Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Hybrid - Digital. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sulafa Thomas
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad |
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau. |
|
Datgan buddiannau Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ddatganiadau ffurfiol o fuddiant. Hysbysodd Rhun ap
Iorwerth y Comisiynwyr ei fod yn aelod o o dîm rygbi’r Senedd. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol – 19 Ionawr Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion
y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Ionawr. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol – 30 Ionawr Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion
y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Ionawr. |
|
Diwygio’r Senedd Cofnodion: Fe wnaeth y
comisiynwyr ystyried gwybodaeth a baratowyd mewn ymateb i lythyr gan y Prif
Weinidog a oedd yn gofyn i Gomisiwn y Senedd ddarparu amcangyfrif gorau o'r
gost fyddai'n codi ar gyfer Comisiwn y Senedd o Fil Diwygio'r Senedd
Llywodraeth Cymru. Roedd y Comisiwn wedi
cytuno y dylai sefyllafa – y newid lleiaf a newid mwyaf – fod yn sail i
amcangyfrif y Comisiwn o'r costau y byddai'n eu hysgwyddo o ganlyniad i'r Bil. Cytunodd y Comisiynwyr
ar lythyr, ac atodiadau, i’w hanfon at y Prif Weinidog i ddarparu’r canlynol: · Esboniad o'r sail ar gyfer amcangyfrif o gostau; a hefyd · tablau sy'n cyflwyno proffil o 10 mlynedd o'r costau, yn
ôl y ddwy senario a gytunwyd gan Gomisiwn y Senedd yn ei gyfarfod ar 12 Rhagfyr
2022, ac a baratowyd yn unol â'r dull safonol o ymdrin â chost amcangyfrifon
fel rhan o broses ddeddfwriaethol. Atgoffwyd y
Comisiynwyr y byddai amcangyfrifon o gostau yn rhan o’r wybodaeth esboniadol i
gyd-fynd ag unrhyw Fil a gyflwynir – ac a gyhoeddir – gan Lywodraeth Cymru. Yr
amser priodol ar gyfer trafodaeth gyhoeddus ar y costau a nodwyd fyddai fel
rhan o'r broses graffu seneddol. Gofynnodd un Comisiynydd
iddo gael ei gofnodi nad oedd yn gefnogol mewn egwyddor i gynigion Diwygio’r
Senedd, a’u costau cysylltiedig, er bod y Comisiynydd yn cydnabod bod pleidlais
wedi’i chynnal yn y Senedd o blaid y gwaith sy’n cael ei wneud gan y
Llywodraeth. Diolchodd y
Comisiynwyr am y gwaith manwl a’r broses helaeth a oedd wedi dwyn y wybodaeth y
gofynnodd y Llywodraeth amdani ynghyd, a gofyn cwestiynau am y berthynas rhwng
yr amcangyfrifon a gynhyrchwyd a phenderfyniadau cyllidebol yn y dyfodol. |
|
Adolygu Cyllideb y Comisiwn 2023-24 a diweddariad ar Gyllideb Atodol Gyntaf Cofnodion: Cymeradwyodd y Comisiynwyr
