Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sulafa Thomas 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad

1.a

Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau.

1.b

Datgan buddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.

1.c

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Comisiynwyr ar Gofnodion y cyfarfod ar 20 Ionawr 2025.

2.

Materion y Seithfed Senedd

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr dri mater yn ymwneud â phontio i’r Seithfed Senedd: diweddariad ar raglen y Seithfed Senedd; cynllun yr ymgyrch Cyfathrebu ac Ymgysylltu ar gyfer yr etholiad; a chymorth all-leoli.

2.a

Diweddariad ar Raglen y Seithfed Senedd

Cofnodion:

Cafodd y Comisiwn y wybodaeth ddiweddaraf am raglen y Seithfed Senedd a’i gwaith wrth baratoi ar gyfer pontio i’r Seithfed Senedd.

Gwnaethant drafod defnyddioldeb cael diweddariadau ac ystyriwyd y potensial i wella rheoleidd-dra'r wybodaeth a ddarperir, yn ffurfiol neu'n anffurfiol. Holodd y Comisiynwyr am gwmpas y rhaglen a gofynnwyd am gadarnhad y byddai’n ddigon hyblyg i ymgorffori materion pellach sy’n dod yn berthnasol, er enghraifft datblygiad y Cynllun Ieithoedd Swyddogol nesaf neu ddeddfwriaeth ychwanegol.

Nododd y Comisiynwyr y papur.

2.b

Cynllun ymgyrch Cyfathrebu ac Ymgysylltu - Etholiad 2026

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr gynigion ar gyfer trydydd cam y cynlluniau ar gyfer cyfathrebu ac ymgysylltu â’r cyhoedd ynghylch newidiadau sy’n deillio o Fil Diwygio’r Senedd, a fydd yn dechrau ym mis Mai 2025, gyda blwyddyn i fynd, hyd at etholiad 2026.

Nododd y Comisiynwyr amcanion cyffredinol trydydd cam yr ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o’r newidiadau i’r Senedd, cynyddu dealltwriaeth o rôl y Senedd a’i Haelodau, ac annog cyfranogiad o etholiad y Senedd. Cytunwyd ar y dull cyffredinol o ymdrin â thrydydd cam yr ymgyrch a'r dull o dargedu cynulleidfaoedd; gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys gwaith i ddatblygu partneriaethau corfforaethol gyda nifer o gyflogwyr yng Nghymru, ymestyn yr awgrymiadau a wnaed i gwmpasu Ochr yr Undebau Llafur a Ffederasiwn y Busnesau Bach; a rheoli sesiynau addysg mewnol i dimau er mwyn caniatáu amser i ysgolion â phobl ifanc 16-18 oed archebu slot ac yna rhyddhau'r slotiau sy'n weddill i bob grŵp oedran arall er mwyn parhau i ateb brwdfrydedd grwpiau ysgolion cynradd.

Cytunodd y Comisiynwyr hefyd fod gwaith yn parhau i bwyso a mesur cynnig ITV Cymru ac S4C am gyfres ddogfennol ar y Senedd gyda ffocws ar staff ac Aelodau, gyda gwaith ymgysylltu i ddigwydd gyda grwpiau’r pleidiau a gwybodaeth bellach i gael ei chyflwyno i gyfarfod y Comisiwn yn y dyfodol.

2.c

Cymorth All-leoli

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr gwmpas y cymorth all-leoli (newid gyrfa) sydd i’w ddarparu i Aelodau a’u staff a fydd yn gadael yn sgil etholiad y Senedd yn 2026. 

Cytunodd y Comisiynwyr y dylai darpariaeth all-leoli gael ei gwneud fel yr amlinellwyd yn y papur ar gyfer Aelodau sy’n gadael a’r rhai a fydd yn colli eu seddi, a’r holl staff cymorth a fydd yn colli eu swyddi. Teimlai’r Comisiynwyr y gallai rhai Aelodau elwa ar gael cymorth tebyg i’r hyn a gynigir wrth nesáu at ymddeol.

Byddai ymarfer caffael yn cael ei gynnal ar gyfer y cyfryw wasanaethau yn ystod 2025.

3.

Defnydd Comisiwn y Senedd o Ddeallusrwydd Artiffisial

Cofnodion:

Cafodd y Comisiynwyr ddiweddariad ar y camau sy’n cael eu cymryd i sicrhau bod fframwaith ar gyfer y defnydd diogel, moesegol a chydymffurfiol o Ddeallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol yng Nghomisiwn y Senedd.

