Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sulafa Thomas
| Rhif | Eitem |
|---|---|
|
Cyflwyniad |
|
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau. Croesawodd y Llywydd
Hefin David i’w gyfarfod cyntaf ers cael ei benodi’n Gomisiynydd ar 17 Ebrill.
Cadarnhawyd y byddai'n cymryd 'portffolio' y gyllideb a llywodraethu (gan
gynnwys bod yn aelod o’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg). |
|
|
Datganiadau o fuddiant Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ddatganiadau o fuddiant. |
|
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunodd y Comisiynwyr ar Gofnodion y cyfarfod ar 29 Ionawr. |
|
|
Mewnoli Gwasanaethau'r Comisiwn Cofnodion: Yn ei gyfarfod ar 6 Tachwedd 2023, cytunodd y Comisiwn ar
ddatganiad eang o egwyddor mai dewis craidd y Comisiwn yw i wasanaethau gael eu
darparu’n fewnol lle bynnag y bo’n ymarferol.
Trafododd y Comisiynwyr brif ganfyddiadau ymarfer cwmpasu
a materion penodol ynghylch mewnoli mewn perthynas â phob un o'r gwasanaethau
dan sylw, gan gynnwys amcangyfrif o lefel debygol y cymhlethdod a'r risg sy'n
gysylltiedig â mewnoli’r meysydd gwasanaethau hynny. Cawsant hefyd yr
amcangyfrif cyfunol ar gyfer cam nesaf proses o fewnoli, a oedd yn rhagdybio y
byddai'r gwaith yn cael ei wneud ar ffurf un rhaglen sy’n cynnwys yr holl
feysydd gwasanaeth sydd o fewn cwmpas y gwaith. Trafododd y Comisiynwyr y wybodaeth a ddarparwyd a
myfyrio ar y cymhlethdod a'r risgiau a nodwyd yn y canfyddiadau sydd wedi’u
hamlinellu yn y papur. Trafodwyd y berthynas â chontractau presennol, yn
ogystal â chapasiti a hynt rhaglenni gwaith sylweddol sydd eisoes ar y gweill.
Roedd y Comisiynwyr yn cydnabod y byddai’n rhaid darparu ar gyfer cyllid
buddsoddi yn y gyllideb i fwrw ymlaen â'r prosiect, gan gydnabod hefyd y
byddai'n dasg sylweddol a fyddai'n gofyn am lawer o ffocws ac ymdrech gan y tîm
rheoli. Hefyd, cynghorwyd bod yr adroddiad allanol wedi nodi'r
risg bosibl na fyddai achosion busnes yn y dyfodol sy’n deillio o brosiect
mewnoli yn pasio'r prawf gwerth am arian; yn y sefyllfa honno, mae'n debygol y
byddai’n rhaid cael cyfarwyddyd gan y Comisiwn i'r Prif Weithredwr, fel y
Swyddog Cyfrifyddu, cyn bwrw ymlaen â'r gwaith. Cytunodd y Comisiynwyr mai’r safbwynt a ffefrir ganddynt fyddai gwneud
ymrwymiad ‘caled’ mewn egwyddor i fwrw ymlaen â Phrosiect Mewnoli
Gwasanaethau’r Comisiwn, ac y dylid dechrau’r gwaith hwn hanner ffordd drwy’r
Senedd nesaf, gan gydnabod y byddai wedyn yn golygu gweithredu fesul cam. Bydd
angen ailgaffael rhai contractau presennol yn y blynyddoedd nesaf hyd yn oed os
bwriedir dod â hwy’n fewnol yn y tymor hir. Byddai penderfyniadau yn y cyfnod
interim yn cael eu cymryd gyda'r amcan hwn mewn golwg. Cytunodd y Comisiynwyr
i drafod y dull gweithredu arfaethedig hwn gyda’u grwpiau gwleidyddol a rhoi
adborth y diwrnod canlynol drwy gysylltu â’r ysgrifenyddiaeth pe bai unrhyw
bryderon yn codi. |
|
|
Cyllideb Atodol Gyntaf 2024/25 Cofnodion: Cafodd y Comisiwn gynigion ar gyfer Cais y Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer
2024-25. Hefyd, cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am Drafodaethau
Cytundeb Cyflog Staff ar gyfer 2025-2028. Gan adlewyrchu trafodaethau yn gynharach yn y cyfarfod, cytunodd y
Comisiynwyr i gyflwyno cyllideb atodol a fyddai’n cynyddu cyfanswm y gyllideb
gan £635,000 i £72.830 miliwn, ac yn cynyddu’r gofyniad Arian Parod o Gronfa
Gyfunol Cymru gan £635,000 i £67.999 miliwn. Byddai’r cynnydd yng nghyfanswm y
gyllideb yn cael ei rannu ar draws y llinellau cyllidebol unigol y mae’r
Comisiwn yn gyfrifol amdanynt. Cymeradwyodd y
Comisiynwyr y Memorandwm Esboniadol i’w osod, gan gytuno i rannu gwybodaeth â’u
grwpiau am y dyfarniad cyflog ar gyfer staff ar raddfeydd cyflog isaf y
Comisiwn. |
|
|
Cyllideb Ddrafft (2025-26) – Ystyriaethau o ran strategaeth Cofnodion: Rhoddwyd amlinelliad
i’r Comisiynwyr o nifer o faterion i’w trafod a fyddai’n helpu i lywio’r gwaith
o ddatblygu cyllideb 2025-26 i adlewyrchu blaenoriaethau’r Comisiwn ar gyfer
blwyddyn olaf y Chweched Senedd. Trafododd y
Comisiynwyr yr eitemau sy'n debygol o effeithio ar ei gyllid yn ystod 2024-25
cyn ystyried y dull gweithredu y mae'n dymuno ei ddilyn i ymdrin â'r effaith
hon, yn benodol yng nghyllideb ddrafft 2025-26.
