Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Hybrid - Digital. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sulafa Thomas
| Rhif | Eitem |
|---|---|
|
Cyflwyniad |
|
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau. |
|
|
Datgan buddiannau Cofnodion: Gwnaed datganiadau o fuddiant gan Hefin David mewn perthynas â Chyfamod y
Lluoedd Arfog a’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ar Bensiwn (gweler rhagor o
fanylion isod). |
|
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y Comisiynwyr ar gofnodion y cyfarfod ar 17 Chwefror 2025. |
|
|
Ffyrdd o Weithio - Prosiect Bae 32 Cofnodion: Cafodd y Comisiynwyr y
wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y broses cyn-gymhwyso’r contract ar gyfer
prosiect Bae 32, a’r amserlen ddangosol ar gyfer y broses o ran deialog
gystadleuol. Nododd Hefin David fod
y Pwyllgor Cyllid yn cynnal sesiynau craffu cyhoeddus a phreifat ar brosiect
Bae 32 ar 27 Mawrth. Trafododd y
Comisiynwyr yr amserlen ar gyfer y prosiect, ac fe’u hatgoffwyd, pe bai adeilad
newydd yn opsiwn a ffefrir, byddai angen ei gwblhau erbyn 2030 ar gyfer ei
feddiannu yn 2032. Nodwyd hefyd fod yr amserlen bresennol yn rhagweld y
byddai’r Comisiwn yn gwneud penderfyniad ar yr ateb a ffefrir erbyn diwedd y
flwyddyn galendr 2025; nid oedd modd hyd yma i lunio’r amserlen ar gyfer y
camau nesaf yn dilyn y penderfyniad hwnnw, yn arwain at ddyfarnu’r contract,
gan y byddai’n dibynnu ar natur a chyd-destun y penderfyniad o ran yr ateb a
ffefrir, nad oedd modd ei ragweld eto. Nododd y Comisiynwyr
gynnydd y prosiect. |
|
|
Ymateb i adolygiad y Pwyllgor Busnes o’r prosesau ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod Cofnodion: Mae'r Pwyllgor Busnes
yn adolygu prosesau’r Senedd ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod i nodi
beth sy’n gweithio’n dda a beth y gellid ei wella. Mae’r Pwyllgor Busnes wedi
ysgrifennu at y Comisiwn yn gofyn am dystiolaeth ysgrifenedig i lywio’r gwaith
hwn. Cymeradwyodd y
Comisiynwyr y llythyr at y Pwyllgor Busnes. Caiff y llythyr ei
gyhoeddi gan y Pwyllgor Busnes fel rhan o’i Adroddiad, ar ôl cwblhau’r
ymgynghoriad cyhoeddus. |
|
|
Llythyr at y Pwyllgor Cyllid, y wybodaeth ddiweddaraf am yr argymhellion Cofnodion: Cyhoeddodd y Pwyllgor Cyllid ei Adroddiad Craffu ar y
Gyllideb Ddrafft 2025-26 ym mis Hydref 2024, gan wneud 17 o argymhellion i'r
Comisiwn, ac mae’r Comisiwn wedi darparu ymateb cychwynnol i’r rhain. Bydd diweddariad pellach yn cael ei ddarparu i ymdrin â
nifer o argymhellion y Pwyllgor. Cytunodd y Comisiynwyr ar y llythyr drafft a'r atodiadau. Bydd y llythyr a’r
atodiadau’n cael eu darparu i’r Pwyllgor Cyllid a fydd yn eu cyhoeddi fel rhan
o bapurau cyfarfod y Pwyllgor, ar wahân i’r Cynllun Cyfathrebu ac Ymgysylltu
(Atodiad 3), a fydd yn parhau i fod yn gyfyngedig. |
|
|
Cynllun pensiwn Aelodau o’r Senedd: Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth Cofnodion: Fe wnaeth Hefin David ddatgan buddiant fel aelod o’r
Bwrdd Pensiynau. Mae Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth wedi’i sefydlu rhwng y
Bwrdd Taliadau, y Comisiwn a’r Bwrdd Pensiynau ac mae gan bob un o’r rhain rôl
yn y gwaith o lywodraethu Cynllun Pensiwn Aelodau o’r Senedd. Rhoddwyd gwybod i’r
Comisiynwyr am newidiadau i'r ddogfen er mwyn ei diweddaru, i adlewyrchu'r
cytundeb presennol rhwng y tri pharti a gofynion presennol y Rheoleiddiwr
Pensiynau. Bu'r Comisiynwyr yn
ystyried y newidiadau i'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, ac fe’u cymeradwywyd. |
|
|
Cyfamod y Lluoedd Arfog Cofnodion: Datganodd Hefin David
fuddiant gan fod ei Uwch Weithiwr Achos yn Aelod Wrth Gefn yn yr RAF. Mae Samuel Kurtz AS,
ar ran Grŵp Ceidwadwyr Cymru, wedi gofyn i’r Comisiwn lofnodi Cyfamod y
Lluoedd Arfog yn ffurfiol ac ymrwymo i’r Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y
Weinyddiaeth Amddiffyn. Er nad yw’r Comisiwn wedi llofnodi’r cyfamod
