Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sulafa Thomas
| Rhif | Eitem |
|---|---|
|
Cyflwyniad |
|
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau. Croesawyd Simon Hart i’r cyfarfod, sydd wedi ailafael yn swydd y Prif
Swyddog Cyllid Dros Dro. |
|
|
Datgan buddiannau Cofnodion: Ni chafwyd datganiadau
o fuddiant. |
|
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y Comisiynwyr ar Gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15
Gorffennaf, a chytunwyd i drafod penderfyniad oedd heb ei wneud yn ystod y cyfarfod diwethaf o dan unrhyw
fater arall. |
|
|
Cyllideb ddrafft y Comisiwn ar gyfer 2025-26 Cofnodion: Trafododd y Comisiynwyr y gwaith diweddaraf ar y Gyllideb ddrafft ar gyfer
2025-26, a oedd yn cynnwys newidiadau ers y cyfarfod blaenorol. Trafodwyd y ffaith y byddai’r
Gyllideb ddrafft yn cwmpasu’r flwyddyn gyntaf o gynnydd sylweddol a pharhaol i
gyllideb y Comisiwn o ganlyniad i Ddiwygio’r Senedd, wrth i’r sefydliad gynyddu
nifer y staff a chwblhau addasiadau strwythurol i’r ystad i greu lle ar gyfer
mwy o Aelodau a staff cymorth yn barod ar gyfer 2026-27. Trafodwyd natur
hanesyddol y newid. Er eu bod wedi’u neilltuo ar hyn o bryd, byddai costau Diwygio’r Senedd yn
symud i ‘fusnes fel arfer’, fel y nodwyd yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar
gyfer y dyfodol pan gafodd ei gyhoeddi yn 2023. Cymeradwyodd y Comisiynwyr y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2025-26 i’w gosod
a’r llythyr at y Pwyllgor Cyllid. Nodwyd datganiad o egwyddorion y Pwyllgor
Cyllid hefyd, a drafodwyd yn y llythyr a anfonwyd at y Pwyllgor, a’r llythyr
oddi wrth y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Wrth gytuno ar y Gyllideb Ddrafft, nododd y Comisiynwyr yn dilyn dwy
flynedd o ostyngiadau ac arbedion o ran y gyllideb o ganlyniad i daliadau
costau byw, a chan nodi’r adborth a gafwyd gan Aelodau ynghylch rhoi’r gorau
dros dro i deithio rhyngwladol, cymorth hyfforddi a phryder am lesiant staff,
nid oedd modd nodi arbedion pellach heb wneud toriadau parhaol i’r gwasanaethau
a ddarperir i Aelodau, oherwydd lefel y
gwaith o gyflwyno rhaglenni a chyflawni newidiadau erbyn 2025-26. Mae egwyddorion y Fframwaith Adnoddau Tymor Canolig yn golygu bod gan y
Comisiwn brosesau ar waith sy'n sicrhau y byddai'r sefydliad yn ystyried
arbedion a ffyrdd o wella effeithlonrwydd yn barhaus wrth iddo wneud
penderfyniadau gweithredol. Cymeradwyodd y Comisiynwyr y cynnydd o 20.96% yn y gyllideb weithredol
rhwng 2024-25 a 2025-26 (11.08% ac eithrio rhaglen Ddiwygio’r Senedd, y rhaglen
Ffyrdd o Weithio, a chyllidebau nad ydynt yn arian parod), a’r cynnydd o 16.77%
yn y gyllideb gyffredinol rhwng 2024-25 a 2025-26. Gan ystyried y costau
ychwanegol hysbys yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol, a ddisgwylir yn 2025-26,
y cynnydd cyffredinol i’r gyllideb yw 11.56% (addasiad 10.80% i’r Asesiad
Effaith Rheoleiddiol ar gyfer dyfarniadau cyflog a chwyddiant). Bu’r Comisiynwyr hefyd
yn trafod y broses o ymgysylltu â’r Aelodau, ac roeddent am ehangu ar hynny yn
y blynyddoedd i ddod wrth i’r Comisiwn bennu cyllidebau i ddarparu’r eiddo, y
staff a’r gwasanaethau sydd eu hangen at ddibenion y Senedd. Nodwyd y gellid ymgysylltu’n fwy â’r Aelodau fel rhan o’r
broses flynyddol, dan gyfarwyddyd y Comisiwn, ar ôl diweddaru’r Fframwaith
Adnoddau Tymor Canolig bob gwanwyn. |
|
|
Diweddariad ar drafodaethau cyflog Ar lafar Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa gyfredol y trafodaethau cyflog sy’n mynd
rhagddynt, a’r cyd-destun o ran cyllideb y Comisiwn, yn dilyn y llythyr a
anfonwyd at Ochr yr Undebau Llafur ar 9 Medi a’r ymateb a gafwyd ar 18 Medi.
