Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Digital. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sulafa Thomas 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad

1.a

Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ni ddaeth ymddiheuriadau i law ar gyfer y cyfarfod.

1.b

Datgan buddiannau

Cofnodion:

Datganodd y Llywydd fuddiant (anariannol) mewn perthynas ag Eitem 8, fel Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol 2022, a fydd yn digwydd yn Nhregaron.

1.c

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod 14 Mawrth.

2.

Cyllideb Atodol 2022-23

Cofnodion:

Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol 2022-23. Nodwyd y wybodaeth a ddarparwyd, a diweddariad llafar yn ymwneud â'r costau a nodwyd i gefnogi'r gwaith o weinyddu'r Bwrdd Taliadau Annibynnol (y sbardunau sydd wedi cynyddu llwyth gwaith y Bwrdd, a'i strategaeth ynghyd â'r rhaglen waith amlinellol y mae wedi cytuno arni ar gyfer y Chweched Senedd).  Gofynnodd y Comisiynwyr hefyd am i wybodaeth ychwanegol gael ei pharatoi ar eu cyfer am y defnydd o'r 'car ar gyfer pawb' a thrafodwyd annog defnyddio cerbyd trydan mewn cysylltiad â’r cerbyd hwnnw.

Cytunodd y Comisiwn ar y Memorandwm Esboniadol er mwyn cyflwyno Cyllideb Atodol i'w chynnwys yng nghynnig cyllideb cyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23. Byddai hyn yn golygu cynnydd o £2.061 miliwn i’r Gyllideb a osodwyd ar gyfer 2022-23, gyda chynnydd o £0.325 miliwn o ganlyniad i hynny yn y gofyniad arian parod net. Ystyriodd y Comisiynwyr mai'r cam nesaf fyddai i'r Pwyllgor Cyllid graffu ar y Memorandwm Esboniadol.

Byddai'r newidiadau a nodir yn y Memorandwm Esboniadol yn ymwneud â:

-          chynnydd o £1.736 miliwn yn y gyllideb gyffredinol, i adlewyrchu'r safon newydd - Safon Adrodd Ariannol Ryngwladol (IFRS) 16 – Prydlesi, a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2022. Ni fydd hyn yn cynyddu'r gofyniad arian parod net.

-          newidiadau i’r gyllideb a nodwyd ar gyfer Penderfyniad y Bwrdd Taliadau Annibynnol ar Gyflogau a Lwfansau'r Aelodau. Nid yw newidiadau a gynigir i linellau'r gyllideb unigol yn arwain at unrhyw gynnydd cyffredinol;

-          cynnydd net o £150,000 yn y gyllideb gyffredinol a'r gofyniad arian parod net; yng ngoleuni'r costau i gefnogi'r gwaith o weinyddu’r Bwrdd Taliadau Annibynnol (cynnydd o £218,000) a Swyddfa'r Comisiynydd Safonau (gostyngiad o £68,000), (gyda thryloywder ychwanegol ar y costau hyn yn y gyllideb hon ac mewn cyllidebau a osodir yn y dyfodol);

-          cynnydd o £175,000 yn y gyllideb gyffredinol a'r gofyniad arian parod net, i adlewyrchu'r cynnydd mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr.

Byddai'r Comisiynwyr yn cael briff ysgrifenedig yn ymwneud â chefnogi’r gwaith o weinyddu'r Bwrdd Taliadau Annibynnol, gyda gwybodaeth ychwanegol i'w chynnwys yn y llythyr y cytunir arno at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid.

3.

Ffyrdd o weithio

Cofnodion:

Rhoddwyd diweddariad i’r Comisiynwyr am y cynnydd a wnaed o ran cyflawni Cynllun Gweithredu Interim Ffyrdd o Weithio a materion a risgiau cysylltiedig.

Cytunodd y Comisiynwyr y dylid gwneud gwaith paratoi a gweithgarwch ymgysylltu rhesymol, fel y nodir yn yr adroddiad, i lywio penderfyniadau yn ddiweddarach yn y flwyddyn, ac yna ar gyfer y tymor canolig i'r tymor hwy, mewn perthynas â ffyrdd o weithio.

Roeddent yn cefnogi'r bwriad i gynnal yr ymarfer ymgysylltu ehangach mewn cydweithrediad â'r Bwrdd Taliadau Annibynnol.

