Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Digital. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sulafa Thomas 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad

1.a

Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau.

1.b

Datgan buddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.

1.c

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Comisiynwyr ar Gofnodion y cyfarfod ar 17 Mehefin.

2.

Adroddiadau Blynyddol y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg / y Pwyllgor Taliadau

2.a

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg 2023-24

Cofnodion:

Croesawyd Bob Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg, i'r cyfarfod; cyflwynodd Adroddiad Blynyddol y pwyllgor, gan amlinellu'r gwaith yr oedd y pwyllgor wedi'i wneud yn y flwyddyn a chrynhoi ei ganfyddiadau a'i gasgliadau.

Tynnodd sylw at yr argraff wnaeth y rhyngweithio yn ystod y flwyddyn ar y Pwyllgor, a’r gwerthfawrogiad o ymgysylltiad y Comisiynydd newydd, Hefin David, gan nodi’r perfformiad ar lefel uchel a gyflawnwyd, nid yn unig gan yr uwch-dîm, ond gan y staff o lefel Pennaeth Gwasanaeth i lawr yn arbennig. Dywedodd fod y Pwyllgor wedi cyflwyno ffordd newydd o weithio i gryfhau ei ddull strategol o weithredu ac i roi gwybod i’r Comisiynwyr y byddent yn parhau i ganolbwyntio ar faterion cyflawni yn dilyn deddfwriaeth Diwygio’r Senedd, adnoddau, prosiectau a seiberddiogelwch.

Nododd y Comisiynwyr y byddai'r Adroddiad yn cael ei gyhoeddi ar dudalennau'r Pwyllgor ar wefan y Senedd maes o law.

2.b

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol 2023-24

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr Adroddiad y Pwyllgor Taliadau, a oedd yn amlinellu rôl y Pwyllgor a'i ganfyddiadau a'i gasgliadau o'r gwaith yr oedd wedi'i wneud yn ystod y flwyddyn.

3.

Diweddariad ar ddyluniad Siambr 2026

Cofnodion:

Cafodd y Comisiwn y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith a wnaed hyd yma yn dilyn penodi’r cyflenwr gwasanaethau pensaernïol, Rogers Stirk Harbour Partnership (RSHP), i weithio gyda Chomisiwn y Senedd ar brosiect Siambr 2026. 

Roedd hyn yn cynnwys y cynllun i ehangu’r Siambr ar gyfer 96 o Aelodau a chamau nesaf y prosiect, opsiynau TGCh ar gyfer y Siambr ac ystyriaethau diogelwch.

Nododd y Comisiynwyr y gwaith a wnaed hyd yma ar y cynllun i ehangu’r Siambr i gynnwys 96 o Aelodau a chamau nesaf y prosiect.

Cytunwyd i ymgysylltu’n ehangach ag aelodau o’u grwpiau mewn perthynas â’r gwydr yn yr oriel gyhoeddus, gan nodi cynnwys y papur mewn perthynas â’r materion diogelwch cysylltiedig.

Gwnaethant gymeradwyo’r tybiaethau o ran TGCh a nodwyd yn y papur ac i ddewis y Grŵp Cyfeirio o blaid Opsiynau 2 a 3 gael ei lunio'n fanylach cyn gwneud penderfyniadau yn y dyfodol, gan ddiystyru Opsiynau 1 a 4 ar gyfer gwaith pellach.

Cytunodd y Comisiynwyr i Siambr Hywel gael ei defnyddio fel Siambr dros dro ar gyfer y Cyfarfod Llawn tra bo gwaith i addasu Siambr y Senedd yn mynd rhagddo, gan beidio â defnyddio Siambr Hywel ar gyfer unrhyw weithgareddau heblaw’r Cyfarfod Llawn yn ystod y cyfnod dan sylw.

4.

Diweddariad Opsiynau Tŷ Hywel 2026

Cofnodion:

Cafodd y Comisiynwyr grynodeb o’r gwaith a gwblhawyd ar brosiect Tŷ Hywel 26 i ddarparu llety seneddol ar gyfer 96 o Aelodau, a chamau nesaf y cynlluniau dros y misoedd nesaf.

Nododd y Comisiynwyr y diweddariad, y deialog parhaus â Llywodraeth Cymru rhanddeiliaid yn y cyfryngau, y newidiadau arfaethedig i'r adeiladau a ddefnyddir gan wasanaethau'r Comisiwn (gan gynnwys gweithgarwch gweithredu arfaethedig) a'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau a'r opsiynau ar gyfer swyddfeydd Aelodau ychwanegol a'r camau nesaf.

Bydd ymgynghori pellach yn digwydd ar ôl toriad yr haf gyda chynigion terfynol ar gyfer swyddfeydd yr Aelodau newydd yn cael eu cyflwyno i'r Comisiwn yn gynnar yn nhymor yr hydref i'w hystyried a'u cymeradwyo.

