Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Lleoliad Allanol. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sulafa Thomas
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad |
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Ni chafwyd
ymddiheuriadau. Croesawyd Bob Evans,
Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg, a Sarah Pinch, Cadeirydd y
Pwyllgor Cynghori ar Gydnabyddiaeth, Ymgysylltu a'r Gweithlu i'r cyfarfod. |
|
Datgan buddiannau Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ddatganiad o fuddiant. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd bod cofnodion
20 Mehefin yn gofnod cywir. |
|
Adroddiadau Blynyddol y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg a’r Pwyllgor Cynghori ar Daliadau, Ymgysylltu a’r Gweithlu |
|
Adroddiad blynyddol y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Cofnodion: Mae Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn ei gwneud yn
ofynnol i Gadeirydd y Pwyllgor fod yn bresennol mewn cyfarfod o'r Comisiwn bob blwyddyn
i gyflwyno Adroddiad Blynyddol i'r Comisiwn a'r Swyddog Cyfrifyddu. Cyflwynodd Bob Evans,
Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg, Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor,
gan gynnwys barn y Pwyllgor mewn perthynas ag effeithiolrwydd yr amgylchedd risg,
rheolaeth a llywodraethu cyffredinol, a bu’n trafod seiberddiogelwch gyda’r
Comisiynwyr. Arsylwodd y Pwyllgor
hefyd sut bu’r Comisiwn yn parhau i ddangos safonau uchel o lywodraethu drwy
gydol y pandemig, er yr amgylchiadau heriol. Hefyd, mae’r Pwyllgor wedi canmol
y Comisiwn am ddod allan o’r pandemig mewn ffordd gadarn sydd wedi’i rheoli’n
dda. Roedd yr adroddiad
hefyd yn rhoi syniad o'r meysydd y byddai'r Pwyllgor yn cymryd diddordeb
gweithredol ynddynt yn ystod 2022-23. Diolchodd y Comisiwn i Bob am waith y
Pwyllgor a nododd yr adroddiad. |
|
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Cynghori ar Daliadau, Ymgysylltu a’r Gweithlu Cofnodion: Cyflwynodd Sarah
Pinch, Cadeirydd y Pwyllgor Cynghori ar Daliadau, Ymgysylltu a’r Gweithlu
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor. Nododd y Comisiynwyr yr adroddiadau, ar swyddogaeth
y Pwyllgor Taliadau ac ar y rôl sicrwydd a chynghori ehangach, gan
ganolbwyntio’n benodol ar gynrychiolaeth lleiafrifoedd ethnig ac
economaidd-gymdeithasol fel mater o ddiddordeb arbennig. Mae’r Pwyllgor wedi
cymryd diddordeb allweddol ym metrigau blynyddol y Comisiwn ac yn falch o nodi
canlyniadau cadarnhaol yn yr adroddiadau amrywiaeth a chynhwysiant, yn enwedig
dangosyddion cynnar o gynnydd o ran denu gwell amrywiaeth o ymgeiswyr a
datblygu Cynllun Interniaeth Lleiafrifoedd Ethnig newydd. Croesawodd y
Comisiynwyr y sicrwydd a ddarparwyd gan y Cynghorwyr Annibynnol, yn unigol a
thrwy'r Pwyllgorau, a nodwyd adroddiad y Pwyllgor Cynghori ar Daliadau,
Ymgysylltu a'r Gweithlu. |
|
Cynllunio strategol Cofnodion: Rhoddodd y Llywydd
gyflwyniad i gyfrifoldeb y Comisiwn i baratoi’n iawn ar gyfer y newid sylweddol
y byddai ei angen ar gyfer Diwygio’r Senedd, a thynnodd sylw at y ffaith y
