Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Hybrid - Digital. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sulafa Thomas
| Rhif | Eitem |
|---|---|
|
Cyflwyniad |
|
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Nid oedd dim
ymddiheuriadau. |
|
|
Datgan buddiant Cofnodion: Nid oedd dim
datganiadau o fuddiant. |
|
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y Comisiynwyr ar
Gofnodion y cyfarfod ar 28 Ebrill 2025. |
|
|
Blociau Adeiladu’r Gyllideb Cofnodion: Trafododd y Comisiynwyr y prif
dybiaethau yn y gyllideb ddrafft ar gyfer 2026-27 sydd â goblygiadau ariannol,
a’r hyn y dylid ei adlewyrchu yn y cyflwyniad cyllidebol i'r Pwyllgor Cyllid ym
mis Hydref. Rhoddodd y comisiynwyr eu barn gychwynnol ar y sail y bydd cyllideb
ddrafft fanwl 2026/27 yn cael ei pharatoi; a chadarnhau fod y rhagdybiaethau
gweithio yn briodol. Byddai'r Gyllideb Ddrafft yn cael ei pharatoi ar gyfer cyfarfod y Comisiwn ym mis Medi, cyn cael ei gosod. |
|
|
Diweddariad Bae 2032 Cofnodion: Rhoddwyd diweddariad i'r Comisiynwyr ar brosiect Bae 32, a nodwyd y cynnydd a wnaed. |
|
|
Materion y Seithfed Senedd Cofnodion: Rhoddwyd crynodeb i’r Comisiynwyr o'r materion sy'n
debygol o godi ar gyfer Comisiwn y Senedd o adroddiad Pwyllgor Senedd y Dyfodol
ar Fusnes Seneddol yn y Seithfed Senedd. Yng ngoleuni'r cais gan Bwyllgor Senedd y Dyfodol, nododd y
Comisiynwyr fod y Bwrdd Gweithredol wedi cytuno mewn egwyddor i sefydlu
astudiaeth ddichonoldeb ar ailgyflwyno gwasanaeth crèche, a byddai manylion hyn
yn destun cymeradwyaethau pellach maes o law. Gofynnodd Janet Finch Saunders AS
am nodi ei gwrthwynebiad i crèche a ddarperir gan y Comisiwn. Cafodd y crynodeb ei nodi gan y Comisiynwyr, a bydd papurau i lywio trafodaeth ar sut y gallai'r Comisiwn fod am ymateb yn cael eu darparu mewn cyfarfodydd yn y dyfodol. |
|
|
Adolygiad Addysg Cofnodion: Rhoddwyd
canfyddiadau i’r Comisiynwyr yn deillio o adolygiad y gwasanaeth Addysg. Nod yr
adolygiad oedd deall a yw’r ddarpariaeth bresennol yn cyd-fynd â gweithrediad y
Cwricwlwm i Gymru, a deall yn well yr heriau y mae addysgwyr yn eu hwynebu,
hygyrchedd ein cynnig, a’r rhwystrau gwirioneddol neu ganfyddedig sy’n bodoli
wrth ymgysylltu â’n gwasanaethau . Nododd
y Comisiynwyr ddarpariaeth y dyfodol a chytunwyd gyda mwyafrif: ·
y dylai pob grŵp, gan gynnwys
y rhai o fewn cwmpas 10 milltir i’r Senedd, fod yn gymwys i gael y cymhorthdal
teithio; ·
i barhau â’r broses
neilltuo lle â blaenoriaeth ar gyfer Sesiynau Addysg Fewnol o flwyddyn
academaidd 2026/27 i fod ar gael i grwpiau sydd â chanran uwch o ddisgyblion
sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim; ac ·
yr Opsiwn a argymhellir i
weithredu cynnydd o 50% yn y cymhorthdal teithio. |
|
|
Y Farchnad Cofnodion: Cafodd y Comisiynwyr werthusiad o fformat Y
Farchnad fel digwyddiad, a lansiwyd ym mis Mai 2024 fel cynllun peilot yn dilyn
trafodaeth gan y Comisiynwyr ar nifer o gynigion i wneud defnydd mwy pwrpasol
ac effeithiol o ystad y Senedd. Cafodd y canlyniadau eu trafod gan y Comisiynwyr a chytunwyd ar yr
opsiwn a argymhellir, i wneud Y Farchnad yn gynnig parhaol yn sgil llwyddiant y
cynllun peilot, a fydd hefyd yn cynorthwyo i ddarparu ar gyfer y cynnydd yn y
galw am ystafelloedd cyfarfod wrth i'r Senedd ehangu. |
|
|