5.

Cyllideb y Comisiwn

5.a

Diweddariad ar drafodaethau cyflog

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr y cynnydd a wnaed o ran y trafodaethau ffurfiol rhwng Ochr Rheoli'r Comisiwn (CMS) ac Ochr Undebau Llafur y Comisiwn (TUS) ynghylch y fframwaith cyflogau ar gyfer staff y Comisiwn o fis Ebrill 2025 ymlaen.

Ymatebodd TUS i’r cynnig cyflog ffurfiol ar 26 Mehefin yn gofyn i’r Comisiwn gynyddu ei gynnig.

Trafododd y Comisiynwyr opsiynau ar gyfer sicrhau y byddai’r adnoddau angenrheidiol ar gyfer yr opsiwn a ffafrir yn cael eu cynnwys yn y gyllideb ddrafft derfynol ar gyfer 2025/26, y bydd yn rhaid i’r Comisiwn gytuno arni ym mis Medi 2024. Byddai’r gyllideb angenrheidiol ar gyfer cytundeb cyflog cytunedig yn rhan o gyllideb flynyddol y Comisiwn, a byddai’n destun gwaith craffu gan y Pwyllgor Cyllid.

Trafodwyd yr opsiynau pellach a gyflwynwyd a chytunwyd ar yr opsiwn 3 a argymhellir - 3.5% yn y flwyddyn gyntaf, 3.25% yn yr ail flwyddyn a 3% yn y drydedd flwyddyn. Mae hyn yn ymateb i gais TUS i gynyddu cynnig y Comisiwn, ond mae’n ddarbodus o safbwynt cyllidebu. Mae'r graddfeydd yn cydnabod ac yn adlewyrchu'r gostyngiad a ragwelir mewn chwyddiant, gan ddarparu setliad cyflog a sicrwydd i'r Comisiwn am dair blynedd.

 

5.b

Cyllideb ddrafft y Comisiwn ar gyfer 2025-26

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr amlinelliad lefel uchel i’r Comisiynwyr o gyllideb ddrafft gynnar 2025-26, yn seiliedig ar y tybiaethau cynllunio cyllideb y cytunodd y Comisiwn arnynt yn y cyfarfod ar 29 Ebrill.

Roedd yr amlinelliad yn cynnwys arwydd cynnar o ofynion cyllidebol, ac roedd yn nodi materion sy'n dod i'r amlwg ynghyd ag arwydd clir o waith pellach sydd ei angen.

Mae materion allweddol sy'n dod i'r amlwg yn cynnwys lefel bosibl y twf ar draws y gyllideb, gan gynnwys ‘busnes fel arfer’; y bwlch yng nghyllid y prosiect a'r rhestr sy'n dod i'r amlwg o waith adnewyddu cynnal a chadw cylch bywyd sydd ei angen ar gyfer 2025-26 sy'n dal i gael ei ystyried ynghyd ag amseriad y gyllideb atodol.

Roedd y wybodaeth a ddarparwyd yn adlewyrchu’r ansicrwydd a grëwyd gan yr oedi i Gynnig Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25, sy’n golygu ei bod yn debygol na fyddai canlyniad y broses yn hysbys ar yr adeg pan fyddai’n ofynnol i’r Comisiwn osod ei gyllideb ddrafft. Rhagwelwyd mai canlyniadau hyn yw’r posibilrwydd y byddai angen i'r Comisiwn ystyried cyflwyno cyllideb a fyddai’n ystyriol o’r ansicrwydd hwn, a’r tebygrwydd na fyddai'n gallu cwblhau trafodaethau cyflog tan ddiwedd yr hydref.

Nododd y Comisiynwyr y diweddariad ar baratoi cyllideb 2025-26 a chytunwyd eu bod yn fodlon i fanylion y gyllideb gael eu datblygu fel y’u hamlinellwyd dros yr haf.

Bydd y gyllideb ddrafft y cytunwyd arni yn cael ei gosod yn unol â gofynion y Rheolau Sefydlog.

6.

Adolygiad o’r Cynllun Ieithoedd Swyddogol

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr bapur a oedd yn cyflwyno rhai syniadau ynghylch ieithoedd swyddogol y Senedd a Chomisiwn y Senedd, a ysgogwyd gan fyfyrdodau’r Comisiynydd sy’n gyfrifol am y Cynllun Ieithoedd Swyddogol, a hynny’n dilyn ymrwymiad i barhau i fonitro a chwilio am ffyrdd o ddileu’r pethau sy’n rhwystro’r defnydd o’r Gymraeg yn nhrafodion y Senedd.

Nododd y Comisiynwyr y pecyn o newidiadau ymarferol sy'n cael ei drafod ar hyn o bryd â Chadeiryddion Pwyllgorau a thimau ac mewn perthynas â chyfarfodydd pwyllgor. Nodwyd hefyd y sicrwydd a roddwyd y bydd gwaith paratoi gan y Comisiwn ar gyfer diwygio’r Senedd yn rhoi sylw dyledus i faterion sy’n ymwneud ag iaith.

