Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Hybrid - Digital. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sulafa Thomas
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad |
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Ni chafwyd
ymddiheuriadau. |
|
Datgan buddiannau Cofnodion: Ni chafwyd datganiadau
o fuddiant. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion
cyfarfod y Comisiwn a gynhaliwyd ar 27 Medi. |
|
Diogelwch Cofnodion: Hysbyswyd y Comisiynwyr am gynlluniau a chanllawiau yn ymwneud â
phrotestiadau ar yr ystâd. Fe'u hysbyswyd hefyd o fesurau diogelwch ychwanegol sy'n cael eu roi ar
waith er mwyn rhoi cyngor i’r Aelodau a’u staff a gwella eu diogelwch personol,
ochr yn ochr â'r gefnogaeth bresennol sydd ar gael. Roedd camau hefyd yn cael
eu cymryd i symleiddio'r broses o gyflwyno newidiadau diogelwch angenrheidiol.
Cytunodd y Comisiynwyr y byddant yn pwysleisio i’w grwpiau ba mor bwysig ydyw
i’r Aelodau ymgysylltu â gwasanaeth diogelwch y Comisiwn. Roedd y Comisiwn wedi
cael cais i ystyried cymryd rhan yng nghynllun diogelwch cymunedol Safe Place.
Ar ôl ystyried y goblygiadau yn ofalus, roedd y Comisiynwyr yn teimlo na
ddylai'r Comisiwn ymuno â'r cynllun o safbwynt risg diogelwch; fodd bynnag,
nodwyd a chroesawyd ymdrechion y timau diogelwch ar y safle i gynnig cefnogaeth
anffurfiol ar sawl achlysur. |
|
Ymateb i’r Pwyllgor Cyllid ynglŷn â’r Gyllideb Cofnodion: Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth
ddiweddaraf am hynt Cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2021-22 drwy'r broses
graffu. Cytunodd y Comisiynwyr
ar eu hymateb i'r argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid a gwnaethant
gymeradwyo'r Gyllideb Derfynol ar gyfer 2022-23 a osodwyd ar 10 Tachwedd. |
|
Cyfeiriad Strategol y Comisiwn Cofnodion: Yn dilyn ystyriaeth ym
mis Gorffennaf a mis Medi o’r hyn a ddysgwyd, prif sbardunau ar gyfer newid a'r
dull ystwyth o ddarparu gwasanaethau yn y dyfodol, cytunodd y Comisiynwyr ar
strategaeth y Comisiwn, a fydd yn pennu cyfeiriad lefel uchel ar gyfer ei waith
dros y pum mlynedd nesaf. |
|
Polisi Urddas a Pharch - adolygiad tair blynedd Cofnodion: Rhoddwyd gwybodaeth i'r Comisiynwyr am waith a ddechreuwyd i gynnal
adolygiad ym mlwyddyn tri o Bolisi Urddas a Pharch y Senedd, yn unol â'r
ymrwymiad yn y polisi. Cytunodd y Comisiynwyr ar gynnal ymarfer ymgynghori ddechrau 2022 a fydd yn
gofyn i Aelodau, eu staff cymorth a staff y Comisiwn am eu barn am y polisi a'r
broses gyfredol. Gwnaethant gytuno
hefyd i ohirio'r arolwg Urddas a Pharch blynyddol 12 mis tan fis Mai/Gorffennaf
2022 unwaith y caiff polisi wedi'i adnewyddu ei gytuno. |
|
Diogelu Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y cais diweddar gan Aelod i'r Comisiwn i roi camau ar
waith i gyflwyno gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer Aelodau, a
nodwyd yr anawsterau yn hyn o beth. Gwnaethant nodi bod y
wybodaeth a'r gefnogaeth i gyflawni eu cyfrifoldebau diogelu ar gael i'r
Aelodau, a chytunodd y Comisiynwyr i annog Aelodau'n gryf i roi eu polisïau a'u
gweithdrefnau eu hunain ar waith i nodi disgwyliadau clir o ran yr ymddygiadau
a ddisgwylir fel rhan o ymrwymiad i ddiogelu; ac i fanteisio ar y ddarpariaeth
hyfforddiant sydd ar gael iddyn nhw a'u staff trwy Dîm Dysgu’r Aelodau. |