Cytunodd y Comisiynwyr
y dylai cynigion y gyllideb gael eu datblygu ymhellach a’u cyflwyno yng
nghyllideb ddrafft 2025-26 fel y’i cynigir, yn enwedig, mewn perthynas â’r
materion a ganlyn: • cyllidebau ar gyfer y gwaith
ar ddiwygio’r Senedd yn cael eu hadolygu i adlewyrchu’r sefyllfa ddiweddaraf; • rhagamcanion cyllidebol
manwl ar gyfer y rhaglen Ffyrdd o Weithio; • effeithiau Strategaeth
Cyflogau'r Comisiwn ar y gyllideb; • ystyriaethau eraill nad
ydynt yn gysylltiedig â chyflogau, gan gynnwys costau prosiect a diffyg parhaus
cyllideb wrth gefn; • cyflawni gofynion statudol a
chynllun corfforaethol y Comisiwn, gan gydnabod bod angen ystyried yr
uchelgeisiau hynny yng nghyd-destun cyllidebol ehangach y sector cyhoeddus; ac • effaith adolygiadau’r Bwrdd Taliadau
Annibynnol ar ffurf y paratoadau ar gyfer darparu gwasanaethau yn ystod y
Seithfed Senedd. Cadarnhaodd y
Comisiynwyr eu bod yn fodlon â'r dull gweithredu ar gyfer cam nesaf y gwaith o
lunio'r gyllideb. Nododd y Comisiynwyr
hefyd y byddai unrhyw effaith gyllidebol o ran amcangyfrif costau ynni yn y
dyfodol yn cael eu nodi yng Nghyllideb Ddrafft 2025-26. Bydd y gyllideb ddrafft
hon hefyd yn nodi effaith adolygu cyllidebau ar gyfer ystadau, TGCh a chronfeydd
prosiect, yn ogystal â’r adolygiad blynyddol o gostau’r Penderfyniad. |
|
|
Materion sy’n gysylltiedig â diwygio'r Senedd Cofnodion: Yn dilyn trafodaeth
flaenorol gan y Comisiwn ynghylch sefydlu deialog strwythuredig gyda’r Bwrdd
Taliadau Annibynnol (“y Bwrdd Taliadau”), cytunodd y Comisiynwyr ar fformat y ddeialog hon, gan nodi y
byddai’r maes cyntaf i'w drafod â’r Bwrdd Taliadau yn canolbwyntio ar ffyrdd
Aelodau o weithio a chefnogaeth mewn perthynas â Swyddfeydd Etholaeth Aelodau a
Cholli Swydd. Nododd y Comisiynwyr gamau nesaf y
ddeialog rhwng y Comisiwn a’r Bwrdd Taliadau mewn perthynas â symleiddio a
llywodraethu, gan gynnwys y gwaith sydd ar y gweill o fewn y tîm Cymorth Busnes
i'r Aelodau i wella a symleiddio’r broses o weinyddu prosesau hawliadau
Aelodau. Cytunwyd na fydd y Comisiwn yn ceisio
unrhyw newidiadau deddfwriaethol i’r fframwaith llywodraethu ar gyfer gwneud
penderfyniadau ar gyflogau a lwfansau Aelodau cyn y Seithfed Senedd, ond y bydd
yn myfyrio ar hyn a chysylltiadau rhwng y Comisiwn a’r Bwrdd Taliadau fel rhan
o adroddiad gwaddol y Chweched Senedd i helpu i lywio unrhyw drafodaethau
ychwanegol yn ystod y Seithfed Senedd. Hefyd, cytunodd y Comisiynwyr ar y dull
o ymgysylltu ag Aelodau mewn perthynas â diwygio’r Senedd, fel yr amlinellwyd
yn y papur, ac i gyfleu ei benderfyniadau ar y materion hyn i’r Aelodau. Nododd y Comisiynwyr
fod y ddeialog rhwng y Comisiwn a’r Bwrdd Taliadau yn cynnig cyfle defnyddiol i
drafod y gwaith o ddiwygio’r Senedd yn ei gyfanrwydd, gan ei bod yn debygol y
bydd gofyn i’r Comisiwn baratoi ar gyfer Senedd wahanol yn 2026. Cydnabuwyd bod
yna gyfle yma, ond o fewn cyd-destun o fod yn realistig ynglŷn â'r hyn
sy’n bosibl yn yr amser sydd ar gael ac o fewn cyd-destun ehangach o ran cyllid