Nododd y Comisiynwyr wybodaeth hefyd am y model amlinellol y cytunodd y Bwrdd Gweithredol arno o ran rheoli’r ffordd y bydd staff y Comisiwn yn dychwelyd i'r ystâd. Roedd hwn yn nodi egwyddorion trefnu presenoldeb yn seiliedig ar weithgareddau a hierarchaeth o ran anghenion busnes.

4.

Cyllideb Ddrafft y Comisiwn 2023-24

Cofnodion:

Ystyriodd y Comisiynwyr wybodaeth gefndir i lywio eu syniadau ynghylch paratoi ar gyfer ei chyllideb ar gyfer 2023-24, a nodwyd y pwysau sy'n debygol o gael effaith.

Rhagwelir y cynhelir ystyriaeth bellach ym mis Gorffennaf. Bydd y Gyllideb Ddrafft yn cael ei chyflwyno i'r Comisiwn yn ei gyfarfod ym mis Medi.

5.

Gwasanaeth Darlledu yn y Dyfodol

Cofnodion:

Rhoddodd y Comisiynwyr gymeradwyaeth i fwrw ymlaen â'r model a argymhellir ar gyfer darparu gwasanaeth darlledu i’r Senedd yn y dyfodol, drwy fodel contract Darlledwr y Senedd tebyg am debyg, am dymor o bum mlynedd.

6.

Fframwaith Achredu / Partneriaid Strategol

Cofnodion:

Roedd y Comisiynwyr wedi gofyn i waith gael ei wneud i ddatblygu fframwaith achredu ar gyfer ceisiadau i lywio'r broses o wneud penderfyniadau.

Trafododd a chymeradwyodd y Comisiynwyr fframwaith i'w ddefnyddio gan Swyddogion y Comisiwn wrth benderfynu a ddylid cymeradwyo sefydliad neu bartneru gyda sefydliad sy'n hyrwyddo achos (neu achosion) penodol. 

Roedd eu cytundeb yn cynnwys:

·         bod yr holl wasanaethau a brynir yn parhau o dan bolisïau caffael y Comisiwn; ac

·         egwyddor gyffredinol na ddylai'r Comisiwn gymeradwyo, achredu na phartneru gydag, elusennau neu godwyr arian eraill oni bai bod hynny yn unol â'r fframwaith. 

Roeddent yn cytuno mai’r eithriadau i'r egwyddor gyffredinol hon oedd Apêl y Pabi a gweithgareddau ar raddfa fach fel casgliadau a gwerthiannau cacennau.

Teimlai'r Comisiynwyr y byddai'r fframwaith yn arf defnyddiol a gofynasant am gael gweld asesiad yn y dyfodol o unrhyw cysylltiadau presennol pe na bai unrhyw rai yn bodloni gofynion y fframwaith.

7.

Lefel Ddirprwyo'r Comisiwn

Cofnodion:

Cytunodd y Comisiynwyr i gadw'r lefel ddirprwyo bresennol ar gyfer awdurdodi gwariant cyfalaf ar brosiectau neu gontractau.

8.

Digwyddiadau'r haf

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr gynlluniau ar gyfer dychwelyd i Sioeau'r Haf am y tro cyntaf ers y pandemig a hynny wyneb yn wyneb.

Byddai'r presenoldeb hwn yn un elfen o becyn ehangach o weithgarwch ymgysylltu fel y nodwyd yn y Strategaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu y cytunwyd arni.

Nododd y Comisiynwyr gynlluniau ar gyfer elfen ddigidol gryfach i ategu presenoldeb wyneb yn wyneb a gofynnwyd am fathau eraill o weithgareddau a digwyddiadau mawr sy'n denu niferoedd uchel ac a allai fod yn llwybr i ymgysylltu â gwahanol gynulleidfaoedd.

9.

Papurau i'w nodi

9.a

Cynllun Cyflawni Corfforaethol

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr Gynllun Cyflawni Corfforaethol 2022-23 y Comisiwn.

9.b

Cofnodion ARAC (y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg) 14 Chwefror

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr y diweddariad arferol ynghylch cyfarfodydd ARAC (y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg).

9.c

Diweddariad y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD)

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr y crynodeb o benderfyniadau recriwtio a ddarperir fel mater o drefn i bob cyfarfod o'r Comisiwn.

10.

Unrhyw faterion eraill

Cofnodion:

Dim.