Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Carys Evans, 029 2089 8598
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad y Cadeirydd |
|
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Rhodri Glyn Thomas a David Melding |
|
Datganiadau o fuddiant Cofnodion: Nid oedd buddiannau i’w datgan. |
|
Strategaeth Gwasanaethau TGCh yn y dyfodol · Papur 1A · Papur 1B Cofnodion: Bydd Cytundeb Merlin, ar gyfer darparu gwasanaethau TGCh i’r Cynulliad,
yn dod i ben yn 2014. Mae’n ofynnol bod y Comisiwn yn hysbysu Llywodraeth Cymru
ac Atos o’i benderfyniad ynghylch darparu gwasanaethau TGCh i’r Cynulliad yn y
dyfodol erbyn mis Ebrill 2013. Ym mis Tachwedd 2011, cytunodd y Comisiwn i asesu dau opsiwn: ymestyn
cytundeb Merlin; neu symud at ddarpariaeth fewnol gymysg. Cafodd y Comisiynwyr wybodaeth fwy manwl er mwyn llywio’u penderfyniad
ynghylch gwasanaethau TGCh i’r Cynulliad yn y dyfodol. Cytunwyd y dylid gwahodd
cynrychiolwyr o Atos i’r cyfarfod ar 5 Tachwedd er mwyn i’r Comisiynwyr roi
ystyriaeth lawn i’r opsiwn o ymestyn cytundeb Merlin. Cam i’w
gymryd: Y Comisiynwyr i
wahodd cynrychiolwyr o Atos i roi cyflwyniad yn eu cyfarfod ar 5 Tachwedd. Y
penderfyniad ynghylch gwasanaethau TGCh yn y dyfodol i’w wneud mewn cyfarfod
ychwanegol ar 12 Tachwedd. |
|
Unrhyw Fusnes Arall Cofnodion: Nid oedd unrhyw fater arall. Yr
Ysgrifenyddiaeth Hydref 2012 |