cyhoeddus. Cytunodd y Comisiynwyr y dylid trefnu sesiwn ‘diwrnod cwrdd i
ffwrdd’ i feddwl am y darlun ehangach o ran sut y bydd y Comisiynwyr yn
cefnogi’r Senedd yn y sefyllfa newydd hon. |
|
|
Data Digidol |
|
|
Polisi Cadw a Gwaredu ar gyfer Microsoft Teams Cofnodion: Trafododd y Comisiynwyr ddefnydd y Comisiwn o Teams
a’r cynigion ynghylch sicrhau bod y rhaglen yn cael ei defnyddio ar gyfer
trafodaethau anffurfiol a byrdymor; y dylai gwybodaeth gorfforaethol bwysig
gael ei storio ar SharePoint; a bod gwybodaeth ar Teams yn cael
ei dileu yn awtomatig ymhen cyfnod penodol. Cytunodd y Comisiwn mewn egwyddor ar gyfnodau dileu
awtomatig ar gyfer y Senedd gyfan mewn perthynas â sgyrsiau Teams, sef
28 diwrnod ar ôl creu sgwrs; a bod negeseuon Teams Channel yn cael eu
dileu 13 mis ar ôl y dyddiad creu. Cytunodd y Comisiwn
hefyd y dylid ymgysylltu â’r Aelodau ynghylch cymhwyso’r polisi i bob Aelod o’r
Senedd a’u staff cymorth. |
|
|
Defnyddio Sianeli Cyfathrebu Anghorfforaethol Cofnodion: Trafododd y Comisiynwyr bolisi ynghylch staff y Comisiwn
sy'n defnyddio sianeli cyfathrebu anghorfforaethol ar gyfer gweithgareddau sy'n
ymwneud â busnes. Mae’r sianeli hyn yn cynnwys llwyfannau negeseuon fel
WhatsApp a chyfrifon e-bost preifat. Cytunodd y Comisiynwyr, mewn egwyddor, i wahardd y defnydd o sianeli
cyfathrebu anghorfforaethol. Byddai hyn yn berthnasol i staff y Comisiwn wrth
drafod busnes swyddogol gyda'i gilydd a chydag Aelodau. Cytunwyd y byddai’n
rhaid cael cynllun gweithredu cyn gwneud unrhyw newidiadau, ac y byddai'r
cynllun hwn yn cael ei drafod gan y Comisiynwyr ymlaen llaw. Nododd y
Comisiynwyr y dylai’r cynllun ragweld y byddai symud i lwyfan ar gyfer
negeseuon am fusnes y Senedd yn cael ei arwain gan Swyddogion y Comisiwn, yn
hytrach nag Aelodau. Trafododd y Comisiynwyr arwyddocâd archifo eu cofnodion yn ddigidol a gofyn
i bapur gael ei lunio ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol ynghylch y cymorth y
gellid ei ddarparu. Ni fyddai’r newid yn
effeithio ar Aelodau sy’n defnyddio WhatsApp i gysylltu ag Aelodau eraill,
aelodau o staff cymorth neu unigolion eraill nad ydynt yn gysylltiedig â’r
Senedd (fel etholwyr), p’un a ydynt yn defnyddio ffôn personol neu ffôn a
ddarperir gan y Comisiwn at y diben hwn. |
|
|
Blaengynllun ar gyfer y Comisiwn Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr
fanylion cyfarfodydd arfaethedig y Comisiwn hyd at y diddymiad yn 2026, yn
ogystal â rhaglen ddangosol o’r gwaith a ragwelir yn ystod y cyfnod hwnnw. Bydd
y wybodaeth hon yn cael ei haddasu yn dilyn trafodaethau yn ystod y 'diwrnod cwrdd
i ffwrdd' y cytunwyd arno. |
|
|
Llythyr at y Pwyllgor Cyllid - Ymateb i ymgynghoriad ar Brotocol Llywodraeth Cymru Cofnodion: Ym mis Mawrth, cafodd
y Comisiynwyr lythyr gan y Pwyllgor Cyllid yn gofyn am eu barn ar newidiadau
arfaethedig i Brotocol Proses y Gyllideb i helpu i lywio trafodaethau parhaus
rhwng y Pwyllgor a'r Gweinidog. Cytunodd y Comisiynwyr ar ymateb i’r llythyr hwnnw. |
|
|
Papurau i'w nodi: |
|
|
Cynllun Corfforaethol y Comisiwn 2024-26 Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
