Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Digital. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sulafa Thomas 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad

1.a

Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau.

1.b

Datgan buddiant

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.

1.c

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Comisiynwyr ar Gofnodion y cyfarfod ar 9 Rhagfyr 2024. Roedd un mater yn codi o’r cofnodion, a gafodd ei drafod ar ddiwedd y cyfarfod.

2.

Ail Gyllideb Atodol 2024-25

Cofnodion:

Cymeradwyodd y Senedd Gyllideb y Comisiwn ar gyfer 2024-25, yn dilyn gwaith craffu gan y Pwyllgor Cyllid ym mis Tachwedd 2023. Cafodd Cyllideb Atodol gyntaf y Comisiwn ar gyfer 2024-25 ei gosod ym mis Hydref 2024 ac fe’i cynhwyswyd yng nghynnig Cyllideb Atodol Llywodraeth Cymru yn yr un mis yn dilyn gwaith craffu gan y Pwyllgor Cyllid. 

Ystyriodd y Comisiynwyr y gofyniad am ail Gyllideb Atodol, gan leihau’r gyllideb gyffredinol £2.300 miliwn a’r gofyniad arian parod net £0.900 miliwn. Roedd hyn yn adlewyrchu ymrwymiad y Comisiwn i ddychwelyd cyllid o ddwy gyllideb wedi'u neilltuo lle mae tanwariant wedi digwydd yn ystod y flwyddyn:

·     o'r Penderfyniad ar Gyflogau a Lwfansau Aelodau (lleihau llinell waelod y gyllideb gyfan ond dim effaith ar y gyllideb weithredol); 

·     o'r gyllideb wedi'i neilltuo ar gyfer y rhaglen Ffyrdd o Weithio (lleihau llinell waelod y gyllideb gyfan, dim effaith ar y gyllideb weithredol);

a mân addasiadau yn ystod y flwyddyn i'r gyllideb a osodwyd o:

·     danwariant ar y gyllideb Gwariant a Reolir yn Flynyddol ar gyfer pensiynau Aelodau (lleihau llinell waelod y gyllideb gyfan, dim effaith ar y gyllideb weithredol).

Cymeradwyodd y Comisiynwyr y Gyllideb Atodol i’w chynnwys yng nghynnig cyllideb Chwefror 2025 Llywodraeth Cymru. Gwnaethant hefyd gymeradwyo’r llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid i gynghori ar y bwriad i osod Ail Gyllideb Atodol.

Disgwylir i'r Pwyllgor Cyllid ystyried y Memorandwm Esboniadol yn ddiweddarach ym mis Ionawr, ac ar ôl hynny byddai'n cael ei osod a bydd ffigurau diwygiedig cyllideb y Comisiwn yn cael eu cynnwys yng nghyllideb atodol Llywodraeth Cymru.

3.

Canlyniadau’r Arolwg Urddas a Pharch

Cofnodion:

Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Comisiynwyr am weithgareddau sy'n ymwneud ag urddas a pharch.

Nododd y Comisiynwyr ganlyniadau arolwg Urddas a Pharch y Senedd 2024; a chytunodd y dylid rhannu’r camau gweithredu a nodir yn adroddiad yr arolwg â'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad, y Comisiynydd Safonau a’r Bwrdd Taliadau Annibynnol, gyda’r disgwyliad y bydd y Pwyllgor yn cyhoeddi'r adroddiad, ynghyd â gohebiaeth fewnol ac allanol briodol.

Wrth rannu’r adroddiad, mynegodd y Comisiwn bryder am y gyfradd ymateb isel gan yr Aelodau a’u staff cymorth a chytunodd i amlygu hyn a gofynnodd i’r Pwyllgor ystyried unrhyw gamau pellach a allai wella hyn.

Nododd y Comisiynwyr hefyd y diweddariad ar gynnydd gweithgarwch a gyflawnwyd ers mis Mehefin 2023; a goblygiadau Deddf Diogelu Gweithwyr (Diwygio Deddf Cydraddoldeb 2010) 2023 a'r cynllun gweithredu dilynol. Cytunwyd y dylai'r gyfres newydd o ddogfennau gwybodaeth a thempledi ar gyfer Aelodau ddod gyda chynnig, pan gaiff ei lansio, i uwch swyddog o'r Comisiwn fynychu cyfarfodydd grŵp i amlinellu goblygiadau'r Ddeddf i gyflogwyr.

4.

Datganiadau ynghylch Awydd y Comisiwn am Risg

Cofnodion:

Cyflwynwyd y gwaith a wnaed gan y Bwrdd Gweithredol i’r Comisiynwyr i ddatblygu set o ddatganiadau awydd am risg er mwyn iddynt eu trafod a’u cymeradwyo. Fel y nodir yn Egwyddorion Llywodraethu a Darpariaethau Ategol y Comisiwn, cyfrifoldeb y Comisiwn yw pennu awydd y sefydliad am risg.

Nododd Comisiynwyr mai rhan sylweddol o’u defnydd arfaethedig yw rhoi arweiniad clir i swyddogion sy’n drafftio strategaethau, cynlluniau a chynigion a bydd yn dylanwadu ar yr opsiynau y maent yn eu hargymell i’r Bwrdd Gweithredol a/neu’r Comisiwn.

