Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Hybrid - Digital. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sulafa Thomas
| Rhif | Eitem |
|---|---|
|
Cyflwyniad |
|
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau |
|
|
Datgan buddiant Cofnodion: Ni chafwyd datganiadau
o fuddiant. |
|
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y Comisiynwyr ar
gofnodion y cyfarfod ar 29 Ebrill. Roedd y Comisiynwyr
wedi cytuno i drafod y dull arfaethedig o fewnoli gwasanaethau'r Comisiwn â
grwpiau'r pleidiau ac adborth. Gofynnodd un Comisiynydd i adborth gael ei
gofnodi bod ei grŵp plaid mewn egwyddor yn gwrthwynebu ymrwymo arian
pellach neu gynyddu risg, ar sail yr adroddiad dan sylw ar y pryd. |
|
|
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Comisiwn ar gyfer 2023-24 Cofnodion: Adolygodd y Comisiynwyr y drafft cyfredol o Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon
y Comisiwn ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2024 ar gyfer ei
ystyried. Gwnaethant nodi i'r
broses o gwblhau fersiwn gyflawn o Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Comisiwn
gael ei gohirio oherwydd effaith nas datryswyd yn ymwneud â dyfarniad McCloud
ar gyfrifiadau pensiwn. Mae'r oedi cyn cael y wybodaeth angenrheidiol am
bensiynau gan Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil yn fater sy'n effeithio ar yr
holl lywodraethau a chyrff cyhoeddus sydd â staff yng Nghynllun Pensiwn y
Gwasanaeth Sifil. Dywedodd y Prif
Swyddog Cyllid fod Trysorlys EF wedi cyhoeddi FReM diwygiedig yn ddiweddar, gyda
diwygiad cydymffurfio neu egluro a'r datgeliad gofynnol a nodir yn y diwygiad i
egluro’r oedi. Yng ngoleuni'r newid hwn, byddai Archwilio Cymru yn adolygu
geiriad y farn archwilio a’i diwygio i'r Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon allu
cael eu cwblhau. Trafododd y Comisiynwyr adrannau naratif yr adroddiad a gofynnwyd am i’r
wybodaeth ddiweddaraf am absenoldeb hirdymor oherwydd salwch gael ei darparu
mewn cyfarfod yn y dyfodol. Gwnaethant hefyd drafod yr adroddiad gwariant gyda
chyflenwyr Cymreig, a gofynnwyd am ragor o waith yn y rhan o'r adroddiad sy’n
ymwneud ag Urddas a Pharch. Cytunodd y Comisiynwyr
i gael yr Adroddiad terfynol yn y cyfarfod ym mis Gorffennaf ar gyfer ei
gymeradwyo, gyda’r adroddiad terfynol wedyn yn cael ei lofnodi gan Archwilydd
Cyffredinol Cymru a’i osod, a’i gyhoeddi ar-lein. |
|
|
Adroddiad Blynyddol ar Gynaliadwyedd 2023-24 Cofnodion: Cafodd
Comisiynwyr yr Adroddiad ar berfformiad cynaliadwyedd ystad y Senedd a
gweithrediadau dros y flwyddyn ddiwethaf, a dynnodd sylw at gyflawniadau
amgylcheddol allweddol, perfformiad yn erbyn targedau, gan gynnwys cynnydd y
Strategaeth Carbon Niwtral, y defnydd o gyfleustodau, a chrynodeb o’r
gwelliannau arfaethedig ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Cefnogodd y Comisiynydd â’r portffolio datblygu cynaliadwy yr adroddiad a
gwnaeth sylwadau ar werth cael tîm sydd â gwir awydd i gyflawni yn y maes hwn.