Ymateb i Ran 2 Ymgynghoriad y Bwrdd Taliadau Annibynnol ar y Penderfyniad Cofnodion: Trafododd y Comisiynwyr ymateb drafft i Ran Dau yr Ymgynghoriad ar
Adolygiad y Bwrdd Taliadau Annibynnol o'r Penderfyniad ar Gyflogau a Lwfansau’r
Aelodau ar gyfer y Seithfed Senedd. Cytunodd y Comisiynwyr ar yr ymateb i ymgynghoriad y Bwrdd; a
nododd yr ymateb a fydd yn cael ei anfon gan y Swyddog Cyfrifyddu. Bydd y llythyr yn cael ei ddarparu i’r Bwrdd. Nid yw ymatebion yn cael eu cyhoeddi fel mater o drefn gan y Bwrdd, er y gallai ymatebion neu safbwyntiau cryno gael eu cynnwys yn yr adroddiad a gyhoeddir ar yr adolygiad blynyddol. |
|
|
Cyfamod y Lluoedd Arfog Cofnodion: Yng nghyfarfod y Comisiynwyr ar 24 Mawrth, cytunwyd y dylai'r
Gwasanaeth Adnoddau Dynol gynnal adolygiad o ganlyniadau llofnodi Cyfamod y
Lluoedd Arfog a/neu Gynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn. Ymateb
oedd hyn, i gais gan Samuel Kurtz AS ar ran Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig. Cafodd y Comisiynwyr amlinelliad o ystyriaethau pellach i’w
cynorthwyo i benderfynu a ddylai Comisiwn y Senedd wneud hynny. Cytunodd y Comisiynwyr ar yr argymhelliad y dylai’r Comisiwn, ar
sail y wybodaeth a ddarparwyd, lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog, ond ymatal rhag
ymrwymo i’r Cynllun Cydnabod Cyflogwyr am y tro oherwydd y polisïau adnoddau
dynol sydd eisoes ar waith. Bydd llythyr yn cael ei anfon at Sam Kurtz AS i’w hysbysu o’r
penderfyniad. |
|
|
Papurau i'w nodi: |
|
|
Polisïau Absenoldeb oherwydd Salwch Cofnodion: Nododd
y Comisiynwyr y polisïau newydd i helpu i reoli absenoldeb staff y Comisiwn yn
effeithiol, yn dilyn adolygu’r Polisi Rheoli Presenoldeb, nad oedd yn cynnwys
camau gweithdrefnol allweddol o ran sut y dylid rheoli absenoldeb salwch
hirdymor, a’i ddisodli gan bolisi newydd. Bydd y polisïau'n cael eu cyhoeddi
a'u gweithredu ar gyfer staff y Comisiwn. Gofynnodd y Pwyllgor Cyfrifon
Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus hefyd am gopi o'r polisi salwch hirdymor yn
Argymhelliad 5 o'i adroddiad Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2023-24. |
|
|
MTRF 2026-27 i 2028-29 Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y Fframwaith Adnoddau Tymor Canolig wedi'i ddiweddaru, a gymeradwywyd gan y Bwrdd Gweithredol ar 15 Mai 2025, yn adlewyrchu cytundeb y Comisiwn yn ystod cyfarfod 28 Ebrill i ddiwygio'r amserlen amlinellol ar gyfer adolygu rhai gwasanaethau penodol sydd ar gontract allanol. |
|
|
Llywodraethu ar gyfer y Llawlyfr Staff Cymorth Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y broses lywodraethu ar gyfer cymeradwyo'r polisïau templed (ac eithrio'r rhai sy’n orfodol gan Fwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd) a gynhwysir yn y Llawlyfr Staff Cymorth a ddarperir i Aelodau o'r Senedd, i'w cefnogi yn eu rôl fel cyflogwyr staff cymorth. |
|
|
Diweddariad y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD) Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y crynodeb o benderfyniadau recriwtio a ddarperir fel mater o drefn i bob cyfarfod o'r Comisiwn. |
|
|
Unrhyw fater arall Cofnodion: Yn
y cyfnod ers y cyfarfod diwethaf, roedd y Comisiynwyr wedi cytuno ar:
Nodasant
hefyd: Lythyrau gan y Bwrdd Taliadau mewn ymateb i Hefin David ar ran y Comisiwn, y Llywydd, a'r Prif Weithredwr, dyddiedig 10 Ebrill. |
PDF 283 KB