Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Lleoliad Allanol. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sulafa Thomas
| Rhif | Eitem |
|---|---|
|
Cyflwyniad |
|
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau. |
|
|
Datgan buddiant Cofnodion: Ni chafwyd dim
datganiadau o fuddiant. |
|
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y Comisiynwyr ar Gofnodion y cyfarfod ar 23 Medi. |
|
|
Cyllideb 2025-26 Comisiwn y Senedd Cofnodion: Rhoddodd y Comisiynydd sydd â phortffolio’r gyllideb a
llywodraethiant ddiweddariad ar gynnydd Cyllideb 2025-26 Comisiwn y Senedd yn
dilyn gwaith craffu gan y Pwyllgor Cyllid ar 3 Hydref. Cynigiodd y Comisiynydd ymatebion i bob un o argymhellion
y Pwyllgor, a gyhoeddwyd ar 22 Hydref. Cytunodd y Comisiynwyr ar gynnwys eu
hymateb i'r adroddiad. Cymeradwyodd y Comisiynwyr hefyd Gyllideb Derfynol
Comisiwn y Senedd ar gyfer 2025-26, heb y cyllid ychwanegol o £0.456m y
gofynnwyd amdano drwy Gyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer
2024-25, a gytunwyd gan y Senedd yn ystod y Cyfarfod Llawn ar 22 Hydref. Cytunodd y Comisiynwyr y byddai gwaith meincnodi pellach,
manylach o ran strwythurau gyda chyrff cymheiriaid yn cael eu cynnal maes o
law, ar adeg pan na fyddai'n dargyfeirio adnoddau oddi wrth waith Diwygio'r
Senedd neu baratoadau etholiadol a phan fyddai 'cyflwr sefydlog' ar y sefydliad
staffio wedi'i chyflawni mewn perthynas â chefnogi Senedd fwy. Tynnodd un Comisiynydd sylw at safbwynt barhaus eu
grŵp o wrthwynebu Diwygio'r Senedd a'r costau cysylltiedig. Byddai dogfen y Gyllideb Derfynol ar gyfer 2025-26 yn
cael ei gosod ar 13 Tachwedd 2024 gyda’r Cynnig Cyllidebol i gael ei drafod yn
y Cyfarfod Llawn ar 20 Tachwedd 2024. |
|
|
Ffyrdd o Weithio - Tŷ Hywel Cofnodion: Cafodd y Comisiynwyr grynodeb o’r gwaith diweddar ar
brosiect Tŷ Hywel 26 a thrafodwyd opsiynau terfynol ar gyfer creu’r 36 o
swyddfeydd Aelodau newydd yn adeilad Tŷ Hywel, er mwyn galluogi caffael ar
gyfer y prosiect a dechrau’r gwaith yn y flwyddyn
ariannol bresennol. Nododd y Comisiynwyr y
gwaith a'r ymgysylltu a wnaed hyd yma. Codwyd nifer o bwyntiau ganddynt i
gefnogi bod y ddarpariaeth yn ddigon hyblyg i ddarparu ar gyfer anghenion fel
hygyrchedd corfforol, i gefnogi niwroamrywiaeth, ac i ddarparu amrywiaeth o
gynigion i ddiwallu anghenion Aelodau'r dyfodol. Cytunwyd ar yr opsiynau a
argymhellir ar gyfer creu
'swyddfeydd sengl
safonol' ar 2A yn Nhŷ Hywel (opsiwn 3). |
|
|
Materion y Seithfed Senedd Cofnodion: Trafododd y Comisiynwyr y ddau argymhelliad a wnaed i’r Comisiwn yn
Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Biliau Diwygio ar Fil Senedd Cymru (Rhestrau
Ymgeiswyr Etholiadol). Er bod y Bil wedi'i dynnu'n ôl gan y Llywodraeth, nid oedd y materion yn y
ddau argymhelliad a wnaed i'r Comisiwn yn dibynnu ar gynnydd y Bil. Trafododd y Comisiynwyr eu hymateb, a chytunwyd i dderbyn argymhelliad 21,
a darparu rhagor o wybodaeth am sut y byddai hyn yn cael ei wneud. Cytunwyd hefyd i dderbyn argymhelliad 20 i gynnal archwiliad sy’n sensitif
