Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Hybrid - Digital. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sulafa Thomas
| Rhif | Eitem |
|---|---|
|
Cyflwyniad |
|
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Cafwyd
ymddiheuriadau gan Adam Price AS. |
|
|
Datgan buddiannau Cofnodion: Ni wnaed unrhyw ddatganiadau o fuddiant. |
|
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y Comisiynwyr ar Gofnodion cyfarfod 24 Mawrth 2025. |
|
|
Y Gyllideb Atodol Gyntaf Cofnodion: Cyflwynwyd y Memorandwm Esboniadol i’r Cais Cyllideb
Atodol 2025-26 i’r Comisiynwyr. Mae’n gofyn am gynnydd yn y gyllideb fel
canlyniad uniongyrchol i'r newid i gyfradd cyfraniadau Yswiriant Gwladol
Cyflogwyr o 13.8% i 15%. Nododd y
Comisiwn fod y Cyrff eraill a Ariennir yn Uniongyrchol hefyd yn gwneud
ceisiadau am gost lawn y newid. Trafododd a
chymeradwyodd y Comisiynwyr y cais a ganlyn: ·
i gynyddu cyfanswm y gyllideb o £0.773 miliwn i £84.618
miliwn; ac ·
i gynyddu’r gofyniad arian parod i’w ddyroddi gan Gronfa
Gyfunol Cymru gan £0.773 miliwn i £80.348 miliwn. a nodwyd: ·
bod y cynnydd yng nghyfanswm y gyllideb wedi’i rannu ar
draws y llinellau cyllidebol unigol y mae’r Comisiwn yn gyfrifol amdanynt. Gan
mai newidiadau yng nghostau staff yw’r newidiadau, maent yn effeithio ar yr
holl linellau cyllidebol sy’n cynnwys costau staff. Caiff y Memorandwm
Esboniadol ei gyhoeddi fel rhan o broses y Gyllideb Atodol. |
|
|
Ffyrdd o Weithio Cofnodion: Fel
rhan o’r gwaith o ehangu Siambr y Senedd, bydd rhaid symud y gwaith celf a
elwir yn ‘Calon Cymru’ er mwyn galluogi’r gwaith strwythur a sylfaen sydd ei
angen er mwyn ehangu’r Siambr i gynnwys 96 o Aelodau. Nodwyd y byddai angen
ymgynghori â'r artist a gynhyrchodd y darn yn dilyn unrhyw benderfyniad. Adolygodd
y Comisiynwyr yr opsiynau a ystyriwyd ar gyfer Calon Cymru a: ·
chymeradwywyd opsiwn
1, sef tynnu’r gwaith celf yn ei gyfanrwydd ac unioni’r lloriau; a ·
gosod y gwaith celf yn
ofalus mewn storfa (oni bai ei fod wedi’i ddifrodi yn ystod y broses symud) a
thrafod y camau nesaf ymhellach ar ôl asesu ei gyflwr. |
|
|
Materion y Seithfed Senedd Cofnodion: Cafodd y Comisiynwyr y
wybodaeth ddiweddaraf am baratoadau’r Seithfed Senedd, gan gwmpasu materion
llywodraethu, cynllunio corfforaethol, cyfathrebu ac ymgysylltu a goblygiadau
Penderfyniad y Bwrdd Taliadau Annibynnol. Cytunodd y Comisiynwyr
y byddai'n fuddiol rhoi rhagor o fanylion i'r Aelodau am y gwaith ar Siambr y
Senedd drwy’r Grŵp Cyfeirio Aelodau.
Nododd y Comisiwn ei
bod yn ofynnol ar bawb a benodwyd i’r Bwrdd Taliadau Annibynnol i weithio’n
annibynnol ac yn ddiduedd. |
|
|
Y Fframwaith Adnoddau Tymor Canolig |
|
|
Y Fframwaith Adnoddau Tymor Canolig a’r Cynllun Gweithlu Cofnodion: Cafodd y Comisiynwyr
fersiwn ddiweddaraf y Fframwaith Adnoddau Tymor Canolig, sy’n cael ei adolygu’n
flynyddol ac a gymeradwywyd gan y Bwrdd Gweithredol ar 10 Ebrill 2025. Roedd yn
cynnwys y Cynllun Ariannol Tymor Canolig diweddaraf (ar gyfer y blynyddoedd
ariannol 2026-27 i 2028-29) a'r Cynllun Gweithlu. Nododd y Comisiynwyr fersiwn ddiweddaraf y Fframwaith
Adnoddau Tymor Canolig a’r ffaith: ·
y
rhagwelir ar hyn o bryd y bydd cyfanswm y gyllideb, gan gynnwys arian wedi’i
neilltuo a’r Penderfyniad, yn codi 24% yn 2026-27, yn bennaf oherwydd ehangu’r
Senedd, sy’n golygu bydd angen cyllid ychwanegol ar gyfer lwfansau ac adnoddau
staff yr Aelodau; ac ·
mai
diben y Fframwaith Adnoddau Tymor Canolig yw llywio datblygiad cyllideb
flynyddol y Comisiwn ac nid yw’n ei ddisodli. Cytunodd
y Comisiynwyr y dylid gohirio'r gwaith ymgynghori paratoadol sy'n gysylltiedig
â chontractio mewnol, gan gynnwys y swm cyllido dangosol ar gyfer y gwaith