Trafododd y Comisiynwyr y goblygiadau posibl sy’n codi o rywfaint o'r gwaith
angenrheidiol sy'n cael ei gynllunio ar gyfer yr ystad, a'r darlun ehangach o
effeithiau'r Senedd. Cytunodd y Comisiynwyr
i gyhoeddi'r adroddiad yn amodol ar unrhyw fân gywiriadau neu olygiadau, a
nododd iddo gael ei ddarparu i'r Pwyllgor Cyllid yn unol â’i argymhelliad sy’n
ymwneud â gwybodaeth am arbed ynni. |
|
|
Adroddiad Blynyddol y Cynllun Ieithoedd Swyddogol 2023-24 Cofnodion: Adolygodd y Comisiynwyr yr Adroddiad Blynyddol drafft ar y Cynllun
Ieithoedd Swyddogol sy’n manylu’r gwaith a wnaed ar draws y sefydliad yn ystod
2023-24, i ganiatáu i’r Comisiwn gynnal ei ymrwymiad i ddarparu gwasanaethau
dwyieithog rhagorol. Mae'n ofynnol i Gomisiwn y Senedd osod adroddiad gerbron y Senedd yn nodi
sut y mae'r Comisiwn wedi rhoi'r Cynllun ar waith yn ystod y flwyddyn dan
sylw. Diolchodd
y Comisiynydd â’r portffolio Ieithoedd Swyddogol i’r Gwasanaeth Cyfieithu a
Chofnodi am y polisïau blaengar sydd wedi bod o fudd i’r ystad ac mewn
gweithgareddau ymgysylltu. Soniodd y Comisiynwyr am fywiogrwydd ac
optimistiaeth y timau sy'n croesawu pobl i'r senedd. Cytunodd y Comisiynwyr ar yr adroddiad blynyddol drafft,
gan gytuno y byddai’r Rhagair gan y Comisiynydd sy'n gyfrifol am yr Ieithoedd
Swyddogol yn cael ei ddarparu i'r Comisiynwyr i’w nodi. Nodwyd hefyd y
byddai’r adroddiad terfynol yn cael ei gyhoeddi ar-lein ac y byddai cynnig yn
cael ei gyflwyno gan y Llywydd i alluogi i’r ddadl ofynnol yn y Cyfarfod Llawn
gael ei chynnal. |
|
|
Adroddiad Blynyddol Amrywiaeth a Chynhwysiant 2023-24 Cofnodion: Adolygodd y Comisiynwyr gyfres yr Adroddiadau Blynyddol ar Amrywiaeth a
Chynhwysiant ar gyfer 2023-24 sy’n adrodd ar gynnydd timau ar draws Comisiwn y
Senedd i gyflawni’r amcanion sydd wedi’u nodi yn Strategaeth Amrywiaeth a
Chynhwysiant y Comisiwn (2022-26). Darperir Adroddiad Blynyddol Amrywiaeth a Chynhwysiant 2023-24, ynghyd â’r
Adroddiad ar y Gweithlu, Recriwtio, Adrodd ar y Bwlch Cyflog, ac Adroddiad
Archwiliad Cyflog Cyfartal ar gyfer 2023-24, a hynny er mwyn bodloni
rhwymedigaethau’r Comisiwn o dan Ddyletswyddau Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus
(Deddf Cydraddoldeb 2010). Tynnodd y Comisiynydd â'r portffolio Cydraddoldeb sylw at rai agweddau
allweddol ar yr adroddiad, gan gynnwys cyflwyno hyfforddiant Urddas a Pharch
gorfodol i staff y Comisiwn; lansiad y rhwydwaith cyfathrebu staff, Engage a
Grŵp Llywio Amrywiaeth a Chynhwysiant; a’r ffaith y byddai'r adroddiad yn
darparu gwybodaeth ychwanegol ynghylch anabledd, iechyd meddwl a llesiant. Cymeradwyodd y
Comisiynwyr gyhoeddi’r adroddiad, ynghyd â'r gyfres gysylltiedig o adroddiadau
data Amrywiaeth a Chynhwysiant a fyddai'n cyflawni dyletswyddau'r sector
cyhoeddus a nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010. |
|
|
Fframwaith Adnoddau Tymor Canolig 24 – Adolygiad Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
fersiwn ddiweddaraf o’r Fframwaith Adnoddau Tymor Canolig. |
|
|
Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus – Diweddariad ynghylch y Ffyrdd o Weithio a’r Fframwaith Adnoddau Tymor Canolig Cofnodion: Cytunodd y Comisiynwyr
ar lythyr at y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus mewn
ymateb i argymhellion y Pwyllgor i’r Comisiwn ei fod yn darparu gwybodaeth a
diweddariadau mewn perthynas â’r rhaglen Ffyrdd o Weithio ac allbynnau o’r
Fframwaith Adnoddau Tymor Canolig. |
|
|
Trafodaethau ar gyflogau (diweddariad llafar) Cofnodion: Cafodd y Comisiynwyr
ddiweddariad ar statws presennol y trafodaethau cyflog ac, yn benodol, y ffaith
bod ymateb i’r cynnig diweddaraf yn ddisgwyliedig, ac y byddai opsiynau ar
gyfer y Comisiwn yn cael eu darparu cyn gynted â phosibl. |
|
|
Diwygio'r Senedd (diweddariad ar lafar) Cofnodion: Cafodd y Comisiynwyr ddiweddariad ar y cynlluniau presennol ar gyfer diwrnod
cwrdd i ffwrdd y Comisiwn, y cytunwyd ar ei gynnal ar 15 Gorffennaf. |
|
|
Papurau i'w nodi: |
|
|
Llythyr gan Gadeirydd y Bwrdd Taliadau – 23 Mai 2024 Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr
lythyr y Bwrdd Taliadau sy’n gofyn am sylwadau ar y goblygiadau i Gomisiwn y
Senedd yn sgil trywydd arfaethedig y Bwrdd mewn perthynas â newidiadau i’r
fframwaith cyflogau a graddau ar gyfer staff cymorth y Senedd. Cytunodd y
Comisiynwyr i gytuno ar ymateb y tu allan i'r cyfarfod. |
|
|
Llythyr gan y Pwyllgor Cyllid, 23 Mai 2024 - Craffu ar Gyllideb Atodol 2024-25 Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr
lythyr y Pwyllgor Cyllid a oedd yn gofyn am ragor o wybodaeth am sut y mae'r
Comisiwn yn bwriadu ymgysylltu ag Aelodau ynghylch darparu gwasanaethau yn y
dyfodol, a hynny er mwyn sicrhau eu bod yn adlewyrchu eu blaenoriaethau a bod modd
eu rheoli o fewn yr adnoddau presennol. Cytunodd y Comisiynwyr i gytuno ar
ymateb y tu allan i'r cyfarfod. |
|
|
Llythyr gan y Pwyllgor Biliau Diwygio, 7 Mehefin 2024 – Argymhellion yr adroddiad Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
llythyr a ddaeth i law yn dilyn y gwaith craffu ar Fil Senedd Cymru (Rhestrau
Ymgeiswyr Etholiadol) yng Nghyfnod 1. Roedd y Pwyllgor yn nodi dau argymhelliad
i Gomisiwn y Senedd. Cytunodd y Comisiynwyr i drafod y materion sy’n codi yn
sgil yr argymhellion mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
|
|
Strategaeth Pum Mlynedd TGCh a Darlledu Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
fersiwn ddiweddaraf o’r strategaeth TGCh a Darlledu, sy’n cael ei hadolygu yn
flynyddol er mwyn caniatáu i’r Comisiwn gadw i fyny â'r newidiadau parhaus ym
myd technoleg. |
|
|
Cofnodion y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC) - 3 Mai 2024 Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr gofnodion cyfarfod ARAC a gynhaliwyd ar 3 Mai. |
|
|
Diweddariad y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD) Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
crynodeb o benderfyniadau diweddar o ran recriwtio. |
|
|
Unrhyw faterion eraill Cofnodion: Yn y cyfnod ers y
cyfarfod diwethaf, mae’r Comisiynwyr wedi nodi llythyr at y Bwrdd Taliadau yn
ymwneud â Chynllun Pensiwn yr Aelodau. |
PDF 286 KB