i rywedd. Cytunodd y Comisiynwyr i amlinellu i’r Pwyllgor y rhoddir ystyriaeth,
yn awr, i benderfynu ar gwmpas yr archwiliad, a’r dull gorau posibl o’i
gyflawni, ynghyd ag adnoddau cysylltiedig, er mwyn sicrhau y byddai
canlyniadau’r archwiliad ar gael mewn da bryd i lywio penderfyniadau ar
brosiect Bae Caerdydd 2032, a phenderfyniadau i’w gwneud gan y Seithfed Senedd
am ei ffyrdd o weithio. Cytunodd y Comisiynwyr
y byddai Joyce Watson yn arwain ar y gwaith hwn, gan gynnwys y gwaith cwmpasu
cychwynnol, ac y byddai'n dychwelyd at y Comisiwn gyda chynigion ar gyfer
cwmpas a’r dull gorau posibl o gyflawni. |
|
|
Papurau i'w nodi: |
|
|
Llythyr y Swyddfa Gartref ynghylch: Bil Terfysgaeth (Diogelu Mangreoedd) – 12 Medi 2024 Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr
lythyr gan y Gweinidog Diogelwch at y Llywydd ynghylch darpariaethau’r Bil
Terfysgaeth (Diogelu Mangreoedd) mewn perthynas â’r Senedd. |
|
|
Nodyn ar feincnodi absenoldeb salwch Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
data a gwybodaeth am absenoldeb salwch yn dilyn eu cais am ddadansoddiad
pellach a meincnodi. |
|
|
Diweddariad y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD) Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
crynodeb o benderfyniadau diweddar o ran recriwtio. |
|
|
Nodiadau Cyfarfod Grŵp Cyswllt Pleidiau’r Senedd ar 26 Medi Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr
grynodeb o gyfarfod Grŵp Cyswllt Pleidiau’r Senedd ar 26 Medi. |
|
|
Nodyn diweddaru Grŵp Cyswllt Pleidiau’r Senedd ar gyfer Gorffennaf 2024 Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
diweddariad a ddarparwyd i aelodau Grŵp Cyswllt Pleidiau’r Senedd ym mis
Gorffennaf. |
|
|
Llythyr gan y Pwyllgor Busnes, dyddiedig 22 Hydref, yn gwahodd ymgynghoriad ar rannu swydd cadeirydd pwyllgor Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr
lythyr gan y Pwyllgor Busnes, dyddiedig 22 Hydref, yn gwahodd gwybodaeth am
unrhyw oblygiadau i adnoddau’n ymwneud â chynigion ar gyfer rhannu swydd
cadeirydd pwyllgor, a chytunwyd i dderbyn ymateb drafft y tu allan i'r
cyfarfod. |
|
|
Unrhyw fater arall Cofnodion: Recriwtio i’r Bwrdd Taliadau - Rhoddwyd diweddariad byr i'r Comisiwn ar y
cynlluniau ar gyfer y recriwtio angenrheidiol i'r Bwrdd Taliadau Annibynnol. Senedd y Dyfodol - Gofynnodd un Comisiynydd am gwmpas y gwaith a fyddai'n
cael ei wneud gan Bwyllgor Senedd y Dyfodol sydd newydd ei sefydlu. Cytunodd y
Llywydd i ofyn am wybodaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor. Cyflwynwyd papur i’r Comisiynwyr yn ymwneud â
mater staffio, ym mhresenoldeb y swyddogion canlynol: Matthew Richards, Leanne Baker a Simon Hart.
Derbyniodd y Comisiynwyr yr argymhelliad a nodwyd yn y papur. Yn y
cyfnod ers y cyfarfod diwethaf roedd y Comisiynwyr wedi cytuno ar addasiadau
terfynol i lythyr gan Hefin David AS at y Pwyllgor Cyllid, dyddiedig 27 Medi
2024, er mwyn egluro bod cynnwys y llythyr yn cynnwys yr ymateb i Argymhelliad
2 o adroddiad y Pwyllgor o'r flwyddyn flaenorol. |
PDF 281 KB