Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Hybrid - Digital. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sulafa Thomas
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad |
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau |
|
Datgan buddiannau Cofnodion: Ni chafwyd datganiadau
o fuddiant. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion
cyfarfod 31 Ionawr. |
|
Ystâd y Senedd a ffyrdd o weithio yn y dyfodol Cofnodion: Trafododd y Comisiynwyr y camau nesaf yn dilyn trafodaethau am Strategaeth
yr Ystâd ym mis Tachwedd a mis Ionawr. Cydnabuwyd y berthynas gyd-ddibynnol
rhwng ffyrdd o weithio a'r amgylchedd gwaith. Cytunodd y Comisiynwyr i ddwyn ynghyd yn ffurfiol uchelgeisiau’r Comisiwn
ar gyfer gweithio ystwyth a gweithio hyblyg, yr adolygiad o gapasiti, a'r
gofynion llety mewn un strategaeth Ffyrdd o Weithio a rhaglen gyflawni
gysylltiedig. Nodwyd map trywydd lefel uchel Ffyrdd o Weithio a'r broses
datblygu achos busnes, fel y’i nodwyd, a chymeradwywyd elfennau cychwynnol y
gwaith hwn ar gyfer eu datblygu'n gyflym o dan gynllun gweithredu interim.
Trafododd y Comisiynwyr bwysigrwydd sicrhau bod y trefniadau llywodraethu ar
gyfer y materion strategol bwysig hyn yn gadarn, a phwysleisiwyd y pwysigrwydd
y maent yn ei roi ar ymgysylltu ac ymgynghori drwy gydol y broses. Wrth wneud
hynny, mynegwyd cefnogaeth i weithio gyda phartneriaid i ddeall anghenion pawb
sy’n gysylltiedig. Byddai’r cynlluniau gweithredu’n cynnwys, mewn perthynas â llety ym Mae
Caerdydd: • cyflogi ymgynghorwyr eiddo
i roi cyngor penodol, • drafftio strategaeth
bresenoldeb, gan ymdrin â modelau gweithio hybrid, • cyflogi ein hymgynghorwyr
swyddfa i gynnig cyngor pellach ar symud y tu hwnt i’n cynlluniau peilot
presennol ar gyfer gweithio hybrid, • dechrau’r broses ffurfiol o
gadarnhau gofynion Llywodraeth Cymru ynghylch ei defnydd o ystâd y Senedd yn y
dyfodol a datblygu opsiynau ar gyfer sut i fodloni’r gofynion hynny, ac ysgrifennu
at y Bwrdd Taliadau i fynegi diddordeb mewn gweithio’n agos ar faterion sy’n
ymwneud â ffyrdd o weithio yn y dyfodol. O ran presenoldeb rhanbarthol y Senedd, byddai’r cynlluniau cychwynnol yn
cynnwys: • prosiect i archwilio
cynigion ar gyfer hybiau Senedd rhanbarthol yn y gogledd, y canolbarth a’r
gorllewin, gan nodi amseroedd mewn perthynas â swyddfeydd Bae Colwyn, a • chysylltu’n ffurfiol â Llywodraeth Cymru ynglŷn â
defnyddio dull partneriaeth i ddatblygu opsiynau ar gyfer hybiau Senedd rhanbarthol. Cytunodd y Comisiynwyr
hefyd y dylid cynnal adolygiad mewnol ynglŷn â defnyddio adeilad y
Pierhead yn y dyfodol. |
|
Strategaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu Cofnodion: Gwnaeth y Comisiynwyr drafod a chytuno ar y Strategaeth Cyfathrebu ac
Ymgysylltu ar gyfer y Chweched Senedd. Mae’r Strategaeth yn tynnu ar
gyflawniadau’r Bumed Senedd a’r cyfleoedd niferus sydd wedi codi yn sgil y
pandemig i gynyddu cyfranogiad ac ymgysylltiad.
Trafododd y
Comisiynwyr bwysigrwydd cyrraedd y 'lleisiau tawel', a dangos perthnasedd y
Senedd i fywydau'r rheini yng Nghymru. |
|
Y contract arlwyo Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Comisiynwyr opsiynau ar gyfer y contract
arlwyo, a chytunwyd i ail-dendro am gontract byrrach. Pwysleisiwyd arwyddocâd
graddfeydd cyflog cyfartal ar gyfer staff ar gontract â’r rhai sy’n cael eu
cyflogi gan y Comisiwn, a nodwyd y byddai’r hyn a benderfynir yn galluogi
gwaith i gael ei wneud fel y byddai opsiynau ar gyfer darpariaeth yn y dyfodol
hefyd yn ystyried awydd y Comisiwn i gefnogi cyfleoedd yng Nghymru. |
|
Canlyniad yr adolygiad o ddangosyddion perfformiad allweddol Cofnodion: Cytunodd y Comisiynwyr
ar newidiadau i'r dangosyddion perfformiad allweddol corfforaethol, a nodwyd
datblygiad mesurau dangosyddion llwyth gwaith ac allbwn mewnol. Cytunwyd i gael
data dangosyddion perfformiad allweddol interim sy’n adlewyrchu pwynt chweched
mis y flwyddyn. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddiogelwch Cofnodion: Cafodd y Comisiynwyr adroddiad cynnydd ar y camau sy'n cael eu cymryd i
gefnogi Aelodau i wneud gwelliannau diogelwch ac ar waith y Tîm Diogelwch i
gynyddu ei effeithiolrwydd ymhellach wrth gefnogi Aelodau i gadw’n ddiogel. Cytunwyd y byddai'n
ddefnyddiol i'r wybodaeth gael ei rhannu â’r holl Aelodau fel dechrau proses o
sicrhau bod yr Aelodau’n cael y wybodaeth ddiweddaraf am y materion hyn yn
rheolaidd. |
|
Seiberddiogelwch Cofnodion: Cafodd y Comisiynwyr fanylion am y camau a gymerwyd eisoes i ddiogelu’r
Senedd rhag ymosodiadau seiber, ynghyd â’r camau gweithredu sydd yn yr arfaeth
neu a awgrymir at y dyfodol er mwyn aros yn barod i ddelio â natur esblygol y
bygythiad, sydd wedi dwysáu oherwydd digwyddiadau rhyngwladol diweddar. Gofynnodd y
Comisiynwyr am i friffio uniongyrchol gael ei gynnig i bob un o'r grwpiau
plaid. |
|
Springtide Cofnodion: Cafodd y Comisiynwyr
wybodaeth am y trefniadau a fyddai ar waith yn dilyn marwolaeth y Frenhines,
gan gynnwys cynlluniau teithio i'r Aelodau bryd hynny. |
|
Diweddariad ynghylch Covid Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y gwaith sy'n cael ei wneud ar yr asesiad Risg
Corfforaethol mewn ymateb i'r newidiadau diweddaraf i'r fframwaith rheoleiddio
Covid a'r newidiadau a ragwelir. Trafodwyd pwysigrwydd
parhau i fod yn weddol ofalus ac arwyddocâd y cymorth a roddir i bobl sy'n
gweithio ar yr ystâd. |
|
Papurau i’w nodi: |
|
Diweddariad y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD) Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
crynodeb arferol o benderfyniadau recriwtio a ddarperir i bob cyfarfod o’r
Comisiwn. |
|
Unrhyw fater arall Cofnodion: Yn y cyfnod ers y
cyfarfod diwethaf, mae’r Comisiynwyr wedi gwneud un penderfyniad ar gynigion i
osod plac coffa ar ystâd y Senedd. |