Cytunodd y Comisiynwyr i gynnal arolwg/archwiliad iaith i ddeall sut y gellir cefnogi’n well yr Aelodau a’u staff sy'n siarad y Gymraeg neu’n ei dysgu i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg llafar ac ysgrifenedig, yn unol â’r hyn sydd yn Adroddiad Blynyddol y Cynllun Ieithoedd Swyddogol.

Cytunwyd hefyd i ystyried yr ethos presennol, hybu a darparu gwasanaethau mewn perthynas ag ieithoedd swyddogol y Senedd ynghyd â’r fframwaith cyfreithiol ategol fel rhan o’r paratoadau ar gyfer y Seithfed Senedd.

7.

Diweddariad ar urddas a pharch

Cofnodion:

Cafodd y Comisiynwyr ddiweddariad ar y gwaith a wnaed ers i’r Comisiwn ystyried adolygiad o’r fframwaith Urddas a Pharch a chytunwyd ar nifer o argymhellion, ym mis Mehefin 2023.

Nododd y Comisiynwyr y diweddariad cynnydd ar weithgarwch a gynhaliwyd ers hynny a chanlyniadau’r arolwg Urddas a Pharch diweddar o drydydd partïon sy’n defnyddio’r Senedd.

Cytunwyd y dylid rhannu’r camau gweithredu a nodir yn adroddiad yr arolwg â'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad, y Comisiynydd Safonau a’r Bwrdd Taliadau Annibynnol, gyda’r disgwyliad y bydd y Pwyllgor yn cyhoeddi'r adroddiad, ynghyd â gohebiaeth fewnol ac allanol briodol.

Nododd y Comisiynwyr y diweddariadau ynghylch gwaith y Pwyllgor Safonau Ymddygiad a'r Bwrdd Taliadau Annibynnol. Cytunwyd ar fabwysiadu’r mecanwaith casglu a monitro data dienw ar gyfer materion Urddas a Pharch a nodwyd bod goblygiadau yn deillio o Ddeddf Diogelu Gweithwyr (Diwygio Deddf Cydraddoldeb 2010) 2023. Yn benodol, mynegwyd pwysigrwydd bod Aelodau’n ymwybodol o'u cyfrifoldebau fel cyflogwyr.

8.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2023-24

Cofnodion:

Cymeradwyodd y Comisiynwyr ddrafft terfynol yr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer 2023-24, yn amodol ar unrhyw fân gywiriadau neu newidiadau golygyddol. 

Bydd yr Adroddiad yn cael ei lofnodi a'i osod gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a'i gyhoeddi ar-lein ar dudalennau gwe Adroddiad Blynyddol penodol.

9.

Fframwaith Darlledu

Cofnodion:

Ar gais y Comisiwn, gofynnwyd i un o Gynghorwyr Annibynnol y Comisiwn gynnal adolygiad i helpu Comisiwn y Senedd i ddatblygu protocol darlledu i roi eglurder ynghylch y sianeli a fydd ar gael ar system deledu fewnol y Senedd yn y dyfodol.

Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth a adroddwyd a derbyniwyd y dull polisi a argymhellwyd gan y Cynghorydd Annibynnol. Byddai hyn yn golygu mai dim ond y sianeli hynny sydd â rhwymedigaethau gwasanaeth cyhoeddus y byddai system Triple Play Comisiwn y Senedd yn eu cynnwys: BBC, ITV, Channel 4, Channel 5 ac S4C.  Cytunodd y Comisiynwyr ar gynnwys un sianel ychwanegol yn y ddarpariaeth hon, sef Sky News, i sicrhau lluosogrwydd o ran raglenni newyddion.

 

10.

Papurau i'w nodi:

10.a

Sefydlu Bwrdd Newid Senedd 26

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am sut, yng nghyd-destun hynt Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024, y mae’r Comisiwn yn ymateb yn strategol i’r pwysau llywodraethu sy’n deillio o gyd-destun her gyflawni gymhleth, adnoddau tyn a cherrig milltir newid tra gweladwy na ellir eu negodi, tra’n parhau i ddarparu ei wasanaethau i’r Aelodau a’r Senedd.

10.b

Llythyr y Pwyllgor Cyllid – diweddariad ar Brotocol y Gyllideb

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr lythyr oddi wrth y Pwyllgor Cyllid at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa'r Cabinet ar newidiadau arfaethedig i Brotocol Proses y Gyllideb a Gweithdrefnau Cyllidebol cysylltiedig.

10.c

Diweddariad y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD)

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr y crynodeb o benderfyniadau diweddar o ran recriwtio.

11.

Unrhyw fater arall

Cofnodion:

Dim