gallai fod angen i Gomisiynwyr wneud newidiadau i’w ffyrdd o weithio mewn
ymateb i’r hyn a fyddai’n gyfnod o waith dwys. |
|
Diwygio’r Senedd Cofnodion: Cafodd y Comisiynwyr wybodaeth yn nodi goblygiadau lefel uchel i'r Comisiwn
mewn ymateb i gynigion i ddiwygio'r Senedd. Mae'r rhain yn ymwneud â chyfrifoldebau'r Comisiwn i ddarparu eiddo, staff
a gwasanaethau ar gyfer y Senedd, a'r fframwaith llywodraethu lefel uchel y
byddai gwaith y Comisiwn yn digwydd ynddo i roi sicrwydd i'r Comisiwn. Nododd y Comisiynwyr: ·
yr angen i ymateb i unrhyw geisiadau am wybodaeth i
lywio'r broses ddeddfwriaethol, gan gynnwys argymhelliad y Pwyllgor Diben
Arbennig mewn perthynas â’r nifer o Gomisiynwyr y Senedd; ·
y dull rhaglen arfaethedig i gefnogi penderfyniadau
effeithiol gan y tair ffrwd waith wahanol (Diwygio'r Comisiwn, Diwygio'r
Senedd, a Diwygio Penderfyniadau) a galluogi goruchwyliaeth effeithiol o
faterion trawsbynciol, megis materion yn y gyllideb sy’n ymwneud â diwygio'r
Senedd, ymgysylltu ag Aelodau a chyfathrebu â rhanddeiliaid; ·
sefydlu Bwrdd Sicrwydd ar y Cyd gyda Llywodraeth Cymru i
roi sicrwydd i'n Swyddogion Cyfrifyddu perthnasol a'r rhai sy'n gwneud
penderfyniadau ar yr elfennau hynny o Raglen Ddiwygio'r Senedd lle mae
cyd-ddibyniaeth ar fuddiant a gwneud penderfyniadau yn bodoli; y trefniadau risg a
sicrwydd a'r adborth gan y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg. |
|
Ffyrdd o weithio: Datblygu Strategaeth Rheoli Adnoddau Cofnodion: Cafodd y Comisiynwyr bapur a oedd yn nodi dull o reoli adnoddau Comisiwn y
Senedd ar gyfer gweddill y Chweched Senedd, yng nghyd-destun Diwygio'r Senedd. Trafodwyd
pwysigrwydd cymryd golwg eang, er mwyn deall y darlun llawn. Nododd y Comisiynwyr y cynhelir adolygiad o gapasiti ac adnoddau presennol
y Comisiwn, gan gynnwys y posibilrwydd o ddyrannu adnoddau presennol i amsugno
costau cyfalaf trosiannol tebygol unrhyw gynlluniau terfynol i ddiwygio'r
Senedd. Cytunwyd i gael 'Strategaeth Rheoli Adnoddau' ddrafft yn yr hydref. Nododd y Comisiynwyr y
tybiaethau cynllunio dros dro a nodwyd a chytunwyd ar y safbwynt mewn egwyddor
y byddai angen ymdrin â chostau cyfalaf trosiannol unrhyw gynlluniau terfynol
Diwygio'r Senedd drwy geisiadau am yr arian angenrheidiol, anghylchol, wedi’i
gyfiawnhau, drwy broses y gyllideb flynyddol. Nododd y Comisiynwyr
hefyd y byddai proses fewnol drylwyr a gynhelir ar y pryd, gan gefnogi
ceisiadau am dwf cyllidebol sy'n seiliedig ar dystiolaeth a wneir yn y Chweched
Senedd hefyd yn cynorthwyo'r Seithfed Senedd pan ddaw i bennu ei hanghenion o
ran adnoddau. Byddai unrhyw gynnydd mewn capasiti ac adnoddau yn cael ei wneud
yn raddol briodol yn y blynyddoedd i ddod, o linell sylfaen gadarn. |
|
Strategaeth Cyllideb Ddrafft 2023-24 Cofnodion: Trafododd y
Comisiynwyr y strategaeth ddrafft ar gyfer 2023-24 i benderfynu ar y dull o
nodi cyllid y Comisiwn yng nghyd-destun paratoi ar gyfer Diwygio'r Senedd a
phwysau eraill. Myfyriwyd y byddai'r cyd-destun hwn yn gofyn am rywfaint o
feddwl ystwyth er mwyn atal effeithio'n andwyol ar wasanaethau a ddarperir gan
