Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sulafa Thomas
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad |
|
Cyflwyniadau ac ymddiheuriadau Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau. |
|
Datgan buddiannau Cofnodion: Ni wnaed unrhyw
ddatganiadau o fuddiant. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion
cyfarfod 27 Mawrth. |
|
Ffyrdd o Weithio – Opsiynau strategol ar gyfer prosiect Bae 2032 Cofnodion: Cafodd y Comisiynwyr ddiweddariad ar gyngor proffesiynol cychwynnol
ynghylch opsiynau hyfyw sicrhau llety sy'n diwallu anghenion hirdymor y Senedd a'r Comisiwn. Roedd
y cyngor yn seiliedig ar yr anghenion a'r gofynion drafft y cytunwyd arnynt ym
mis Rhagfyr 2022. Trafododd y Comisiynwyr arwyddocâd ystyriaethau datblygu cynaliadwy a
chyfle cyfartal ynghyd â phwysigrwydd cael safbwynt hirdymor ar werth i bwrs y
wlad. Cytunodd y Comisiynwyr yn unfrydol y dylai swyddogion fwrw ymlaen â'r
opsiynau prosiect ar y rhestr fer a bwrw ymlaen â drafftio cam cyntaf yr achos
busnes ar gyfer prosiect Bae 2032 (yr Achos Amlinellol Strategol) ar sail y
cyngor a ddarparwyd. Cytunodd y Comisiynwyr
i gael diweddariad yng nghyfarfod mis Gorffennaf, ynghylch cynnydd o ran
archwilio'r holl opsiynau. |
|
Cyllideb Ddrafft 2024-25 Cofnodion: Ystyriodd y Comisiynwyr nifer o faterion a
oedd yn debygol o effeithio ar gyllid y Comisiwn yn ystod 2024-25 a rhoi
cyfarwyddyd y dylid datblygu cynigion yn y meysydd hyn fel rhan o gyllideb ddrafft
2024-25. Roedd y rhain yn cynnwys: ·
Diwygio'r Senedd ·
Rhaglen Ffyrdd o Weithio (rhagamcanion manwl) ·
Effeithiau Strategaeth Gyflogau'r Comisiwn ar y gyllideb. ·
Ystyriaethau nad ydynt yn ymwneud â thâl. Trafododd y Comisiynwyr yr heriau sy’n
gysylltiedig â gweithredu mewn amgylchedd lle mae arian yn dynn, gyda
dewisiadau anodd yn gorfod cael eu gwneud, a chydbwyso'r angen i ddarparu’r
gwasanaethau presennol, bodloni rhwymedigaethau cytundebol, ac ymateb i ofynion
newydd. Cyfeiriwyd at sefyllfa gadarnhaol barhaus y Comisiwn o wahardd
diswyddiadau gorfodol. Cytunwyd i ystyried y gyllideb ddrafft ochr yn
ochr â'r Fframwaith Adnoddau Tymor Canolig drafft, gwaith a fyddai'n dwyn
ynghyd Gynlluniau Tymor Canolig Ariannol a'r Gweithlu, fel rhan o gyflawni'r
amserlenni sy'n ofynnol gan y Rheolau Sefydlog. Nododd y Comisiynwyr
hefyd y byddai unrhyw effaith gyllidebol o ran amcangyfrif costau ynni yn y
dyfodol; adolygu cyllidebau ystadau, TGCh a chronfeydd prosiect; unrhyw
newidiadau i gostau cyfraniadau pensiwn y cyflogwr; a'r adolygiad blynyddol o
Gostau Penderfyniad yn cael eu nodi yng Nghyllideb Ddrafft 2024-25. |
|
Diweddariad i'r Pwyllgor Cyllid Cofnodion: Cytunodd y Comisiynwyr
i llythyr at y Pwyllgor Cyllid i roi gwybodaeth mewn perthynas ag Argymhelliad
7 o Adroddiad y Pwyllgor am waith craffu ar Gyllideb 2023-24, ynghylch
gwerthuso effeithiolrwydd y mentrau a gyflwynwyd gan y Comisiwn i liniaru
effaith pwysau costau byw ar staff. |
|
Diweddariad i PAPAC Cofnodion: Ystyriodd y
Comisiynwyr wybodaeth i’w darparu i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a
Gweinyddiaeth Gyhoeddus mewn dau faes yn dilyn Craffu ar y Cyfrifon ar gyfer
2021-22. Roedd y rhain yn ddadansoddiad o'r prosiectau a weithredwyd fel rhan
o’r gronfa brosiectau, a chrynodeb o ganlyniadau'r arolwg staff a'r arolwg
pwls. Gofynnodd y Comisiynwyr am rywfaint o eglurhad a chytunwyd ar gynnwys y
llythyr at y Pwyllgor. |
|
Diwygiadau i Gylch Gorchwyl ARAC Cofnodion: Roedd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg wedi nodi newidiadau yr oedd
am eu gweithredu i'w Gylch Gorchwyl. Cytunwyd ar y newidiadau, ynghyd â'r
cytundeb ar gyfer gwneud newidiadau i enwau teitlau swyddi/cyrff y cyfeirir atynt
yn y ddogfen yn ôl yr angen. |
|
Papurau i'w nodi: |
|
Cofnodion y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC) 13 Chwefror Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y diweddariad arferol am gyfarfodydd y Pwyllgor
Archwilio a Sicrwydd Risg a ddarperir i'r Comisiwn. |
|
Diweddariad y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD) Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y crynodeb o benderfyniadau recriwtio a ddarperir
fel mater o drefn i bob cyfarfod o'r Comisiwn. |
|
Nodiadau ar Grŵp Cyswllt Pleidiau’r Senedd 9 Mawrth Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
wybodaeth am gyfarfod 9 Mawrth. |
|
Llythyr ac Ymateb PCS Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr
yn ffurfiol y llythyr at y Llywydd gan Undeb y PCS ar gyfer staff y Comisiwn
a'r ateb. Dosbarthwyd y ddau lythyr i Gomisiynwyr y tu allan i gyfarfodydd. |
|
Diweddariad ar Adleoli Swyddfeydd y Gogledd Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr
gynnydd y prosiect i adleoli cyfleusterau a gwasanaethau Comisiwn y Senedd a
ddarperir yn swyddfa Bae Colwyn i swyddfa yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn
Sarn Mynach (Cyffordd Llandudno). |
|
Unrhyw Fater Arall Cofnodion: Materion yn ymwneud â
chwestiynau llafar yn y Cyfarfod Llawn – cyfeiriodd dau Gomisiynydd at faterion
a godwyd yn ystod Cwestiynau Llafar i'r Comisiwn ar 17 Mai. Roedd y rhain yn
ymwneud â hawliau gwyliau blynyddol i staff y Comisiwn a gwelededd gwybodaeth
am y gefnogaeth y mae'r Comisiwn yn ei darparu ar gyfer staff y Comisiwn a
staff yr Aelodau sy'n cael profiad o aflonyddu. Yn y cyfnod ers y
cyfarfod diwethaf roedd Comisiynwyr wedi cytuno ar gynnwys y Memorandwm
Esboniadol, a llythyr eglurhaol ar gyfer y Pwyllgor Cyllid, yn ymwneud â'r
Gyllideb Atodol. |