Roeddent yn rhagweld symud ymlaen o ran y dyfarniad cyflog. |
|
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am Ddiwygio'r Senedd I'w nodi: Gohebiaeth - y ddeialog rhwng y Comisiwn a'r
Bwrdd Taliadau Annibynnol Cofnodion: Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am ddwy agwedd ar waith yn
ymwneud â Diwygio’r Senedd. 1)
Canlyniad digwyddiad
“Cwrdd i Ffwrdd” y Pwyllgor Busnes / Comisiwn y Senedd Croesawyd y Dirprwy Lywydd i’r cyfarfod a rhoddodd ddiweddariad ar gynnydd
y cynigion ar gyfer bwrw ymlaen ag elfennau o’r gwaith paratoi ar gyfer y
Seithfed Senedd. Dywedodd mai’r bwriad oedd gofyn am gael sefydlu pwyllgor
ffurfiol i symud y gwaith yn ei flaen. Byddai'n cyflwyno cynigion i'r Pwyllgor
Busnes yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf. 2)
Deialog y Comisiwn a’r
Bwrdd Taliadau Annibynnol Cafodd y Comisiynwyr
ddwy eitem o ohebiaeth yn ymwneud â’r cymorth uniongyrchol a ddarperir i
gynorthwyo Aelodau i wneud eu gwaith seneddol, yn dilyn ymlaen o gyfarfod y
Comisiwn a’r Bwrdd Taliadau Annibynnol ym mis Gorffennaf. Trafododd y
Comisiynwyr pa mor bwysig oedd hi i Aelodau ymgysylltu â'r Bwrdd, a nodwyd y
diweddariadau a ddarparwyd. |
|
|
Rheoli absenoldeb salwch hirdymor Cofnodion: Roedd y Comisiynwyr wedi gofyn
am wybodaeth a sicrwydd ynghylch dull y Comisiwn o reoli absenoldeb salwch, yn
benodol salwch hirdymor a salwch oherwydd iechyd meddwl gwael. Cawsant wybodaeth yn nodi'r polisïau, y prosesau a'r fframweithiau sydd
ar waith i reoli absenoldeb salwch yn effeithiol. Gofynnodd y Comisiynwyr am
gael gwybodaeth feincnodi sy’n cymharu’r sefyllfa â data hanesyddol y sector
cyhoeddus a’r Comisiwn, i’r graddau y mae hynny ar gael o fewn rheswm. |
|
|
Cynghorwyr Annibynnol Cofnodion: Bu'r Comisiynwyr yn ystyried gwybodaeth am sefyllfa gytundebol Cynghorwyr
Annibynnol presennol y Comisiwn. Cytunwyd i gynnig estyniad i gytundeb
presennol Aled Eurig hyd at 26 Tachwedd 2026. Byddai hyn yn rhoi cysondeb i
gadeiryddion y ddau bwyllgor cynghori dros y cyfnod o bontio i’r Seithfed
Senedd. Cytunwyd i ystyried
gofynion y broses ar gyfer recriwtio’r garfan nesaf o Gynghorwyr Annibynnol,
a’r ffordd y bwriedir ymdrin â’r broses honno, sy’n cynnwys parhau i amrywio
dyddiadau’r penodiadau, yng ngwanwyn 2025.