Gwnaethant drafod persbectif gwahanol Apiau AI, a chafwyd sicrwydd am y gwaith a wnaed i sicrhau bod unrhyw raglen sy’n cael ei defnyddio gan y Comisiwn mor ddiogel â phosibl.

Nododd y Comisiynwyr y wybodaeth a ddarparwyd a chytunwyd ar ddull y Comisiwn o ddefnyddio AI.

4.

Ymateb i argymhellion Adroddiad Craffu ar Gyfrifon y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar gyfer 2023-24

Cofnodion:

Roedd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus wedi gwneud chwe argymhelliad i’r Comisiwn yn ei Adroddiad Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2023-24.

Trafododd y Comisiynwyr yr ymatebion a chytunwyd arnynt. Bydd y llythyr yn cael ei ddarparu i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus a fydd yn ei gyhoeddi fel rhan o bapurau cyfarfod y pwyllgor.

5.

Ymateb i ymgynghoriad y Bwrdd Taliadau Annibynnol ar yr adolygiad blynyddol o’r Penderfyniad

Cofnodion:

Roedd y Bwrdd Taliadau Annibynnol wedi cyhoeddi ymgynghoriad yn ymwneud â’i adolygiad blynyddol o’r Penderfyniad.

Cytunodd y Comisiynwyr ar eu hymateb i ymgynghoriad y Bwrdd, a nodwyd yr ymateb a anfonwyd gan y Prif Weithredwr a’r Clerc.

Nododd y Comisiynwyr y gallai cynnwys yr ymateb gael ei gynnwys yn yr adroddiad cyhoeddedig ar yr adolygiad blynyddol.

6.

Papurau i’w nodi:

6.a

Cynllun Pensiwn Aelodau o'r Senedd - Rhwymedi McCloud

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr y goblygiadau treth posibl a nodwyd yn sgil gweithredu 'rhwymedi McCloud' ar gyfer Cynllun Pensiwn Aelodau o’r Senedd (“y Cynllun”). Fe'u hysbyswyd y bydd y tîm pensiynau'n ysgrifennu at yr Aelodau yr effeithir arnynt yn nodi eu hopsiynau o dan y rhwymedi ac yn darparu'r wybodaeth angenrheidiol i'r Aelodau hynny wneud dewis ynghylch eu buddion pensiwn.

6.b

Llythyr gan y Prif Weithredwyr at y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ynglŷn â thrais ar sail rhywedd

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr y llythyr gan y Prif Weithredwr a’r Clerc at y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y trefniadau i ddarparu cyfleoedd hyfforddi i Aelodau i gefnogi argymhelliad y Pwyllgor i Aelodau gael hyfforddiant ar atal trais ar sail rhywedd.

6.c

Llythyr gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ynglŷn â’r Arolwg Urddas a Pharch

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr y llythyr gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad mewn ymateb i ganlyniadau’r Arolwg Urddas a Pharch. Bydd ymateb drafft yn cael ei baratoi ar gyfer ei gytuno mewn cyfarfod o'r Comisiwn yn y dyfodol.

6.d

Cofnodion y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC) 18 Tachwedd 2024

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr y diweddariad a ddarperir fel mater o drefn i’r Comisiwn am gyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg.

6.e

Diweddariad y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD)

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr y crynodeb o benderfyniadau recriwtio a ddarperir fel mater o drefn i bob cyfarfod o'r Comisiwn.

7.

Unrhyw fater arall

Cofnodion:

Codwyd cwestiwn mewn perthynas â rôl swyddogion cofrestru etholiadol ar gyfer cofrestriadau pleidleiswyr, a hysbyswyd y Comisiynydd bod modd gofyn i’r Gwasanaethau Cyfreithiol am nodyn, er nad yw'n fater i'r Comisiwn.

 

Yn y cyfnod ers y cyfarfod diwethaf, roedd y Comisiynwyr wedi nodi:

·         llythyr gan y Llywydd at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a anfonwyd ar 13 Chwefror 2025, yn ymwneud â’r Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Hawliau Cyflogaeth, a

llythyr gan y Llywydd at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, dyddiedig 28 Ionawr 2025, ynghylch penderfyniad y Comisiwn i symud ymlaen i gam caffael prosiect Bae 2032.