yr arbedion cyllidebol arfaethedig – o ganlyniad i Adolygiad o Gyllideb 2023-24
– a’r gyllideb ddiwygiedig yn amodol ar gymeradwyaeth derfynol drwy broses y
gyllideb atodol. Byddai'r cynigion i leihau'r gyllideb a gymeradwywyd yn cael
eu cynnwys yng nghyflwyniad y Comisiwn i'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer
’23-24. Byddai’r mesurau’n arwain at gynnydd cyffredinol diwygiedig yn y
gyllideb o 3.4% o gymharu â’r gyllideb a gymeradwywyd ar hyn o bryd a fyddai
wedi bod yn gynnydd o 4.1%, drwy ostyngiadau o: –
£208,000 yn y gyllideb
Ystadau a Chyfleusterau drwy weithredu mesurau a chostau arbed ynni; –
gostyngiad o £107,000
yn y gyllideb TGCh drwy ail-negodi contractau yn gadarn; a –
gostyngiad o £120,000
yng nghyllideb Cronfa Prosiect y Comisiwn. Nododd y Comisiynwyr yr amserlen ar gyfer cymeradwyo a gosod Cyllideb
Atodol Gyntaf 2023-24, a chytuno bod papurau terfynol y Gyllideb Atodol
(Memorandwm Esboniadol a’r llythyr cysylltiedig) yn cael eu hanfon at y
Comisiynwyr ym mis Ebrill er mwyn cytuno arnynt yn derfynol; a nododd y
Comisiynwyr y byddai opsiynau posib pellach ar gyfer arbedion ac
effeithlonrwydd, yn cael eu hystyried fel rhan o'r cynllunio tymor canolig ar
gyfer cyllideb y Comisiwn 2024-25 a'r ddwy flynedd ddilynol, fel rhan o'r
gwaith i ddatblygu'r Fframwaith Darparu Adnoddau Tymor Canolig. Roedd y rhain
yn cynnwys: § Adolygu llinellau cyllideb sylweddol nad ydynt
yn staff; § creu incwm ychwanegol; § adolygu’r ffactor proffilio i gysoni
cyllidebau cyflog â’r lefelau staff a ragwelir; ac unrhyw fesurau pellach a drafodwyd yn y Cyfarfod Llawn ac
nad ydynt wedi’u hystyried mewn mannau eraill. |
|
Adolygiad o’r Polisi Defnydd o'r Ystâd Cofnodion: Bu'r Comisiynwyr yn
ystyried ymarfer ymgynghori arfaethedig i lywio adolygiad o'r Polisi Defnydd
o'r Ystad. Roedd hyn yn ymateb i ymholiadau sy'n cael eu codi ynghylch gofynion
cyfredol ar ddefnyddio'r ystâd, angen digwyddiadau yn y dyfodol, newidiadau ers
y pandemig ar y modd y mae digwyddiadau ymgysylltu yn cael eu cynnig a sut mae
Aelodau am ddefnyddio'r Ystâd. Cymeradwyodd y
Comisiynwyr gynigion tymor byr a chanolig ar gyfer newidiadau i gadw
ystafelloedd. Awgrymwyd y dylid
gwahodd swyddogion i fynd i gyfarfodydd grŵp y pleidiau i gael adborth am
anghenion Aelodau yn y maes hwn, ac anogwyd swyddogion i siarad hefyd â rhai
o'r sefydliadau a oedd wedi codi cwestiynau. At hynny, bu'r
Comisiynwyr yn trafod dyddiadau rheolaidd arwyddocaol yn y cylch calendr
blynyddol, a sut y gallai'r rhain gael eu hadlewyrchu'n briodol yn y system.
