Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Hybrid - Digital. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sulafa Thomas
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad |
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
Datgan buddiannau Cofnodion: Ni chafwyd datganiadau o fuddiant. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion
cyfarfod 11 Gorffennaf. |
|
Strategaeth Rheoli Adnoddau Cofnodion: Cafodd y Comisiynwyr
wybodaeth yn argymell dull o reoli adnoddau yn dilyn yr ymarfer adolygu
capasiti y gofynnwyd amdano, a ddaeth i ben dros yr haf. Mae'r wybodaeth yn
nodi heriau tymor canolig o ran adnoddau a phwysau costau y mae'n rhaid i'r
Comisiwn eu rheoli; ac yn crynhoi opsiynau strategaeth rheoli adnoddau.
Adlewyrchodd y Comisiynwyr fod gofynion o ran capasiti yn rhai allanol – yn
ogystal â rhai sy’n cael eu cynllunio’n fewnol – ac na ellir eu rheoli bob
amser, a thrafodwyd pwysigrwydd peidio â chreu pwysau gormodol ar staff. Nododd y Comisiynwyr y
tybiaethau cynllunio strategol a ganlyn: · mae’n bosibl na fydd y twf o ran gofynion am adnoddau
dros y tair blynedd nesaf yn cael ei gyllido'n llawn; · rhaid sicrhau bod gofynion y Comisiwn am adnoddau dros y
3-4 blynedd nesaf (y cyfnod hyd at flwyddyn gyntaf y Seithfed Senedd, pan fydd
effaith y cynigion presennol ar gyfer diwygio’r Senedd yn cael eu teimlo’n
llawn) yn cael eu rheoli’n rhagweithiol; · dylid sicrhau mai rheoli unrhyw dwf arfaethedig yn
niferoedd staff y Comisiwn fydd y prif ddull o reoli’r pwysau ar adnoddau dros
y cyfnod hwn, gan nodi y bydd y gallu i reoli costau cyfalaf gofynnol, pwysau
chwyddiant a’r twf mewn gofynion costau sefydlog amrywiol yn gyfyngedig iawn
fel arall; ac · mae’n bosibl na fydd adnoddau ar gael ar gyfer y costau
sefydlu ychwanegol posibl sy’n gysylltiedig â rhaglen Ddiwygio’r Senedd, y tu
hwnt i’r rhai a gyflwynwyd eisoes i’r Comisiwn. Cytunodd y Comisiynwyr y dylai’r Bwrdd Gweithredol yn
datblygu Cynllun Ariannol Tymor Canolig dros dair blynedd, ar gyfer y cyfnod o
2024-25 hyd at 2026-27, sy’n gosod ‘cap’ ar nifer staff cyffredinol y Comisiwn,
yn ogystal â gofyniad i gydbwyso’r twf mewn refeniw rheoladwy gydag arbedion
effeithlonrwydd cymesurol yn ystod y cyfnod o dair blynedd a gwmpesir gan y
Cynllun Ariannol Tymor Canolig, er mwyn ceisio mynd i’r afael â'r heriau sydd
yn ein hwynebu o ran adnoddau. Dywedodd y Comisiynwyr na ddylai Diwygio’r
Senedd fod ar draul gwasanaethau’r Comisiwn a ddarperir. Fe gytunon nhw i weld
y cynllun drafft yn y gwanwyn. At hynny, tynnodd y
Comisiynwyr sylw at bwysigrwydd ymgysylltu â staff er mwyn iddynt deimlo’n
hyderus y byddai’r broses yn gweithio. |
|
Cyllideb y Comisiwn ar gyfer 2023-24 Cofnodion: Cyflwynwyd Cyllideb Ddrafft
2023-24 i’r Comisiynwyr a oedd yn tynnu sylw at newidiadau ers cyfarfod y
Comisiwn ar 11 Gorffennaf 2022. Bu’r Comisiynwyr yn
ystyried goblygiadau’r cynnig i wrthdroi’r cynnydd dros dro o 1.25% yng
nghyfraddau Yswiriant Gwladol y Cyflogwr o 6 Tachwedd 2022 a chanslo cyflwyno
treth yr Ardoll Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym mis Ebrill 2023. Cymeradwyodd y
Comisiynwyr Gyllideb Ddrafft 2023-24 i’w gosod gyda diwygiadau i adlewyrchu’r
cynnig i ganslo cyflwyniad treth yr Ardoll Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym mis
Ebrill 2023. Roedd hynny’n golygu cynnydd o 5.06% yng nghyllideb weithredol y
Comisiwn rhwng 2022-23 a 2023-24 (3.8% heb gynnwys Diwygio’r Senedd), a’r
