan fyddant yn ymgyrchu, gan gynnwys yn ystod y diddymiad
a’r trefniadau cymorth ar gyfer Aelodau sy’n gadael. Nododd y Comisiynwyr y manylion a ddarparwyd a
chadarnhawyd eu bod yn parhau i gefnogi’r egwyddorion a'r dull y cytunwyd
arnynt yn flaenorol sy'n sail i baratoadau ar gyfer dros gyfnod yr etholiad. Gwnaethant gytuno: ·
y bydd y deiliaid
swyddi sy'n parhau yn eu swydd yn ystod y diddymiad yn cael mynediad at
adnoddau'r Senedd at ddibenion eu swyddogaethau fel deiliaid swyddi; ·
y bydd mynediad i
Ystad y Senedd i Aelodau a'u staff yn ystod y diddymiad yn gyfyngedig i'r
mannau cyhoeddus, ac eithrio lle y ceir cytundeb ymlaen llaw at ddibenion
penodol; ·
y bydd yr Aelodau a'u
staff yn cadw mynediad cyfyngedig at adnoddau'r Senedd, gan gynnwys cyfrifon
TGCh, caledwedd a swyddfeydd etholaethol/rhanbarthol presennol, ar gyfer gwaith
achos brys gweddilliol a thasgau gweinyddol arferol yn unig, ac i’r Aelodau na
fydd yn ymgeisio allu cwblhau unrhyw gamau dirwyn i ben sy'n weddill; ·
na fydd Aelodau sy'n
ymgeisio yn yr etholiad yn gallu llogi eu swyddfeydd at ddefnydd personol, gan
gynnwys unrhyw ymgyrchu; ac ·
na fydd Aelodau sy'n
ymgeisio yn yr etholiad yn gallu llogi eu ffonau symudol at ddefnydd personol,
gan gynnwys unrhyw ymgyrchu. Cytunodd y Comisiynwyr hefyd y dylai Rhaglen Cymorth i
Weithwyr (EAP) y Comisiwn barhau i fod ar gael i Aelodau a'u staff am chwe mis
ar ôl y diddymiad/diwrnod pleidleisio (yn amodol ar ba ddyddiad yw diwedd
cyfnod yr Aelodau yn eu swyddi), yn amodol ar 'optio i mewn' gan yr unigolyn
dan sylw ymlaen llaw (er mwyn galluogi prosesu PAYE). Cytunodd y Comisiynwyr
i roi arweiniad i Aelodau sy'n rhoi’r gorau i’w seddau y dylent anelu at
gwblhau'r camau sy'n ofynnol ar gyfer cau eu swyddfeydd erbyn diwedd mis Ebrill
2026. Yna trafododd y
Comisiynwyr argymhellion ar gyfer dyrannu Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
(TGCh) i Aelodau a'u staff cymorth yn y Seithfed Senedd. Cytunodd y Comisiynwyr ar Opsiwn 1,
sef darparu'r un dyraniad caledwedd TGCh â'r hyn a ddarparwyd ar gyfer y
Chweched Senedd, ac eithrio na fydd dewis rhwng gliniadur neu Surface, gan mai
gliniadur Surface yn unig fydd yn cael ei gynnig i’r Aelodau. O ran opsiynau meddalwedd, cytunodd y
Comisiynwyr i ymgynghori â'u Grwpiau. Gofynnwyd i swyddogion ddarparu nodyn i
lywio'r trafodaethau. Bydd y penderfyniadau ar ddefnydd
Aelodau o adnoddau yn y cyfnod cyn yr etholiad a'r camau i gau swyddfa
gyhoeddus Aelod o'r Senedd yn cael eu rhannu â'r Aelodau a'u defnyddio i
lywio'r canllawiau ynghylch y Diddymiad ar gyfer Aelodau a'u staff. Bydd y penderfyniadau ar ddyrannu TGCh yn cael ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|
|
Llythyr at y Pwyllgor Cyllid - diweddariad ynghylch Argymhellion Cofnodion: Cytunodd y Comisiynwyr ar lythyr at y
Pwyllgor Cyllid yn rhoi rhagor o wybodaeth mewn perthynas ag argymhellion y
Pwyllgor a wnaed yn ei Adroddiad ar Waith Craffu ar Gyllideb Ddrafft 2025-26. Rhagwelir y bydd y Pwyllgor yn cyhoeddi’r llythyr hwn. |
|
|
Ffyrdd o Weithio - Diweddariad Bae 2032 Cofnodion: Cafodd y Comisiwn y
wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd prosiect Bae 32, a'r camau sy'n arwain at y
Comisiwn yn cymeradwyo’r cynigydd llwyddiannus ym mis Rhagfyr. |
|
|
Papurau i’w nodi: |
|
|
Arolwg yr Aelodau Cyn yr Etholiad Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr
gynnwys arolwg ymgysylltu ag Aelodau a staff cymorth olaf y Chweched Senedd, a
drefnwyd ar gyfer hydref 2025, a'r mân newidiadau i gwestiynau yn arolwg y
staff yn dilyn adborth gan yr Aelodau a chanfyddiadau diweddar ymchwiliad y Pwyllgor
Safonau Ymddygiad i urddas a pharch. |
|
|
Y Prif Weithredwr at y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus - diweddariad ynghylch Argymhellion Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr
ymateb gan y Prif Weithredwr i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth
Gyhoeddus i roi diweddariadau pellach ar yr argymhellion o'r Adroddiad: Craffu
ar Gyfrifon 2023-24. |
|
|
Diweddariad y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD) Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
crynodeb o benderfyniadau recriwtio a ddarperir fel mater o drefn i bob
cyfarfod o'r Comisiwn. |
|
|
Unrhyw fater arall Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr y gwaith parhaus gan swyddogion i archwilio dull
Senedd yr Alban o fonitro ac adrodd ar gyfryngau cymdeithasol. Bydd swyddogion hefyd yn darparu nodyn ar y defnydd cyfreithlon o
recordiadau fideo o drafodion y Senedd at ddibenion cyfryngau cymdeithasol.
Cytunodd y Comisiynwyr y dylid cwblhau archwiliad synhwyraidd fel rhan o'r
paratoadau ar gyfer y Seithfed Senedd. |
PDF 282 KB