ar hyn o bryd, mae’r Comisiwn yn cefnogi cyflogeion sy’n gwasanaethu yn y
Lluoedd Wrth Gefn neu’r Cadetiaid. Nododd Janet Finch-Saunders ei chefnogaeth gref i
lofnodi’r Cyfamod ac ymuno â’r Cynllun. Cytunodd y Comisiynwyr ar bwysigrwydd gwahaniaethu rhwng
y Cyfamod a’r Cynllun o ran edrych yn fanwl ar ddichonoldeb y Comisiwn yn dod
yn llofnodwr. Trafododd y
Comisiynwyr y cais a gofynnwyd i’r Gwasanaeth Adnoddau Dynol gynnal adolygiad o
ddymunoldeb neu fel arall llofnodi’r Cyfamod a/neu’r Cynllun, a dod â’r
argymhellion/opsiynau yn ôl gerbron y Comisiwn i’w hystyried mewn cyfarfod yn y
dyfodol, a rhoi gwybod i Sam Kurtz AS am y penderfyniad hwn. |
|
|
Cynigion rhaglen ddogfen ITV Cymru Cofnodion: Gofynnwyd i Gomisiwn y Senedd gymeradwyo
cynnig i ddatblygu a ffilmio rhaglen ddogfen ddwyieithog y tu ôl i’r llenni am
waith y Senedd, a fyddai’n cynnwys pedair pennod 30 munud o hyd, a gomisiynir
ar y cyd gan ITV ac S4C. Ystyriodd y Comisiynwyr fanylion yr hyn sy'n cael ei
gynnig, ynghyd â dadansoddiad o ran cryfderau, gwendidau, cyfleoedd,
bygythiadau (SWOT) y cynnig. Cytunodd y Comisiynwyr
ynghylch pa mor bwysig yw gofyn am eglurder gan ITV ynghylch yr amserlen ar
gyfer cynhyrchu a darlledu’r gyfres deledu. Rhoddodd y Comisiynwyr
y dasg o ofyn am eglurder gan ITV ynghylch yr amserlen i’r swyddogion, a
dywedodd y Llywydd y bydd hi’n cael sgyrsiau pellach gyda Chadeiryddion y
Grwpiau am y cynigion. |
|
|
Papurau i’w nodi: |
|
|
Ymgysylltiad y Gyllideb Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
Strategaeth Ymgysylltu ar gyfer Cyllideb Flynyddol y Comisiwn, i sicrhau y ceir
ymgysylltiad a llais yr Aelodau yn y broses o ddatblygu’r Gyllideb. |
|
|
Deddf Diogelu Gweithwyr – y canllawiau i’r Aelodau wedi’u diweddaru Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
canllawiau a'r dogfennau templed sydd wedi'u cynhyrchu i gynorthwyo’r Aelodau i
gydymffurfio â'u dyletswydd fel cyflogwyr o dan Ddeddf Diogelu Gweithwyr
(Diwygio Deddf Cydraddoldeb 2010) 2023; i gymryd camau rhesymol i atal aflonyddu
rhywiol ar eu gweithwyr. |
|
|
Diweddariad y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD) Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
crynodeb o benderfyniadau recriwtio a ddarperir fel mater o drefn i bob
cyfarfod o'r Comisiwn. |
|
|
Unrhyw fater arall Cofnodion: Nododd Adam Price ei
fod wedi ysgrifennu at y Prif Weithredwr a’r Clerc ynglŷn â sgiliau
Cymraeg staff cymorth yr Aelodau. Gofynnodd am ganiatâd i swyddogion y Comisiwn
baratoi ymateb ar gyfer ymgynghoriad y Bwrdd Taliadau Annibynnol ar staffio ar
gyfer y Seithfed Senedd, o ran sut y gellid adolygu sgiliau iaith yr Aelodau
a’u staff. Trafododd y
Comisiynwyr y mater o awdurdodaeth mewn cysylltiad â’r Aelodau fel cyflogwyr. Cytunwyd y byddai
swyddogion y Comisiwn yn gweithio gyda Joyce Watson ac Adam Price, fel deiliaid
y portffolios perthnasol, i sefydlu dealltwriaeth gyffredin o’r hyn sy’n cael
ei gynnig o ran ymgynghoriad y Bwrdd Taliadau Annibynnol a’r adolygiad o sgiliau
iaith. Yn y cyfnod ers y
cyfarfod diwethaf, roedd y Comisiynwyr wedi cytuno: ·
Ar lythyr gan Hefin
David at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid a Chadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, a anfonwyd ar 14 Mawrth 2025, i roi gwybod iddynt am
y dull a ddefnyddir i reoli’r gyllideb sydd wedi’i chlustnodi ar gyfer Diwygio’r
Senedd yn ystod y flwyddyn. Nodasant hefyd: ·
lythyr gan y Prif
Weithredwr at Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad a anfonwyd ar 17 Mawrth
2025, ynghylch yr awgrymiadau i annog cyfradd ymateb uwch i arolygon Urddas a
Pharch yn y dyfodol gan Aelodau a’u Staff Cymorth, a ·
llythyr gan Gadeirydd
Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig at Gadeirydd y Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a anfonwyd ar 3 Mawrth 2025,
ynghylch y Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Hawliau Cyflogaeth ac yn ymwneud â'i
gymhwyso o ran y Comisiwn. |
PDF 282 KB