Mae’r diffiniadau ar gyfer yr ystod o lefelau awydd (o Wrthwynebus i Awyddus), yn seiliedig ar ganllawiau Trysorlys EM ar reoli risg (sy’n cael ei alw yn Llyfr Oren).

Trafododd ac ystyriodd y Comisiynwyr y lefelau awydd risg ar gyfer pob categori o risg, a chawsant gyngor am yr opsiwn a ffefrir ganddynt ar gyfer lefel awydd risg. Gwnaethant ofyn i'r datganiad yn ymwneud â newid a thrawsnewid gynnwys cyfeiriad penodol at achosion busnes.

Caiff y datganiadau ynghylch yr awydd am risg eu cyhoeddi’n fewnol a’u hymgorffori mewn dogfennaeth ynghylch Rheoli Risg.  Gwnaethant gytuno y bydd y datganiadau yn cael eu hadolygu a’u hail-raddnodi ar ôl blwyddyn o'u defnyddio, ac yna bob blwyddyn wedi hynny, er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn addas i'r diben.

5.

Strategaeth Newid Senedd 26

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr Strategaeth Newid Senedd 26, sy’n darparu cynllun y Comisiwn ar gyfer pontio’n ddi-dor i’r Seithfed Senedd a’i chefnogi yn ystod y flwyddyn gyntaf.

Mae’r strategaeth newid yn cefnogi’r gwaith o gyflawni’r Cynllun Corfforaethol, sef dogfen gynllunio gyffredinol, hirdymor y Comisiwn o hyd. Roedd creu’r strategaeth wedi sbarduno addasiadau i'r Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2024-26 (darparwyd er mwyn ei nodi).

Gwnaeth y Comisiynwyr drafod a nodi’r strategaeth ac y byddai’r diweddariadau cynnydd tymhorol yn cael eu darparu, ynghyd â phapurau ychwanegol sy’n ymwneud ag unrhyw elfennau penodol o sylwedd y mae angen eu hystyried ar wahân, yn ôl yr angen.

6.

Diweddariad Canol Blwyddyn ar y Dangosyddion Perfformiad Allweddol

Cofnodion:

Adolygodd y Comisiynwyr y diweddariad Dangosyddion Perfformiad Allweddol canol blwyddyn rheolaidd. Nodwyd y sefyllfa Dangosyddion Perfformiad Allweddol canol blwyddyn a bod y perfformiad at ei gilydd yn foddhaol ac yn gyson ar y cyfan, gyda llawer o welliannau neu ostyngiadau mewn perfformiad sy’n ymylol eu natur. Gwnaethant drafod y Dangosyddion Perfformiad Allweddol yn ymwneud ag ymwelwyr ac ymgysylltu â'r cyfryngau.

Bydd alldro terfynol y Dangosyddion Perfformiad Allweddol yn ffurfio rhan o Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2024-25.   

7.

Papurau i'w nodi:

7.a

Cynllun Corfforaethol Diwygiedig 2024-26

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr fersiwn wedi’i diweddaru o Gynllun Corfforaethol 2024-26, sy’n adlewyrchu datblygu Strategaeth Newid Senedd 26. Mae’r newidiadau wedi’u cyfyngu i gael gwared ar gynnwys a chamau gweithredu a fyddai fel arall wedi’u dyblygu rhwng Cynllun Corfforaethol 24-25 a Strategaeth Newid Senedd 26; ac esbonio sut mae cynllun Senedd 26 a’r Cynllun Corfforaethol yn ymwneud â’i gilydd.

7.b

Diweddariad y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD)

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr y crynodeb o benderfyniadau recriwtio a ddarperir fel mater o drefn i bob cyfarfod o’r Comisiwn.

8.

Unrhyw Fater Arall

Cofnodion:

·         Prosiect Bae 32 – yn dilyn ymgysylltu pellach, awdurdododd y Comisiynwyr y prosiect i ddechrau’r broses gaffael gystadleuol arfaethedig drwy gyhoeddi Hysbysiad Contract. Mae hyn ar y sail y byddai ymgysylltiad pellach yn yr hydref, cyn unrhyw benderfyniadau allweddol.

·         Diweddariad ar benodiadau IRB, cytunodd y Comisiynwyr i wneud y penderfyniad angenrheidiol drwy ohebiaeth

·         Atgoffwyd y Comisiynwyr y byddai'r cyfarfod nesaf ar gyfer deialog y Comisiwn/IRB yn cael ei gynnal y prynhawn hwnnw.

·         Cafodd y Comisiynwyr eu diweddaru ar faterion staffio ym mhresenoldeb y swyddogion canlynol: Matthew Richards a Leanne Baker.

·         Yn y cyfnod ers y cyfarfod diwethaf, roedd y Comisiynwyr wedi nodi llythyr oddi wrth y Prif Weithredwr a’r Clerc, ar 17 Ionawr 2025, i hysbysu Comisiynwyr o swydd wag ar y Bwrdd Taliadau.