y Comisiwn. Cytunodd y Comisiynwyr
ar Fodel B fel sail ar gyfer y wybodaeth ariannol a gyflwynwyd yn y ddogfen
gyllideb ddrafft, ac Opsiwn 3 ar gyfer ei dull cyllidebol a ffefrir ar gyfer
unrhyw gostau ychwanegol y nodwyd eu bod yn ymwneud â Diwygio’r Senedd ar gyfer
2023-24 ac yn dilyn yr adolygiad y cytunwyd arno o’r capasiti presennol. Y dull
fyddai cynnwys unrhyw gostau ychwanegol net fel llinell wrth gefn wedi'i
neilltuo; i’w ddefnyddio at ddibenion Diwygio’r Senedd yn unig, os bydd angen. Cytunodd y Comisiynwyr
hefyd y bydd cyllidebau staff a rhai nad ydynt yn staff ar gyfer 2024-25 a
2025-26 yn adlewyrchu codiadau cyflog a chodiadau chwyddiant, y byddai costau
sy’n gysylltiedig â Diwygio’r Senedd yn parhau i gael eu cynnwys fel symiau
wedi’u neilltuo yn y dyfodol, a byddai costau Diwygio’r Senedd ar gyfer 2024-25
a 2025-26 yn adlewyrchu’r costau staffio y disgwylir iddynt gychwyn yn 2023-24
a chostau cyfalaf yn unig. Byddai hyn yn golygu
nad yw unrhyw gostau adnoddau/staff ychwanegol e.e. a allai gychwyn yn 2024-25
neu 2025-26, yn cael eu cynnwys. Fodd bynnag, byddai naratif ychwanegol yn cael
ei gynnwys yn nogfen y gyllideb i gefnogi'r costau ychwanegol hyn, i egluro’r
ansicrwydd sy'n gynhenid yn y ffigurau, i egluro pam nad yw costau penodol
wedi'u cynnwys ac i nodi pryd y bydd y costau adnoddau/staffio hyn yn y dyfodol
ar gyfer 2024-25 a 2025-26 yn hysbys gyda mwy o sicrwydd. Caiff cyllideb ddrafft
y Comisiwn ei gosod a'i chyhoeddi yn unol ag amserlen ofynnol y gyllideb. |
|
Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant y Chweched Senedd Cofnodion: Trafododd y Comisiynwyr y Strategaeth Amrywiaeth a
Chynhwysiant ddrafft. Croesawyd y cynnydd a wnaed ac roeddent yn gefnogol o’r
camau nesaf a nodwyd, gan fyfyrio ar arwyddocâd yr argymhellion a wnaed gan y
Pwyllgor Diben Arbennig. Cymeradwyodd y
Comisiynwyr y strategaeth. |
|
Enwebiad aelod o'r Bwrdd Pensiynau Cofnodion: Cafodd opsiynau ar
gyfer penodi Ymddiriedolwr Enwebedig y Comisiwn ar y Bwrdd Pensiynau ar gyfer
Cynllun Pensiwn yr Aelodau eu cyflwyno i’r Comisiynwyr. Cytunodd y Comisiynwyr
i enwebu Bob Evans i'w ailbenodi'n Ymddiriedolwr Enwebedig y Comisiwn am dymor
pellach, cyhyd ag y bydd yn parhau'n Gynghorydd Annibynnol y Comisiwn. Gofynnodd y
Comisiynwyr hefyd i swyddogion ystyried y potensial i ymestyn ei benodiad
presennol fel Cynghorydd Annibynnol, gyda golwg ar y cyfnod o newid sylweddol a
ragwelir ar gyfer gweddill tymor y Chweched Senedd. |
|
Papurau i'w nodi: |
|
Strategaeth y Comisiwn (diweddarwyd) Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
diweddariad i’r blaenoriaethau ar gyfer y Chweched Senedd a wnaed yn dilyn
trafodaeth yn y cyfarfod diwethaf, gyda geiriad yn gysylltiedig â'r Comisiwn
fel sefydliad dwyieithog. |
|
Diweddariad y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD) Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
crynodeb o benderfyniadau recriwtio a ddarperir fel mater o drefn i bob
cyfarfod o'r Comisiwn. |
|
Unrhyw faterion eraill Cofnodion: Dim. |