hwnnw (a'i ddileu o'r Fframwaith Adnoddau Tymor Canolig hwn) tan y Seithfed
Senedd, ac y dylid ail-dendro'r contract darlledu presennol yn y cyfnod interim
wrth dal i weithio o fewn y Datganiad o Egwyddorion a gymeradwywyd gan y
Comisiwn ar gyfer contractio gwasanaethau mewnol. Caiff y Fframwaith
Adnoddau Tymor Canolig wedi'i ddiweddaru ei gyhoeddi ar fewnrwyd y staff maes o
law a'i ddarparu i'r Pwyllgor Cyllid ac i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a
Gweinyddiaeth Gyhoeddus. |
|
|
Strategaeth Pobl a Diwylliant y Comisiwn Cofnodion: Cyflwynwyd y Strategaeth Pobl a Diwylliant ddrafft newydd ar gyfer
2025-2028 i’r Comisiynwyr, sydd i ddisodli Strategaeth Pobl flaenorol y
Comisiwn, sydd bellach wedi dod i ben. Mae'r Strategaeth ddrafft yn elfen
allweddol o broses gynllunio gorfforaethol Comisiwn y Senedd sy'n ceisio
cyflawni’r elfen ‘pobl’ yn Strategaeth Gorfforaethol Comisiwn y Senedd. Cymeradwyodd y Comisiynwyr: ·
y
Strategaeth Pobl ddrafft ar gyfer 2025-28, sydd eisoes wedi’i brandio ar gyfer
cyhoeddi mewnol ac allanol; ·
y
cynnig i gyhoeddi'r Strategaeth ar wefan y Comisiwn o dan adran cyhoeddiadau'r
Comisiwn, gan gysylltu â'r tudalennau recriwtio (brandio cyflogwr); Cytunodd y Comisiynwyr y dylid datblygu a
gweithredu'r protocol arfaethedig rhwng yr Aelodau, Staff Cymorth yr Aelodau a
Staff y Comisiwn cyn diwedd y Chweched Senedd. Gwnaethant hefyd nodi’r cynllun cyfathrebu arfaethedig.
Caiff y Strategaeth ei chyhoeddi’n allanol ar wefan y Senedd ac yn fewnol ar
fewnrwyd y staff. |
|
|
Papurau i’w nodi: |
|
|
Polisi Gweithio Hybrid Staff y Comisiwn Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr
bolisi staff newydd y Comisiwn ar weithio hybrid, yn ogystal â'r cyd-destun
sy'n golygu bod angen cyflwyno'r polisi hwn. Caiff y polisi ei gyhoeddi ar
fewnrwyd y staff. |
|
|
Polisi Urddas a Pharch Staff y Comisiwn Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr
newidiadau a wnaed i bolisi urddas a pharch staff y Comisiwn, yn dilyn
adolygiad diweddar, yn ogystal â'r cyd-destun a arweiniodd at yr adolygiad.
Caiff y polisi ei gyhoeddi ar fewnrwyd y staff. |
|
|
Llythyr y Llywydd ynghylch Cerflun Rhodri Morgan Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
llythyr gan y Llywydd at Drysorydd Cronfa Cerflun Rhodri Morgan yn gofyn am
eglurhad o ran y cynlluniau ariannu. |
|
|
Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC) a gynhaliwyd ar 10 Chwefror Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
diweddariad a ddarperir fel mater o drefn i’r Comisiwn am gyfarfodydd y
Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg. |
|
|
Diweddariad y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD) Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
crynodeb o benderfyniadau recriwtio a ddarperir fel mater o drefn i bob
cyfarfod o'r Comisiwn. |
|
|
Unrhyw fater arall Cofnodion: Yn y cyfnod ers y cyfarfod
diwethaf, cytunodd y Comisiynwyr ar ddau gais gan y Prif Weithredwr: ·
ar
gyfer ddau benodiad a dau ailbenodiad o aelodau i’r Bwrdd Taliadau, dyddiedig
27 Mawrth; ac ·
i
lansio ymgyrch recriwtio ar gyfer swydd Cyfarwyddwr Busnes y Senedd, dyddiedig
7 Ebrill Nodwyd hefyd : ·
llythyr
gan y Llywydd, dyddiedig 31 Mawrth, yn cynnig gohirio’r rhaglen ddogfen y tu ôl
i’r llenni tan ar ôl yr Etholiad ym mis Mai 2026; ac ·
ar 3
Ebrill ddau lythyr gan y Prif Weithredwr a’r Clerc at y: -
Pwyllgor
Busnes ynghylch yr adolygiad o brosesau’r Senedd sy’n ymwneud â Biliau
Cyhoeddus a Biliau Aelod, dyddiedig 3 Ebrill 2025; a’r -
Pwyllgor
Safonau Ymddygiad, ynghylch yr ymchwiliad i Gofrestru a Datgan Buddiannau,
dyddiedig 25 Mawrth 2025. |
PDF 280 KB