|
Y Rhuban Gwyn a’r dull achredu Cofnodion: Trafododd y
Comisiynwyr ddull cyfredol y Comisiwn o geisio achrediad, a chytunwyd y dylid
datblygu Fframwaith Elusennau ac Achredu. Byddai hyn ar gyfer cefnogi’r
Comisiynwyr, neu swyddogion y Comisiwn, i wneud penderfyniadau yn y dyfodol ar
gefnogi elusennau a chynlluniau achredu penodol. Cytunodd y Comisiynwyr
hefyd i ystyried yr achos dros geisio achrediad gan y Rhuban Gwyn o dan y
fframwaith newydd hwnnw. |
|
Ymestyn contract Rheoli Cyfleusterau Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr
wybodaeth am ymestyn y contract Rheoli Cyfleusterau 11 mis. |
|
Papurau i’w nodi: |
|
Ymateb i sesiwn graffu’r Pwyllgor Cyllid Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd i'r Pwyllgor Cyllid yn dilyn y sesiwn graffu
ym mis Hydref. |
|
Ymateb i sesiwn graffu’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a
Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn dilyn y sesiwn graffu ym mis Hydref. |
|
Trefniant Aberthu Cyflog ar gyfer Cerbydau Trydan Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
wybodaeth am gynlluniau i gyflwyno Cynllun Aberthu Cyflog ar gyfer cerbydau
trydan, a nodwyd y byddai'r Bwrdd Taliadau yn cael gwybod am argaeledd y
cynllun er mwyn iddo ystyried unrhyw faterion yn ymwneud â chyflog a lwfansau’r
Aelodau. |
|
Nodiadau gan Grŵp Cyswllt Pleidiau’r Senedd Cofnodion: Cafodd y Comisiynwyr y
nodiadau o gyfarfod cyntaf grŵp cyswllt y pleidiau er gwybodaeth. |
|
Diweddariad y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD) Cofnodion: Nododd y Comisiynwyr y
crynodeb arferol o benderfyniadau recriwtio a ddarperir i bob cyfarfod o’r
Comisiwn. |
|
Unrhyw fater arall Cofnodion: ·
Diweddariad Covid -
presenoldeb ar yr ystâd Cafodd y Comisiynwyr wybodaeth am y camau sy'n cael eu cymryd i sicrhau y
gellir cynnal digwyddiadau mor ddiogel â phosibl, gyda lefelau presenoldeb pobl
yn gymesur â'r lefelau risg cyfredol. Fe'u hysbyswyd am y
canlynol: -
Trafod gohirio rhai
digwyddiadau -
Annog digwyddiadau
hybrid i leihau nifer y bobl a fydd yn bresennol wyneb yn wyneb -
Lleihau nifer y bobl
sy’n dod yn bersonol i'n rhaglen digwyddiadau (manylion isod) -
Cynyddu’r lle ffisegol
sy'n cael ei ddefnyddio -
Atgoffa trefnwyr o'r
gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb -
Parhau i argymell i
drefnwyr y dylai’r rhai sy’n bresennol gymryd Profion Llif Unffordd -
Prosesau asesu risg
trwyadl ·
Cynghorwyr Annibynnol Cafodd y Comisiynwyr y
wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd o ran y trefniadau ar gyfer cynghorwyr
annibynnol y Comisiwn a benodwyd am gyfnod o dair blynedd. Tynnwyd sylw at
waith ar werthusiad o effeithiolrwydd a’r awydd i symud tuag at gylch mwy
graddol ar gyfer penodiadau. Yn unol â hynny, mae’r Comisiynwyr i gael
gwybodaeth bellach ar ôl y cyfarfod, ac fe'u gwahoddwyd i rannu unrhyw adborth
perthnasol. ·
Festival UK Trafododd y Comisiynwyr y ffaith
bod trefnwyr yr ŵyl wedi mynegi diddordeb mewn defnyddio'r Senedd fel
lleoliad yn ystod toriad yr haf 2022. Trafodwyd y risgiau
sy'n gysylltiedig â'r cyfyngiadau a fyddai ar weithgareddau eraill o ganlyniad
i gymryd rhan yn yr ŵyl. Daeth y Comisiynwyr i'r casgliad bod y risgiau
hyn i’w gweld yn anghymesur ac felly nid oeddent yn teimlo y dylid mynd ar
drywydd y cyfle. |