|
|
|
Llythyr at y Pwyllgor Cyllid Cofnodion: Cytunodd
y Comisiynwyr ar lythyr i roi rhagor o wybodaeth i'r Pwyllgor Cyllid mewn
perthynas ag argymhellion y Pwyllgor a nodir yn ei adroddiad Craffu ar Gyllideb
Ddrafft Comisiwn y Senedd 2024-25, gan roi’r wybodaeth ddiweddaraf am arolygon
Llesiant Staff yn arbennig. Bydd y llythyr yn cael
ei gyhoeddi gyda phapurau cyfarfod y Pwyllgor Cyllid. |
|
|
Llythyr at y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus Cofnodion: Nododd
y Comisiynwyr yr ymateb y byddai’r Prif Weithredwr yn ei anfon at y Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus i roi diweddariadau pellach o ran
argymhellion yr Adroddiad Craffu ar Gyfrifon 2022-23. Roedd hyn yn cynnwys:
Roedd y llythyr hefyd yn rhoi'r wybodaeth
ddiweddaraf am brosiectau a roddwyd ar waith yn sgil y Gronfa Prosiectau a
chontractau a ddyfarnwyd i gyflenwyr o Gymru. |
|
|
Papurau i'w nodi: |
|
|
Cofnodion y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg - Mehefin a Gorffennaf 2024 Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr gofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio a
Sicrwydd Risg a gynhaliwyd ar 10 Mehefin a 8 Gorffennaf. |
|
|
Diweddariad y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD) Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
crynodeb o benderfyniadau recriwtio diweddar. |
|
|
Unrhyw fater arall Cofnodion: Gwydr Diogelwch -
Roedd gan y Comisiwn benderfyniad heb ei wneud ers y cyfarfod diwethaf. Roedd
hyn yn ymwneud â'r gwydr o amgylch yr oriel gyhoeddus sy'n rhwystr rhwng yr
oriel a'r Siambr. Cyflwynwyd rhagor o wybodaeth. Tynnodd y Gwasanaeth Diogelwch
sylw at risg sylweddol i'r Comisiwn o ran cynyddu atebolrwydd a’r gallu i
drefnu yswiriant yn y dyfodol pe bai'r gwydr yn cael ei dynnu i ffwrdd.
Cytunodd y Comisiynwyr ar yr argymhelliad i gadw'r gwydr, ac i adlewyrchu hynny
yn y dyluniadau terfynol ar gyfer y Siambr wedi'i haddasu a fyddai'n cael eu
hystyried yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Y Pierhead – cafodd y Comisiynwyr wybod bod cymorth
allanol wedi cael ei drefnu, am gost gymharol fach, fel rhan o weithgarwch
arferol y Strategaeth Ystadau, i gynorthwyo gydag ymarfer yn edrych ar yr
opsiynau ar gyfer defnydd hirdymor adeilad y Pierhead. Byddai anghenion Aelodau
yn rhan o feini prawf craidd yr ymarfer hwn a byddai'n cael ei gynnal fel rhan
o’r rhaglen Ffyrdd o Weithio. Ymgynghoriad ar
dramffordd Caerdydd Canolog i Fae Caerdydd – Cafodd y Comisiynwyr wybod am yr
ymgynghoriad ar y dramffordd sy’n cael ei gynnal ar hyn o bryd gan Gyngor
Caerdydd a Thrafnidiaeth Cymru. Nodwyd y byddai swyddogion yn ymateb gan
gyfeirio at gynllun cynaliadwyedd blynyddol y Comisiwn. Yn y cyfnod ers y
cyfarfod diwethaf, roedd y Comisiynwyr wedi cytuno ar lythyr gan Hefin David AS
at y Pwyllgor Cyllid dyddiedig 19 Gorffennaf 2024, ynghylch sut y bydd y
Comisiwn yn ymgysylltu ag Aelodau o ran darparu gwasanaethau yn y dyfodol. Nodwyd hefyd lythyr
gan y Prif Weithredwr at y Bwrdd Taliadau Annibynnol dyddiedig 2 Medi 2024, yn
ymwneud â chymorth y Comisiwn ar gyfer Aelodau, a llythyr oddi wrth y Llywydd
dyddiedig 18 Gorffennaf 2024 yn dilyn cyfarfod y Comisiynwyr â’r Pwyllgor Busnes,
am waith y mae’r Dirprwy Lywydd yn bwrw ymlaen ag ef. |
PDF 470 KB