Buont yn trafod gwerth yr ymarfer ymgysylltu, a chroesawu’r ffaith y byddai
cynnig polisi wedi’i ddiweddaru yn cael ei gyflwyno iddynt yn yr hydref. At
hynny, amlygwyd y berthynas rhwng nifer y digwyddiadau y gellir eu cefnogi a'r
adnoddau sydd ar gael, gan gyfeirio at yr ymarfer lleihau costau diweddar a
drafodwyd yn gynharach yn y cyfarfod. |
|
Llythyr diweddaru at y Pwyllgor Cyllid ynghylch argymhellion Adroddiad Cofnodion: Cytunodd y Comisiynwyr ar lythyr – a fyddai’n cael ei
ddarparu i’r Pwyllgor Cyllid – i gyflawni ymrwymiad i ddarparu rhagor o
wybodaeth mewn dau faes o argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor yn eu Hadroddiad
ar Graffu ar Gyllideb 2023-24: · Penderfyniadau yn ymwneud â dyfodol swyddfa Bae Colwyn a
phresenoldeb y Senedd yng ngogledd Cymru; a cheisio barn yr
Aelodau i ddeall yn well pa waith ymgysylltu y maent am fwrw ymlaen ag ef. |
|
Papurau i'w nodi: |
|
Cofnodion cyfarfod ACARAC a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y diweddariad arferol am gyfarfodydd y Pwyllgor
Archwilio a Sicrwydd Risg a ddarperir i'r Comisiwn. |
|
Diweddariad y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD) Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y crynodeb o benderfyniadau recriwtio a ddarperir
fel mater o drefn i bob cyfarfod o'r Comisiwn. |
|
Cais gan y tîm rygbi Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr e-bost a gafwyd oddi wrth dîm rygbi’r Senedd a
gwybodaeth am y ddarpariaeth bresennol i alluogi’r Comisiwn i ‘noddi’ cit timau
chwaraeon y Senedd. |
|
Llythyrau talu Costau Byw i Gontractwyr - atebion Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr lythyrau oddi wrth BowTie, Compass, TSS a CBRE mewn
ymateb i lythyr a anfonwyd at gontractwyr y Comisiwn mewn perthynas â thaliadau
Costau Byw a wneir i gyflogeion y Senedd. Gofynnodd un o'r
Comisiynwyr i'r cofnodion adlewyrchu ei siom ynghylch natur yr ymatebion, a
holodd a oedd yr aelodau staff a gyflogwyd gan gontractwyr allanol yn gwbl
ymwybodol o'r holl fanteision sydd ar gael iddynt gan eu cyflogwyr. Gofynnodd y Llywydd i
un mater a godwyd gan Gomisiynydd fod yn destun trafodaeth bellach gyda’r
Swyddog Cyfrifyddu. Trafodwyd bod
amrywiaeth o delerau cyflogaeth yn bodoli ar gyfer gwahanol grwpiau sy’n
darparu gwasanaethau sy’n gysylltiedig â’r Senedd. Cytunwyd i ailddosbarthu
gwybodaeth am gontractau allanol i Gomisiynwyr, a chadarnhawyd y byddai
gwybodaeth am y contract arlwyo yn cael ei darparu yn yr hydref. |
|
Unrhyw fusnes arall Cofnodion: · Pleidlais gweithredu diwydiannol yr Undebau Llafur –
cafodd y Comisiynwyr wybod am hysbysiad a dderbyniwyd am bleidlais a oedd yn
cael ei chynnal gan PCS ynghylch ymestyn cyfnod y mandad ar gyfer streic hyd at
fis Tachwedd. · Gwyliadwriaeth/Teledu Cylch Cyfyng – cafodd y Comisiynwyr
wybod am gyngor a gafwyd i roi'r gorau i ddefnyddio rhai mathau o offer
gwyliadwriaeth. Cawsant eu sicrhau fod tîm Diogelwch y Senedd wedi ymrwymo i
helpu i sicrhau bod yr offer sy’n cael eu gosod yn swyddfeydd etholaethol a
chartrefi’r Aelodau yn ddiogel a bod pob cam priodol yn cael ei gymryd i
liniaru unrhyw bryder posibl. Bydd nodyn
yn cael ei roi i bob Aelod, a bydd y tîm yn gweithio gydag Aelodau fesul achos
i asesu gofynion unigol a byddwn yn cefnogi Aelodau i roi unrhyw gamau gofynnol
ar waith. · Tiktok – diweddarwyd y Comisiynwyr o ran bod gwybodaeth
ychwanegol wedi'i darparu i'r Aelodau am y defnydd o Tiktok. Yn y cyfnod ers y
cyfarfod diwethaf, ymgynghorwyd â'r Comisiynwyr cyn dyfarnu'r Contract Rheoli
Cyfleusterau, ac roeddent wedi cytuno ar ymateb y Comisiwn i Ymgynghoriad y
Bwrdd Taliadau ar y Penderfyniad. |