Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Lleoliad Allanol. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sulafa Thomas
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad |
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Ni chafwyd
ymddiheuriadau. |
|
Datgan buddiannau Cofnodion: Ni chafwyd datganiadau
o fuddiant. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion
cyfarfod y Comisiwn a gynhaliwyd ar 8 Tachwedd. |
|
Strategaeth yr ystâd Cofnodion: Trafododd y Comisiynwyr nifer o ffactorau sy'n
berthnasol i ddatblygu Strategaeth Ystâd Comisiwn y Senedd. Roedd y rhain yn cynnwys anghenion swyddfeydd
hirdymor i’r Aelodau a staff, defnydd mwy hyblyg ac ystwyth o swyddfeydd,
ystyried yr angen am bresenoldeb ar sail ranbarthol ehangach a’r defnydd o'r
Pierhead. Rhoddodd y Comisiynwyr
adborth ar yr ystyriaethau strategol a nodwyd, a gwnaethant ofyn am wybodaeth
ychwanegol ynghylch rhai meysydd. |
|
Diweddariad ynghylch COVID-19 Cofnodion: Hysbyswyd y Comisiynwyr am ddatblygiadau mewn perthynas â gwasanaethau'r
Comisiwn, a nodwyd y byddai busnes y Cyfarfod Llawn yn cael ei gynnal yn
rhithwir yn ystod yr wythnos i ddod, a bod y Senedd ar gau i’r cyhoedd. Cadarnhawyd y byddai’r Aelodau a’u staff yn parhau i allu cael mynediad i
Dŷ Hywel at ddibenion busnes, neu pan fo anghenion o ran llesiant os yw eu
hamgylchiadau’n golygu nad ydynt yn gallu gweithio’n effeithiol gartref. Cytunodd y Comisiynwyr, yng ngoleuni'r sefyllfa iechyd cyhoeddus presennol,
y dylid gohirio neu ganslo digwyddiadau ar yr ystâd am y cyfnod hyd at hanner
tymor mis Chwefror. Gwnaethant gytuno i
ail-ystyried y sefyllfa hon yn eu cyfarfod ar 31 Ionawr. |
|
Cyllideb Atodol 2021-22 Cofnodion: Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Comisiynwyr am y sefyllfa ariannol yn
2021-22. Gan ystyried y tanwariant mewn perthynas â'r gyllideb costau etholiad a
neilltuwyd, a'r tanwariant a ragwelir mewn perthynas â'r gyllideb a neilltuwyd
ar gyfer Penderfyniad y Bwrdd Taliadau Annibynnol, cymeradwyodd y Comisiynwyr y
Memorandwm Esboniadol a fydd yn cynnwys gostyngiad o £1.70 miliwn yng
Nghyllideb 2021-22 a osodwyd. Bydd y Memorandwm Esboniadol yn cael ei osod fel
rhan o broses y Gyllideb Atodol. Roedd hyn i fod yn amodol ar ganlyniadau cyfrifon mis Rhagfyr, a bydd y
Comisiynwyr yn cael eu hysbysu ynghylch unrhyw newid. Cafodd y llythyr at
Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ei gymeradwyo a’i nodi gan y Comisiynwyr hefyd. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddiogelwch Cofnodion: Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf
i'r Comisiynwyr am y mesurau sy'n cael eu cymryd o ran materion diogelwch a
amlygwyd yn ddiweddar. Rhoddwyd gwybod i'r
Comisiynwyr hefyd am drafodaethau sy'n mynd rhagddynt ar lefel uwch rhwng y
Comisiwn a heddluoedd yng Nghymru. |
|
Y diweddaraf am recriwtio lefel uwch Cofnodion: Yn unol â gofynion y Ddirprwyaeth ar gyfer ymgynghori, hysbyswyd y Comisiwn
am y cynnydd a wnaed tuag at y cynigion y cytunwyd arnynt yn flaenorol i wneud
newidiadau i bortffolios Cyfarwyddwr fel rhan o’r gwaith o addasu'r uwch
strwythur. Cawsant y wybodaeth ddiweddaraf am werthusiadau a oedd wedi digwydd ac
ymarferion recriwtio ar y gweill. Roedd y rhain yn ymwneud â swyddi'r Prif
Gynghorydd Cyfreithiol, Cyfarwyddwr Adnoddau a Chyfarwyddwr Busnes y Senedd. Gwnaeth aelodau Bwrdd
Gweithredol y Comisiwn, ac eithrio’r Clerc, eu hunain yn absennol ar gyfer yr
eitem hon. |
|
Papurau i'w nodi: |
|
Diweddariad gan y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD) Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
crynodeb arferol o benderfyniadau recriwtio a ddarperir i bob cyfarfod o’r
Comisiwn. |
|
Unrhyw fater arall Cofnodion: ·
Hysbyswyd y
Comisiynwyr am ohebiaeth gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth
Gyhoeddus (i) adroddiad y Pwyllgor ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y
Comisiwn. Roedd pedwar argymhelliad, a byddai ymateb yn cael ei ddarparu ar
gyfer cyfarfod nesaf y Comisiwn; a (ii) llythyr ychwanegol yn gofyn am
ystyriaeth y Comisiwn. Cadarnhawyd i'r
Comisiynwyr fod yr ymgynghoriad ar gynigion i newidiadau i Reolau'r Swyddog
Cyfrifyddu yn fyw. Ers y cyfarfod diwethaf, fe wnaeth y Comisiynwyr un
penderfyniad yn ymwneud ag ymestyn y contractau presennol a oedd ar waith ar
gyfer Cynghorwyr Annibynnol i'r Comisiwn. |