Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Carys Evans, 029 2089 8598 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad y Cadeirydd

1a

Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

1b

Datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

Nid oedd buddiannau i'w datgan.

1c

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

·        Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Medi 2012 - Papur 1a

·        Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2012 (diwygiwyd i'w cytuno) – Papur 1b

 

Cofnodion:

Cytunodd y Comisiynwyr ar gofnodion 27 Medi a 22 Hydref.

 

Cytunodd y Comisiynwyr i ddiwygio cofnodion 12 Gorffennaf i gofnodi penderfyniad a wnaed yn y cyfarfod:

 

Symudodd y Comisiwn i sesiwn breifat a chytuno ar gynnig gan y Prif Weithredwr ynghylch mater staffio cyfrinachol yn unol â'r Ddirprwyaeth.

2.

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar gyllideb ddrafft y Comisiwn ar gyfer 2013-14

Papur 2

Cofnodion:

Mae cyllideb 2013-14 y Comisiwn yn nodi'r adnoddau ariannol sydd eu hangen i ddarparu gwaith Gwasanaethau'r Cynulliad sy'n flaenoriaeth yn ogystal â'r gyllideb sydd ei hangen i ariannu Penderfyniad y Bwrdd Taliadau ar gyfer Aelodau'r Cynulliad. 

Ers y cyfarfod diwethaf, mae cyllideb ddrafft 2013-14 y Comisiwn wedi'i osod. Ymddangosodd Angela Burns AC, Claire Clancy a Steve O'Donoghue gerbron y Pwyllgor Cyllid ar 3 Hydref ac roedd adroddiad y Pwyllgor yn argymell:

·         Cyhoeddi dangosyddion perfformiad blynyddol;

·         Dim cynnydd i gyllidebau'r comisiwn ar ddiwedd y rhaglen fuddsoddi tair blynedd bresennol;

·         Mwy o fanylion am arbedion a buddsoddiadau.

Cytunodd y Comisiynwyr ag argymhellion y Pwyllgor a chytuno i osod y Gyllideb ar 7 Tachwedd. Mae'r ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar y gyllideb wedi'i threfnu ar gyfer 14 Tachwedd.

Cytunwyd na fyddai'r papur yn cael ei gyhoeddi.

Cam i'w gymryd: Swyddogion i osod dogfen cyllideb 2013-14 gerbron y Cynulliad ar 7 Tachwedd.

3.

Strategaeth Gwasanaethau TGCh yn y Dyfodol – Cyflwyniad gan Atos

Papur 3

Cofnodion:

Bydd Cytundeb Merlin, ar gyfer darparu gwasanaethau TGCh i'r Cynulliad, yn dod i ben yn 2014.  Mae'n ofynnol bod y Comisiwn yn hysbysu Llywodraeth Cymru ac Atos o'i benderfyniad ynghylch darparu gwasanaethau TGCh i'r Cynulliad yn y dyfodol erbyn mis Ebrill 2013.  Ym mis Tachwedd 2011, cytunodd y Comisiwn i asesu dau opsiwn: ymestyn cytundeb Merlin; neu symud at ddarpariaeth fewnol gymysg.

Roedd cynrychiolwyr o Atos yn y cyfarfod i roi gwybodaeth i'r Comisiynwyr ar ddarpariaeth TGCh arfaethedig yn y dyfodol.

Cytunwyd na fyddai'r papur yn cael ei gyhoeddi oherwydd natur fasnachol ei gynnwys.

Gwnaeth y Comisiynwyr gais am ragor o gyfarfodydd i allu trafod darpariaeth gwasanaethau TGCh yn y dyfodol yn fanylach. Cynhelir y cyfarfodydd ar 12 Tachwedd a 3 Rhagfyr.

4.

Unrhyw Fusnes Arall

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw fater arall.

 

 

Yr Ysgrifenyddiaeth

Tachwedd 2012