cynnydd yn y gyllideb gyffredinol o 4.06% rhwng 2022-23 a 2023-24; cyfanswm
cyllideb o £67.642 miliwn. At hynny, nododd y
Comisiwn ddatganiad o egwyddorion (dim newid ers 2019) y Pwyllgor Cyllid, a’r
llythyr a anfonwyd gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol at Gadeirydd y
Pwyllgor Cyllid. |
|
Cynghorwyr Annibynnol Cofnodion: Bu'r Comisiynwyr yn ystyried
nifer o faterion yn ymwneud â'u Cynghorwyr Annibynnol. Fe wnaethon nhw gytuno
i'r cylch gorchwyl diwygiedig i newid o Bwyllgor Cynghori Comisiwn y Senedd ar
Daliadau, Ymgysylltu a’r Gweithlu (REWAC) i Bwyllgor Taliadau. Cytunodd y Comisiynwyr
i gael argymhellion mewn perthynas â phenodi Cynghorwyr Annibynnol – gan
gynnwys ar gyfer Aelodaeth y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg a’r Pwyllgor
Taliadau – y tu allan i’r cyfarfod, ar ôl i’r broses recriwtio ddod i ben yn
fuan. At hynny, fe wnaethant gytuno i ymestyn penodiad presennol Bob Evans fel
Cynghorydd Annibynnol am ddwy flynedd ychwanegol, gan ddisgwyl y byddai'n
parhau yn ei rôl fel Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg. |
|
Diweddariad ynghylch COVID-19 Cofnodion: Rhoddwyd y wybodaeth
ddiweddaraf i’r Comisiynwyr am y fframwaith y cytunwyd arno gan y Bwrdd
Gweithredol ar gyfer mesurau rheoli risg COVID-19, a fyddai’n caniatáu i’r
sefydliad ymateb mewn ffordd ystwyth i unrhyw newidiadau yn y dyfodol i
gyd-destun COVID-19. Gallai hyn gynnwys canllawiau newydd gan Lywodraeth Cymru
neu newidiadau i gyfraddau achosion cymunedol, a byddai’n ffurfio rhan o
baratoadau ar gyfer trefniadau parhad busnes wrth edrych tuag at dymor
firysau’r gaeaf. Croesawodd y Comisiynwyr y lefelau da o wybodaeth a ddarparwyd
i gydymffurfio â gofynion y Comisiwn ar gyfer presenoldeb ar y safle. |
|
Llythyr diweddaru y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus / y Pwyllgor Cyllid Cofnodion: Cytunwyd ar lythyr i
roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth
Gyhoeddus am y cynnydd mewn perthynas â phlastig untro a gwariant ar gyflenwyr
o gwmnïau o Gymru. |
|
Adolygiad interim o Gyflogau 2022 Cofnodion: Rhoddwyd gwybodaeth i’r Comisiynwyr am yr Adolygiad Interim o Gyflogau –
a gynhaliwyd fel y cynlluniwyd ym mis Mai a mis Mehefin eleni fel rhan o’r
cytundeb presennol sydd ar waith hyd at 2025 – a chawsant eu hysbysu am
Bleidlais ar Streic Genedlaethol ynghylch Cyflogau a oedd wedi agor, ac a
fyddai'n cau ar 6 Tachwedd. Trafododd y Comisiynwyr yr
amgylchedd presennol o ran cyflogau a chostau byw a gofyn am gael eu cadw i’r
funud. |
|
Papurau i'w nodi: |
|
Cynllun Pensiwn yr Aelodau – newid i fuddsoddiadau Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr newid i strategaeth fuddsoddi Cynllun Pensiwn
Aelodau o’r Senedd, a wnaed gan y Bwrdd Pensiynau. |
|
Diweddariad y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD) Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
crynodeb o benderfyniadau recriwtio a ddarperir fel mater o drefn i bob
cyfarfod o'r Comisiwn. |
|
Cofnodion Cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg ar 15 Mehefin Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
diweddariad arferol am gyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg a
ddarperir i'r Comisiwn. |
|
Unrhyw faterion eraill Cofnodion: Diolchodd Comisiynydd
am yr holl waith a oedd wedi'i wneud i gyflawni'r trefniadau yn dilyn
marwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines ac ymweliad y Brenin Charles III â'r Senedd. |