cynllun ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol a'r flwyddyn ariannol nesaf. |
|
|
Ymateb y Llywydd i’r Pwyllgor Cyllid ynghylch goblygiadau ariannol Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol). Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr
yr ymateb i lythyr a ddaeth i law gan y Pwyllgor Cyllid. |
|
|
Llythyr at y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus - Ymateb i argymhelliad 2 (craffu ar gyfrifon 2022-23) Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
wybodaeth a ddarparwyd i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth
Gyhoeddus ar ffurf diweddariad ar y rhaglen Ffyrdd o Weithio, yn benodol
ynghylch prosiectau Bae Caerdydd 2032, Siambr 2026 a Thŷ Hywel 2026. |
|
|
Cynllun Pensiwn yr Aelodau – adroddiad prisio terfynol gan Adran Actiwari'r Llywodraeth Cofnodion: Nododd yr Aelodau yr
adroddiad prisio terfynol gan Adran Actiwari’r Llywodraeth, ac yn unol â'u
llythyr at y Comisiwn fis Medi diwethaf, cadarnhawyd mai 18 y cant fydd cyfradd
cyfraniad y cyflogwr o 1 Ebrill 2024. Bydd y prisiad nesaf yn digwydd ar 1
Ebrill 2026. |
|
|
Cofnodion y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg - 27 Tachwedd 2023 Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr gofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd
Risg a gynhaliwyd ar 27 Tachwedd. |
|
|
Diweddariad y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD) Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
crynodeb o benderfyniadau recriwtio diweddar. |
|
|
Nodiadau o gyfarfod grŵp cyswllt gwleidyddol y Senedd ar 8 Chwefror 2024 Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
nodiadau o gyfarfod Grŵp Cyswllt Gwleidyddol y Senedd ar 8 Chwefror. |
|
|
Unrhyw fater arall Cofnodion: ·
Cafwyd trafodaeth
gryno ar nifer o faterion yn ymwneud â Safonau, a chytunodd y Comisiynwyr y dylid
darparu diweddariad manylach yn ddiweddarach yn nhymor yr haf. ·
Cytunodd y Comisiynwyr
y byddai Hefin David yn cael ei enwebu fel cynrychiolydd y Comisiwn ar Fwrdd
Pensiwn yr Aelodau y tro nesaf y bydd angen llenwi’r rôl hon. Yn y cyfnod ers y
cyfarfod diwethaf, roedd y Comisiynwyr wedi nodi’r canlynol: ·
Ymateb i ymchwiliad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i Lywodraethiant y DU a’r UE, ·
Ymateb i adroddiad y
Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ·
Ymateb i ymgynghoriad
y Bwrdd taliadau Annibynnol ar y Penderfyniad (wedi’i ddiweddaru), ·
Cyfathrebu Defnyddwyr
yr Ystad ynghylch y brotest ffermio, ·
Ymateb i gyfrifiadau’r
Pwyllgor Biliau Diwygio ynghylch Penderfyniad 2023/24, ·
Llythyr gan y Pwyllgor
Cyllid ynghylch Protocol Proses y Gyllideb, ac wedi cytuno ar y
canlynol: ·
Y wybodaeth
ddiweddaraf i’r Pwyllgor Cyllid ynghylch argymhellion a wnaed yn adroddiad
Craffu ar Gyllideb Ddrafft y Comisiwn, ·
Llythyrau at y
Pwyllgor Cyllid a’r Cwnsler Cyffredinol ynghylch Diwygio’r Senedd, ·
Cynigion ynghylch
hyfforddiant a datblygu i Aelodau a Staff Cymorth yr Aelodau. |
PDF 288 KB